Addas at y dyfodol: ailfodelu cartrefi er mwyn gwthio y tu hwnt i sero net
1 Medi 2023
Bydd ymchwilwyr o bob rhan o Gynghrair y GW4 sef prifysgol Bryste, Caerdydd, Caerfaddon a Chaerwysg yn gweithio gyda byd diwydiant, grwpiau cymunedol ac awdurdodau lleol i drawsnewid tai presennol yn gartrefi 'Y Tu Hwnt i Sero Net' y gellir byw ynddynt, a hynny’n rhan o sicrhau cyllid ar gyfer prosiectau Ecosystem Pontio Gwyrdd Ymchwil ac Arloesi’r DU (UKRI).
Bydd y tîm yn dylunio prototeipiau arloesol sy’n ddatrysiadau carbon is bio-seiliedig, yn eu harbrofi, eu rhoi ar waith a’u monitro, gan werthuso eu perfformiad o’i gymharu â deunyddiau synthetig traddodiadol, i wella effeithlonrwydd ynni a gwydnwch cartrefi.
Y nod yw creu dyluniadau ac atebion y gellir eu hehangu a’u trosglwyddo i ôl-osod rhagor o dai a mathau gwahanol o dai.
Mae’r sector tai yn gyfrifol am tua 20% o gyfanswm allyriadau carbon y DU a chan fod 80% o’r cartrefi â phreswylwyr ynddynt yn 2050 eisoes wedi cael eu hadeiladu, mae ôl-osod stoc dai bresennol y wlad i wella effeithlonrwydd ynni, a lleihau allyriadau carbon, yn hollbwysig i gyflawni targedau sero net y DU.
Dyma a ddywedodd arweinydd y prosiect, yr Athro Pete Walker o Brifysgol Caerfaddon: “Nid yw rhoi atebion dylunio ar waith yn ddigon, mae’n rhaid inni hefyd greu cartrefi cyfforddus y gellir byw ynddynt sy’n gallu gwrthsefyll newid yn yr hinsawdd ac a fydd yn gwrthsefyll tywydd eithafol yn y dyfodol. Bydd ein proses ddylunio yn sicrhau bod y gymuned wrth wraidd popeth drwy greu gwybodaeth ar y cyd, rhannu profiadau ac ail-lunio dyluniadau ar gyfer cartrefi Y Tu Hwnt i Sero Net.”
Mae Llywodraeth y DU yn buddsoddi biliynau i wella effeithlonrwydd ynni cartrefi ar draws y wlad, gan gynnwys yn sgil mesurau megis inswleiddio.
Fodd bynnag, weithiau bydd ôl-osod yn her o ran dylunio. Bydd mesurau ôl-osod a roddir ar waith yn wael yn arwain hwyrach at broblemau o ran lleithder a llwydni, ac mae’n bosibl y bydd dylunio gwael yn achosi difrod i ffabrig adeiladau a’r dreftadaeth ddiwylliannol.
Mae'r dulliau ôl-osod presennol yn dibynnu'n helaeth ar ddeunyddiau synthetig ac anadnewyddadwy megis plastigau ac insiwleiddio â sbwng, a hwyrach y bydd gan y rhain effeithiau amgylcheddol negyddol. Mewn rhai achosion, hwyrach y bydd allyriadau carbon ymgorfforedig mesurau ôl-osod yn fwy na'r arbedion carbon yn sgil defnyddio llai o ynni.
Mae natur ryngddisgyblaethol y prosiect yn dod ag arbenigedd o feysydd pensaernïaeth, peirianneg, y gwyddorau cymdeithasol a chynaliadwyedd ynghyd, a byddwn ni’n gweithio gydag ystod o bartneriaid gan gynnwys Woodknowledge Wales, The Alliance for Sustainable Building Products, Penseiri Mikhail Riches, cwmni gweithgynhyrchu fframiau pren Sevenoaks Modular Limited, Cyngor Abertawe a WeCanMake sef ymddiriedolaeth tir cymunedol ym Mryste.
Dyma a ddywedodd cyd-gyfarwyddwr y prosiect, yr Athro Jo Patterson yn Ysgol Pensaernïaeth Cymru Prifysgol Caerdydd: “Datblygodd y prosiect hwn yn sgil un o gymunedau ymchwil y GW4, ac ni fyddai wedi bod yn bosibl heb gefnogaeth Cynghrair y GW4.
Bydd tîm y prosiect yn rhoi gwybod am ganfyddiadau eu hymchwil drwy ymgysylltu’n addysgol yn ogystal â’r gymuned ehangach, mewn partneriaeth ag Arsyllfa’r Dyfodol (Future Observatory), a bydd yn datblygu ac yn cyflwyno hyfforddiant i leihau’r bwlch mewn sgiliau dylunio o ran ôl-osod.
Dyma a ddywedodd y Gweinidog Effeithlonrwydd Ynni a Chyllid Gwyrdd, yr Arglwydd Callanan: “Bydd y cyllid gwerth £4.6 miliwn heddiw - gyda chefnogaeth cyllid y Llywodraeth - yn gyfraniad hollbwysig tuag at helpu i leihau allyriadau a gwneud cartrefi'n fwy effeithlon o ran ynni.
Dyma a ychwanegodd y Cynghorydd Andrea Lewis, Aelod Cabinet dros Drawsnewid Gwasanaethau yng Nghyngor Abertawe: “Mae Cyngor Abertawe’n falch o barhau â’n perthynas waith hirsefydlog ag Ysgol Pensaernïaeth Cymru Prifysgol Caerdydd a’r tîm ymchwil ehangach yng nghonsortiwm y GW4.
Prosiectau ar raddfa fawr sy’n canolbwyntio ar droi’r ymchwil orau a arweinir gan ddyluniadau yn fanteision yn y byd go iawn yw’r Ecosystem Pontio Gwyrdd (GTE). Gan fanteisio ar glystyrau o ragoriaeth dylunio, bydd yr Ecosystem yn mynd i’r afael â heriau penodol yn sgil argyfwng yr hinsawdd gan gynnwys gwireddu nodau sero net ond heb fod yn gyfyngedig i’r rhain yn unig.
Y GTE yw llinyn ariannu blaenllaw rhaglen Arsyllfa’r Dyfodol: Dylunio'r Pontio Gwyrdd gwerth £25m, sef y rhaglen ymchwil ac arloesi ddylunio fwyaf a ariennir yn gyhoeddus yn y DU.
Nod y buddsoddiad aml-ddull hwn, a ariennir gan yr AHRC gyda chefnogaeth gan Lywodraeth y DU ac mewn partneriaeth ag Arsyllfa y Dyfodol yn yr Amgueddfa Ddylunio, yw dod ag ymchwilwyr dylunio, prifysgolion a busnesau ynghyd i sicrhau bod y pontio i sero net ac economi werdd yn digwydd.