Rhestr anrhydeddus
14 Awst 2023
Athro llenyddiaeth Saesneg yn dod yn aelod o Gymrodyr y Gymdeithas Hanes Frenhinol arobryn
Yr Athro Bill Bell yw academydd diweddaraf Prifysgol Caerdydd i ddod yn Gymrawd RHS.
Mae’r Athro Llyfryddiaeth, Bill Bell, yn arbenigo mewn llenyddiaeth a diwylliant y bedwaredd ganrif ar bymtheg ac mae wedi ysgrifennu ar gymdeithaseg testun, hanes y llyfr, a damcaniaethau am lunio diwylliannau.
Mae’n ymuno â Dr Melanie Bigold a’r Athro Ceri Sullivan fel Cymrodyr o Ysgol Saesneg, Cyfathrebu ac Athroniaeth y Brifysgol. Mae mwy na dwsin o haneswyr yn yr Ysgol Hanes, Archaeoleg a Chrefydd hefyd yn Gymrodyr RHS.
Mae cymrodoriaeth yn agored i bawb y mae eu hymchwil yn gwneud cyfraniad ysgolheigaidd at wybodaeth hanesyddol, gyda charfan 2023 yn cynnwys nifer o haneswyr sy'n gweithio mewn disgyblaethau cytras mewn addysg uwch megis Archeoleg, yr Amgylchedd Adeiledig, Hanes Celf, Astudiaethau Amgueddfa, Cerddoleg, Athroniaeth a Diwinyddiaeth.
Mae mwyafrif y Cymrodyr newydd mewn swyddi academaidd mewn prifysgolion, gan arbenigo mewn ystod eang iawn o feysydd; gyda mwy fyth o gyfarwyddwyr a churaduron amgueddfeydd, llyfrgellwyr, penaethiaid cymdeithasau dysgedig, ymgynghorwyr treftadaeth, ac ymchwilwyr ac awduron annibynnol.
Wedi’i sefydlu ym 1868, y Gymdeithas Hanes Frenhinol yw sefydliad aelodaeth mwyaf y DU ar gyfer haneswyr o bob math ac mae’n meithrin cymuned ryngwladol o haneswyr gyda chriw 2023 yn cynnwys Cymrodyr o ddeuddeg gwlad: Awstralia, Canada, Ffrainc, Hong Kong, Iwerddon, yr Eidal, Japan, Lebanon, y Deyrnas Unedig, Yr Emiriaethau Arabaidd Unedig, a'r Unol Daleithiau.
Eleni etholodd Cyngor yr RHS 110 o Gymrodyr, 59 o Gymrodyr Cyswllt, 57 o Aelodau ac 89 o Aelodau Ôl-raddedig.