Ysgol Haf flynyddol yn cynnal ei henw da o fod yn 'eithriadol' ac 'ysbrydoledig' wrth iddi ddigwydd am y drydedd flwyddyn ar ddeg
14 Gorffennaf 2023
Rhwng 10 a 13 Gorffennaf 2023, ymunodd cyfranogwyr yn rhithiol neu fe wnaethant deithio o bob cwr o'r byd i’r Ganolfan Geneteg a Genomeg Niwroseiciatrig (CNGG) yn Adeilad Hadyn Ellis i glywed gan ein harbenigwyr blaenllaw ym maes ymchwil seiciatreg a niwrowyddoniaeth genetig a genomig.
Yn rhan o’r rhaglen eleni cafwyd cyflwyniadau’n amrywio o ymchwil ym maes geneteg, megis gwaith yr Athro George Kirov ar Amrywiadau Rhif Copi (CNVs) ym maes anhwylderau niwroddatblygiadol i ymarfer clinigol.
Roeddem hefyd wrth ein bodd o gael croesawu Dr Mathew D Hoskins i drafod y datblygiadau newydd yn ei ymchwil ar seiciatreg a chyffuriau seicedelig ar gyfer trin anhwylder straen ôl-drawmatig (PTSD).
Yn ogystal â chlywed gan siaradwyr ar draws y ganolfan a thu hwnt, cafodd y sawl oedd yn bresennol gyfle i fynd ar daith o amgylch Canolfan Ymchwil Delweddu'r Ymennydd Prifysgol Caerdydd (CUBRIC) a’r labordai ymchwil.
Hefyd, rhannodd Dr Kimberley Kendall a'r Athro William Davies eu gwybodaeth ynghylch yr hyn yw gyrfaoedd clinigol a gwyddonol drwy weithdai a oedd yn caniatáu i'r sawl oedd yn bresennol ddod at ei gilydd i drafod llwybrau gyrfa a chydweithio.
Rydym eisoes wedi derbyn llawer o adborth cadarnhaol. Diolch yn fawr i Dr Prarthana Poodipedi am anfon y canlynol atom:
"Cefais bedwar diwrnod gwych yn yr ysgol haf. Roedd popeth gan gynnwys y llety, y bwyd a'r darlithoedd wedi'u trefnu'n dda iawn ac roedd pawb yn barod iawn i helpu.
"A minnau’n hyfforddi i fod yn seiciatrydd, mae fy niddordeb a'm chwilfrydedd ym maes niwroseiciatreg wedi cynyddu hyd yn oed yn fwy wrth gyfarfod ag athrawon a meddygon ysbrydoledig yn y maes a rhyngweithio â nhw. Dysgais gymaint hefyd am ymchwil sydd ar y gweill a allai chwyldroi'r ffordd yr ydym yn meddwl am salwch meddwl ac yn ei drin.
"Roedd hyn yn cynnwys effaith amrywiadau rhif copi ar sgitsoffrenia ac anhwylderau meddwl eraill, defnyddio organoidau ymennydd a bôn-gelloedd amlbotensial mewn ymchwil, cyffuriau seicedelig ym maes iechyd meddwl, dulliau newydd o ddilyniannu a dehongli DNA, a rôl technegau delweddu i wneud diagnosis a phrognosis ar gyfer salwch meddwl gwanychol.
"Fe fwynheais y cyflwyniad ar seiciatreg atgenhedlu a roddwyd gan yr Athro Arianna Di Florio, yn arbennig. Siaradodd am faterion systemig a chymdeithasol-ddiwylliannol ynghyd ag amrywiol wahaniaethau rhwng y rhyweddau sydd wedi arwain at roi tan-ddiagnosis o wahanol afiechydon i fenywod, gan gynnwys o ran anhwylder affeithiol deubegynol ac anhwylder dysfforig cyn-y-mislif, a/neu ddiffyg o ran rhoi triniaeth addas ar gyfer y rhain (gan gynnwys llawdriniaeth i dynnu’r ofarïau ar gyfer PMDD)!
"Yn fenyw o liw, ym maes Seiciatreg, cefais fy ngwirioneddol ysbrydoli gan y ffordd yr oedd hi'n ymgorffori materion cymdeithasol a seiciatreg mewn ffordd mor gywrain, gan wirioneddol ddilyn model bioseicogymdeithasol yn ei hymchwil. Byddaf yn sicr o ymgorffori'r dysgu hyn yn fy ymarfer a'm hymchwil i sicrhau bod fy nghleifion yn cael eu trin gyda'r parch, tosturi a dealltwriaeth mwyaf, waeth beth fo'u rhywedd, rhyw neu hil.
"Byddwn yn argymell yr ysgol haf i unrhyw un (clinigwyr/hyfforddeion/ymchwilwyr) sy'n chwilfrydig ynghylch y niwrowyddorau ac a fyddai â diddordeb mewn dysgu rhagor am y maes gan rai o'r bobl orau yn y maes."
Ysgol Haf 2024
Bydd ein hysgol haf nesaf yn cael ei chynnal ddechrau mis Gorffennaf 2024. Bydd y dyddiadau a'r manylion ar sut i wneud cais yn cael eu cwblhau yn ddiweddarach eleni. Os oes gennych ddiddordeb mewn mynychu, cadwch lygad ar dudalen Ysgol Haf y Cyngor Ymchwil Feddygol ddechrau mis Chwefror i wneud cais.