Seicosis ôl-enedigol – beth mae'r gwaith ymchwil wedi'i ddweud wrthym hyd yn hyn?
9 Tachwedd 2022
Ym mis Tachwedd eleni, gwnaethom gynnal gweminar yn trafod seicosis ôl-enedigol. Noddwyd y gweminar gan Adran Iechyd Meddwl Menywod Cymdeithas Seiciatrig Ewrop ac roedd ar y cyd ag Action on Postpartum Psychosis (APP).
Rhybudd sbardun: mae'r blog hwn yn cynnwys cyfeiriadau at hunanladdiad.
Cyflwynodd Cyfarwyddwr NCMH, yr Athro Ian Jones, y gwaith ymchwil sy'n cael ei gynnal ym Mhrifysgol Caerdydd i seicosis ôl-enedigol; “cyflwr nad yw systemau dosbarthu yn ei drin yn ddigonol.”
Llais profiad byw: Dr Sally Wilson
Profodd Dr Sally Wilson, sy'n gweithio gydag APP, symptomau seicosis ôl-enedigol am y tro cyntaf ar ôl genedigaeth anodd ei merch Ella.
Defnyddiodd Sally ei nodiadau meddygol i fanylu ar ddatblygiad ei symptomau a ddechreuodd fel 'teimlo'n rhyfedd a chynhyrfus' ac a waethygodd yn raddol i rithweledigaethau a rhithdybiaethau lle'r oedd yn baranoiaidd ei bod wedi niweidio ei babi.
“Ar y tu allan, roedd yn edrych fel blinder, ond yn fewnol roeddwn i wir yn teimlo fy mod wedi gwneud rhywbeth i fy merch. Roedd fy holl realiti a chanfyddiad o’r byd wedi newid. Roeddwn i’n byw mewn bywyd ar ôl marwolaeth ac yn cael fy nghosbi am yr hyn roeddwn i wedi’i wneud.”
Ar ôl episod Sally, cafodd ei derbyn i ward seiciatrig gyffredinol. Fodd bynnag, cafodd ei symptomau eu trin mewn perthynas â straen, ac ni soniwyd am seicosis ôl-enedigol.
“Cefais bresgripsiwn o feddyginiaethau gwrth-seicotig amrywiol a’m monitro gartref. Ond roeddwn i'n dal i gredu fy mod yn byw mewn bydysawd cyfochrog.
“Doeddwn i ddim yn gallu ei ddeall gan nad oeddwn i'n teimlo'n isel trwy gydol fy meichiogrwydd. […] Byddwn yn gwibio rhwng bod yn daer eisiau gwella a pheidio â gwybod sut y gallai hynny ddigwydd.”
Ar ôl i ŵr Sally ymchwilio i'w symptomau y daethant o hyd i seicosis ôl-enedigol ac roeddent yn gallu defnyddio hwn i ddadlau dros y driniaeth gywir.
Ers cael diagnosis o seicosis ôl-enedigol, cafodd Sally therapi electrogynhyrfol ac arweiniad seicolegydd clinigol a ganiataodd iddi ymdrin â’i phrofiad o seicosis ôl-enedigol, gan gynnwys teimladau o drawma ac euogrwydd.
“Heb fod clinigwyr, ymchwilwyr, a sefydliadau fel APP yn gweithio gyda’i gilydd, mae’n debyg na fyddwn i’n eistedd yma heddiw.”
Gweithio'n galed i bennu'r risg
Bu'r Athro Arianna Di Florio sy'n arwain y rhaglen iechyd meddwl atgenhedlol ym Mhrifysgol Caerdydd yn trafod gwaith ymchwil y tîm i'r risg o ddatblygu seicosis ôl-enedigol.
“Yn y boblogaeth gyffredinol,” nododd yr Athro Di Florio, “mae’r risg o brofi seicosis ôl-enedigol tua 1-2 mewn 1,000.”
