Myfyrwraig yn cael cymrodoriaeth â sefydliad rhyngwladol
7 Awst 2023
Mae myfyrwraig ôl-raddedig yn yr Ysgol Ieithoedd Modern wedi ennill cymrodoriaeth gyda sefydliad rhyngwladol.
Mae Yuri Kano, myfyrwraig ar y cwrs MA Astudiaethau Cyfieithu, wedi sicrhau cymrodoriaeth yn Sefydliad Eiddo Deallusol y Byd (WIPO) yn dilyn proses gystadleuol a dderbyniodd geisiadau o bob rhan o’r DU.
Mae Yuri wedi ennill Cymrodoriaeth Terminoleg y Cytundeb Cydweithredu ar Batentau (PCT) a bydd yn mynd i Genefa, y Swistir, lle bydd yn ymuno â WIPO yn gymrawd terminoleg Japaneaidd.
Wrth siarad am sicrhau ei chymrodoriaeth, dywedodd Yuri: “Ar y dechrau, roeddwn i’n teimlo’n falch a dyna ni, ond nawr rwy’n teimlo cymysgedd o gyffro a chyfrifoldeb ynghylch gallu arwain fy astudiaeth ar drywydd newydd. Rydw i’n edrych ymlaen at weithio yn WIPO.”
Mae WIPO yn darparu fforwm byd-eang ar gyfer gwasanaethau eiddo deallusol, llunio polisïau, gwybodaeth a chydweithredu. Rôl Yuri a hithau’n gymrawd terminoleg Japaneaidd fydd creu cofnodion terminoleg ar gyfer Cronfa Dermau PCT.
Dr Joseph Lambert yw Cyfarwyddwr y cwrs MA ym maes Astudiaethau Cyfieithu yn yr Ysgol Ieithoedd Modern. Meddai: Rydyn ni i gyd mor falch o Yuri! Mae hwn yn gyflawniad mor ardderchog ac yn gwbl haeddiannol. Mae’r gymrodoriaeth yn un sy’n cael ei pharchu ar draws y diwydiant iaith ac mae’r gystadleuaeth i’w sicrhau yn un gref. Bydd yn gam nesaf gwych yn ei gyrfa.”
Bydd Yuri yn dechrau ar ei rôl newydd ym mis Hydref 2023.