Sganiwr diogelwch yn y maes awyr yn chwilio am fuddsoddwyr
8 Awst 2023
Mae sganiwr diogelwch cerdded drwodd fydd hwyrach yn torri ciwiau teithwyr yn y maes awyr yn ceisio denu buddsoddiadau.
Mae cyfres o sesiynau arddangos ar gyfer buddsoddwyr ym mis Awst yn dangos sut mae sganiwr Sequestim yn defnyddio technoleg y gofod i ganfod gwrthrychau cudd.
Drwy ganfod gwres yn y corff dynol, sy'n gweithio’n debyg i fwlb golau, gall ganfod ac adnabod eitemau cudd yn hawdd, hyd yn oed drwy ddillad trwm.
Mae'r sganiwr, a ddatblygwyd yn wreiddiol gan ymchwilwyr ym Mhrifysgol Caerdydd i astudio'r gwrthrychau pellaf yn y Bydysawd, yn ffilmio pobl wrth iddyn nhw gerdded heibio.
Yn wahanol i sganwyr y corff sydd bellach yn cael eu defnyddio mewn meysydd awyr, nid oes unrhyw ymbelydredd yn cael ei daflu i gyfeiriad y teithiwr, ac ni fydd neb yn gweld y delweddau, nad ydyn nhw’n dangos manylion corfforol personol p’run bynnag.
Dyma a ddywedodd Ken Wood, Prif Swyddog Gweithredol Sequestim Ltd: "Sgrinio diogelwch cerdded drwodd yw Greal Sanctaidd y diwydiant hedfan. Mae nifer y teithwyr wedi cynyddu'n eithriadol o gyflym ar ôl y pandemig. Mae'r Sefydliad Hedfan Sifil Rhyngwladol - un o asiantaethau arbenigol y Cenhedloedd Unedig - yn rhagweld y bydd nifer y teithwyr ar y rhan fwyaf o lwybrau wedi tyfu y tu hwnt i nifer brig y teithwyr yn 2019 erbyn diwedd 2023.
"Yn dilyn cylch pedair blynedd o fuddsoddi, mireinio a datblygiadau technolegol, mae gan Sequestim gynnyrch a fydd yn effeithio ar farchnad diogelwch fyd-eang. Mae bellach yn barod i dderbyn buddsoddiadau ecwiti preifat.
"Gan gofleidio AI, gall y sganiwr ddysgu adnabod bygythiadau. Gan ein bod yn disgwyl i nifer y teithwyr ddyblu ymhen 20 mlynedd, gall Sequestim dorri amseroedd aros a chwyldroi profiad diogelwch, gan roi mwy o amser i deithwyr fwynhau siopau a bwytai yn y maes awyr. Ar yr un pryd, byddwn ni’n gwella diogelwch i gadw pobl yn ddiogel."
Mae'r cwmni, y mae Brifysgol Caerdydd yn berchen arno 20 y cant, wedi gweithio'n agos gyda Rapiscan Systems, sy'n gweithgynhyrchu offer a systemau diogelwch a ddyluniwyd ar gyfer mannau gwirio, cargo, cerbydau, bagiau, parseli ac archwiliadau diogelwch cargo awyr.
Dywedodd Ken Mann, CTO, Rapiscan Systems Limited: “Byddai system sgrinio corff cerdded drwodd a all fodloni safonau uchel y Gynhadledd Hedfan Sifil Ewropeaidd a Gweinyddiaeth Diogelwch Trafnidiaeth UDA mewn amser real yn chwyldroi diogelwch hedfan. Mae delweddu cydraniad uchel Sequestim a’i allu i wahaniaethu ar amrywiaeth o eitemau a deunyddiau yn dangos potensial sylweddol i bobl sgrinio cymwysiadau.”
Ymgorfforwyd Sequestim Ltd yn 2016 yn gwmni ar y cyd rhwng Prifysgol Caerdydd a QMC Instruments Ltd i fasnacheiddio'r genhedlaeth nesaf o dechnoleg ddelweddu a ddatblygwyd at ddibenion cymwysiadau sgrinio diogelwch.
Dylai darpar fuddsoddwyr a hoffai weld un o sesiynau arddangos Sequestim yn ystod mis Awst gysylltu â Ken Wood, y Prif Swyddog Gweithredol: ken.wood@sequestim.com