Y saws cyfrinachol sy'n gwneud Greggs yn arbennig
14 Awst 2023
Yn y sesiwn ddiweddaraf yng Nghyfres Brecwast Briffio Ysgol Busnes Caerdydd, rhannodd Prif Swyddog Ariannol Greggs gipolwg unigryw ar y cwmni, ei werthoedd, a'r hyn sy'n ei wneud yn frand poblogaidd.
Cyflwynodd Dr Deborah Hann, Darllenydd Cysylltiadau Cyflogaeth yn Ysgol Busnes Caerdydd, y sesiwn rithwir gyda Richard Hutton, Prif Swyddog Ariannol yn Greggs.
Cyn cyflwyno Richard, cyfeiriodd Dr Hann at y ffaith fod Greggs wedi’i enwi’n un o’r lleoedd hapusaf i weithio yn y DU, a’i fod yn gwmni sy’n aml yn rhoi gwerthoedd ar flaen ac wrth galon ei fusnes.
I gychwyn pethau, dangoswyd fideo am siopau Greggs a’r Greggs Foundation, yn dangos y ffyrdd y mae Greggs yn cefnogi cymunedau lleol.
Dechreuodd Richard drwy ddweud ei fod wedi gweithio yn Greggs ers 25 mlynedd, gyda’r swydd yn rhoi boddhad iddo a’r siopau’n gwneud gwahaniaeth gwirioneddol i’r cymunedau y maent yn gweithredu ynddynt.
Wrth siarad yn fanylach am siopau Greggs, esboniodd Richard eu bod yn rhannu elw o’r siopau gyda sefydliadau cymunedol lleol, o fanciau bwyd i elusennau digartrefedd a cheginau cawl. Mae’r siopau hefyd yn mynd i’r afael â gwastraff bwyd, gan ddefnyddio sianeli i wthio bwyd dros ben a’i werthu’n rhad i gymunedau sydd ei angen.
Symudodd y drafodaeth ymlaen at sut mae Greggs wedi dod yn fusnes sy'n un o eiconau gwledydd Prydain, gyda chasgliad o ddillad Greggs yn cael ei werthu yn Primark, baneri Greggs i’w gweld yn Glastonbury, a rhaglen am y cwmni yn cael ei darlledu ar sianel 5.
Dywedodd Richard: “Mae’r cyhoedd yn teimlo rhyw gynhesrwydd at Greggs gan nad ydyn ni erioed wedi cymryd ein hunain ormod o ddifrif.” Esboniodd eu bod nhw’n ceisio ymuno yn y jôc, yn ceisio peidio â bod yn rhy glyfar, ac yn cael ychydig o hwyl gyda'u cysylltiadau cyhoeddus. Mae hyn wedi eu helpu i ddod yn frand pwysig ledled y DU.
Nesaf, gofynnodd Dr Hann i Richard ddweud mwy am y Greggs Foundation. Trwy’r Greggs Foundation a sefydliadau partner, maent yn cefnogi 800 o ysgolion cynradd trwy ddarparu brecwast am ddim i blant. Soniodd Richard am hanes y Greggs Foundation a sut mae wedi esblygu dros amser.
Gan ddisgrifio ethos Greggs, dywedodd eu bod yn credu, drwy ofalu am y cymunedau y mae eich siopau’n gweithredu ynddynt, fod y cymunedau’n debygol o fod yn fwy cynaliadwy. Felly, mae mwy o bobl yn debygol o ymweld â'r siop sy'n golygu bod eich siop yn fwy llwyddiannus, felly mae cefnogi cymunedau yn gwneud synnwyr busnes hefyd. Ychwanegodd: “Mae cynnig cymorth gyda phroblemau tlodi bwyd yn gwneud synnwyr pan rydyn ni yn y diwydiant bwyd.”
Yn ddiweddarach yn y sesiwn, trafodir pwysigrwydd dilysrwydd. Mae bod yn driw i chi’ch hun yn rhan annatod o'u rhaglen datblygu arweinyddiaeth, esboniodd Richard, a dywedodd nad oes delfryd gorfforaethol y mae'n rhaid i reolwyr ei chyflawni. Mae'r cwmni hefyd yn cynnal sesiynau gwrando gyda staff a rheolwyr. Dywedodd: “Mae’n dod ‘nôl i gadw Greggs yn weithle cyfeillgar a dymunol.”
Soniodd Richard am y rhesymeg, os yw gweithwyr yn hapus, bydd cwsmeriaid yn hapus ac yn galw’n amlach, sy'n golygu y bydd y cyfranddalwyr yn hapus.
Hwylusodd Dr Hann sesiwn holi ac ateb gyda'r gynulleidfa yn ystod y sesiwn. Ymhlith y pynciau eraill a drafodwyd roedd: effaith Brexit, rôl y cwmni wrth fynd i’r afael â gordewdra, cadw staff, chwyddiant bwyd, newid hinsawdd, a sut mae’r cwmni’n cydbwyso busnes a gwerthoedd wrth wneud penderfyniadau.
Mae Cyfres Brecwast Briffio Ysgol Busnes Caerdydd yn rhwydwaith o ddigwyddiadau sy’n galluogi cysylltiadau busnes i gael rhagor o wybodaeth am yr ymchwil a’r datblygiadau allweddol diweddaraf gan bartneriaid diwydiannol.