Fodd bynnag, mae ymchwilwyr ym Mhrifysgol Caerdydd eisiau gwybod a yw'r ffigur hwn i gyd yn fenywod a phobl sydd wedi rhoi genedigaeth neu a oes grŵp sy'n wynebu mwy o risg nag eraill.
Mae’r gwaith ymchwil hwn mewn cydweithrediad â Phrifysgol Caerwrangon, gyda chymorth gan Bipolar UK ac APP, wedi creu’r rhwydwaith ymchwil mwyaf yn y byd o bobl â phrofiad byw o anhwylder deubegwn a/neu seicosis ôl-enedigol.
“Er bod y cyfraddau ar gyfer y boblogaeth gyffredinol yn 1-2 mewn 1000, ar gyfer pobl ag anhwylder deubegwn 1 sy’n rhoi genedigaeth, mae’r cyfraddau yn 1 mewn 5, neu 20%.”
Mae ymchwilwyr wedi parhau i ddefnyddio'r data hwn i ddatblygu ffyrdd personol o nodi risg, megis cwestiynau sy'n seiliedig ar dystiolaeth i'w defnyddio mewn clinigau.
Seicosis ôl-enedigol a'r byd sy'n datblygu
Cydnabu’r Athro Di Florio y gwahaniaeth mewn systemau gofal iechyd ar draws y byd, yn enwedig yn y gwledydd economaidd-gymdeithasol is.
Mae consortiwm rhyngwladol gyda chanolfannau yn India a Malawi wedi'i ddatblygu sy'n cynnwys menywod a sefydliadau o wahanol gefndiroedd daearyddol, ieithyddol a chymdeithasol-ddemograffig er mwyn helpu i ddatblygu ymagweddau mwy diwylliannol sensitif tuag at iechyd meddwl atgenhedlol.
“Am y tro cyntaf, mae hyn wedi rhoi rôl weithredol i fenywod â seicosis ôl-enedigol sy’n byw mewn gwledydd y tu allan i’r gorllewin.”
Cyfeiriodd yr Athro Di Florio hefyd at yr arolwg Mamolaeth ac Iechyd Meddwl sy'n anelu at deilwra a rheoli prognosis hyd yn oed ymhellach.
Mae'r arolwg hwn ar agor ar hyn o bryd a gallwch gymryd rhan ar wefan NCMH.
Allan o'r ysbyty ac i mewn i'r clinig – diagnosis, triniaeth, rheolaeth
Arweiniwyd rhan olaf y gweminar gan Dr Marisa Casanova Dias a bwysleisiodd bwysigrwydd trosi’r darganfyddiadau a wnaed gan y gwaith ymchwil hwn i ymarfer clinigol.
Defnyddiodd Dr Dias y meini prawf clinigol ar gyfer adnabod seicosis ôl-enedigol a chyfatebiaeth caleidosgop i amlygu pa mor bwysig yw hi i glinigwyr allu adnabod dechrau a dilyniant symptomau, yn ogystal â sut mae'r rhain yn amrywio o unigolyn i unigolyn.
Mae angen gweithredu ar frys
Amlinellodd Dr Dias hefyd sut y dylid rheoli episod trwy ddulliau asesu a thriniaethau amrywiol megis meddyginiaeth, derbyniadau i uned mamau a babanod, therapïau seicolegol, a therapi electrogynhyrfol (ECT).
Mae atal yn allweddol
Daeth Dr Dias i’r casgliad y dylai trafodaethau mewn apwyntiadau seiciatreg cyffredinol gynnwys sgyrsiau am feichiogrwydd, felly os yw'r claf eisiau cwympo’n feichiog, yna gellir datblygu cynllun gofal wedi'i deilwra.
“Nid oes unrhyw sicrwydd beth sy'n gweithio i bob person; felly mae angen trafodaeth. Er bod y prognosis ar gyfer episod acíwt yn dda os caiff ei nodi a’i drin yn gynnar, mae angen darparu cymorth tymor hwy hefyd.”