Gwella mynediad at ragsefydlu ar gyfer cleifion sydd â chanser
10 Awst 2023
Mae £1.5 miliwn wedi'i dyfarnu i Ysgol Gwyddorau Gofal Iechyd Prifysgol Caerdydd i ddatblygu rhagsefydlu cynhwysol ar gyfer cleifion sydd â chanser – gan helpu cleifion i baratoi ar gyfer eu triniaeth.
Mae rhagsefydlu yn helpu pobl i baratoi at driniaeth ar gyfer canser trwy eu helpu i fwyta'n dda, i fod yn y cyflwr corfforol gorau posibl, ac o ran cymorth gydag iechyd meddwl a gwydnwch emosiynol. Gall hyn arwain at lai o gymhlethdodau o ran triniaeth a gwell adferiad.
Bydd y cyllid o gronfa Ymchwil ar Gyflawni ym maes Gofal Iechyd a Chymdeithasol y Sefydliad Cenedlaethol dros Ymchwil Iechyd (NIHR) yn galluogi gwaith ar gyfer cynhyrchu a gwerthuso pecyn cymorth o’r enw I-Prehab. Bydd y pecyn cymorth yn cynorthwyo gweithwyr ym maes canser i godi ymwybyddiaeth ac annog cleifion sydd â chanser i ddefnyddio gwasanaethau rhagsefydlu.
Nod yr ymchwilwyr yw gweithio gyda chleifion, gofalwyr, gweithwyr ym maes canser, a rheolwyr gwasanaethau ym maes canser i ddatblygu pecyn cymorth I-Prehab i oresgyn rhwystrau o ran mynediad a chreu cyfleoedd i helpu pobl i gadw at y rhagsefydlu, yn enwedig felly, pobl o gymunedau difreintiedig yn gymdeithasol a lleiafrifoedd ethnig.
“Bydd cleifion a’r cyhoedd yn chwarae rhan allweddol yn y gwaith hwn. Bydd cyfranwyr sy’n gleifion ac yn aelodau o’r cyhoedd yn cael eu cynnwys drwy gydol yr ymchwil gan gynnwys ar gyfer dadansoddi data, dylunio dulliau, creu dogfennau ar gyfer cleifion, creu cynllun effaith a rhannu gwybodaeth yn effeithiol,” ychwanegodd yr Athro Jane Hopkinson.
Dywedodd Stuart Davies, Cynrychiolydd Cynnwys y Claf a’r Cyhoedd: “Ar ôl cael diagnosis o ganser ymosodol ar y prostad 14 mlynedd yn ôl a chael fy nhaflu ym mhen dwfn y driniaeth heb fawr o baratoi, rwy’n sylweddoli y gall ymdrech ar y cyd i hyrwyddo rhagsefydlu, wedi'i ysgogi gan astudiaeth ar y cyd, helpu pobl ar eu taith o ran gwella. Gall deall y data yn well, wedi’i sbarduno gan well ymchwil sicrhau gwell canlyniadau.”
Mae'r gwaith hwn yn cael ei wneud mewn partneriaeth â'r GIG, sefydliadau'r trydydd sector, cleifion, a chynrychiolwyr o blith y gymuned.
Dywedodd Siân Lewis, Gweithiwr Proffesiynol Cysylltiedig Arweiniol gydag Iechyd Macmillan ar gyfer Gwasanaethau ym maes Canser, Bwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan : “Yng Nghymru mae modelau rhagsefydlu rhagorol sydd wedi’u hen sefydlu, ac eto rydym yn gwybod bod anghydraddoldebau iechyd yn bodoli ymhlith y rheiny a fyddai’n elwa’n fawr ar ragsefydlu ond nad ydynt yn manteisio ar y gwasanaethau hyn. Bydd y gwaith hwn yn rhoi’r dystiolaeth ar waith ac yn cynnig dull rhesymegol i ni, y clinigwyr, i sicrhau bod gan bawb fynediad at ragsefydlu cyn gynted â phosibl ar y Llwybr Lle’r Amheuir Canser.”
Dywedodd Rachel Evans, Gweithiwr Proffesiynol Cysylltiedig Arweiniol gydag Iechyd Macmillan, Rhwydwaith Canser Cymru: “Caiff ei gydnabod yn eang y gall rhagsefydlu cyn unrhyw driniaeth canser wella canlyniadau a phrofiad cleifion yn sylweddol. Mae'n hanfodol felly bod pob claf sy'n cael diagnosis o ganser yn gallu cael gafael ar gyngor a chymorth rhagsefydlu unigol a hygyrch. Bydd yr ymchwil gyffrous hon y mae dirfawr ei hangen yn archwilio sut i oresgyn rhwystrau at ragsefydlu a sicrhau bod cleifion yn cael pob cyfle i baratoi’n dda at driniaeth ar gyfer canser.”
“Bydd ein hymchwil yn adolygu ymchwil gyhoeddedig gyfredol, a bydd hefyd yn ymchwilio i’r rhagsefydlu sy’n cael ei gynnig i gleifion sy’n cael triniaeth ar gyfer canser y gastroberfedd uchaf, y coluddyn, yr ysgyfaint, y fron neu ganser y prostad ledled Cymru.
“Bydd y canlyniadau’n cael eu defnyddio i ddatblygu I-Prehab, ffordd o weithio y gall gweithwyr ym maes canser ei defnyddio yn y dyfodol i gynyddu rhagsefydlu yng Nghymru a Lloegr.
“Trwy weithio gyda’n sefydliadau partner, ein nod yw sicrhau bod I-Prehab ar gael ledled Cymru a’r DU yn y dyfodol,” ychwanegodd yr Athro Jane Hopkinson.