Ymchwil ar heriau mwyaf dybryd Cymru i'w harddangos yn yr Eisteddfod Genedlaethol
2 Awst 2023
Bydd arbenigwyr a myfyrwyr o Brifysgol Caerdydd yn trafod rhai o'r materion mawr sy'n effeithio ar Gymru, yn yr Eisteddfod Genedlaethol eleni.
Mae'r digwyddiadau sydd yn digwydd ar y Maes rhwng 5 a 12 Awst ym Moduan, Gogledd Cymru, yn cwmpasu ystod o ddisgyblaethau academaidd, gan gynnwys gwleidyddiaeth, y biowyddorau, newyddiaduraeth, llenyddiaeth a meddygaeth.
Ymysg y cyflwyniadau a’r darlithoedd mae trafodaeth gyda Dr Dylan Foster Evans o Ysgol y Gymraeg ar brosiect ar y cyd gydag Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri a Chomisiynydd y Gymraeg i gasglu a safoni rhai o enwau lleoedd Eryri. (Dydd Iau 10 Awst, 10am)
Bydd yr Athro Richard Wyn Jones o’r Ganolfan Llywodraethiant Cymru yn archwilio gwreiddiau'r llyfr, The Welsh Criminal Justice System: On the Jagged Edge, gan amlinellu'r dadleuon a gyflwynir yn nhudalennau’r llyfr a'r data diweddaraf. (Dydd Iau 10 Awst, 2.30pm)
Bydd yr Athro Arwyn Jones o'r Ysgol Fferylliaeth a Gwyddorau Fferyllol yn trafod y gwersi a ddysgwyd yn dilyn COVID-19. (Dydd Sul 6 Awst, 2.45pm)
Bydd myfyrwyr o'r Ysgol Meddygaeth yn recordio eu podlediad diweddaraf 'Paid Ymddiheuro', sef trafodaeth banel fydd yn edrych ar iechyd menywod a'r menopos. (Dydd Llun 7 Awst, 3.30pm)
Bydd Dysgwr y Flwyddyn 2022 Joe Healy yn siarad am ei daith yn dysgu’r Gymraeg â darlithydd o’r Ysgol Newyddiaduraeth, y Cyfryngau a Diwylliant, Siân Morgan Lloyd. (Dydd Gwener 11 Awst, 2pm)
Bydd nifer o weithgareddau ymarferol hefyd ar gyfer plant ac oedolion ar stondin Prifysgol Caerdydd.
Bydd y Sefydliad Darganfod Meddyginiaethau yn egluro'r broses o ganfod cyffuriau newydd ar gyfer clefydau'r ymennydd gyda chyfres o arbrofion ac arddangosfeydd difyr. Bydd nodweddion anhygoel algâu gwyrdd glas yn cael eu harddangos a bydd myfyrwyr meddygol Prifysgol Caerdydd ar gael i gymryd darlleniadau o bwysedd gwaed a rhoi cyngor.
Meddai Dr Huw Williams, Deon y Gymraeg Prifysgol Caerdydd: "Mae'r arlwy o ran y cyflwyniadau a'r gweithgareddau sydd ar gael yn yr Eisteddfod eleni yn rhoi blas i ymwelwyr ar y gwaith anhygoel mae academyddion a myfyrwyr yn ei wneud i fynd i'r afael â rhai o'r materion pwysicaf sy'n wynebu pobl yng Nghymru heddiw.
"Rydym yn gyffrous iawn i fod yn rhan o ddathliadau'r wythnos a chyfrannu at y dathliad hwn o'r iaith Gymraeg a'r diwylliant Cymraeg, ac rydyn ni’n edrych ymlaen at arddangos ein hymrwymiad i addysg cyfrwng Cymraeg."
Cynhelir derbyniad ar gyfer cyn-fyfyrwyr Prifysgol Caerdydd ddydd Iau 10 Awst am 3.30pm ac mae'n gyfle i gymuned ehangach y Brifysgol ddoe a heddiw rannu atgofion dros ddiod.
Ddydd Gwener 11 Awst bydd dathliad hefyd ar gyfer y Swyddog Sabothol Cymraeg cyntaf ar gyfer Undeb y Myfyrwyr; bydd Deio Owen yno ynghyd â gwesteion sydd am ddymuno'n dda iddo yn ei swydd newydd.
Ychwanegodd Dr Williams: "Yn benodol, mae'n wych gallu dathlu rôl newydd Deio yn is-lywydd cyntaf Undeb Myfyrwyr Prifysgol Caerdydd ar gyfer iaith, cymuned a diwylliant Cymru.
"Fe fydd y penodiad hwn yn ein helpu’n fawr i ehangu profiad myfyrwyr o ran yr iaith Gymraeg, ac i ymgysylltu â rhagor o bobl yn ein cymuned ehangach o fyfyrwyr ynghylch y Gymraeg.
"Byddem yn annog unrhyw un sy'n ystyried Caerdydd yn opsiwn ar gyfer eu hastudiaethau i ddod draw a siarad ag un o'n tîm am yr hyn sydd gennym i'w gynnig."
I weld y rhaglen ddigwyddiadau’n llawn, cliciwch yma.
Bydd yr Athro Laura McAllister o Ganolfan Llywodraethiant Cymru a'r Athro Marion Loeffler o'r Ysgol Hanes, Archaeoleg a Chrefydd hefyd yn cael eu hanrhydeddu am eu cyflawniadau a'u hymrwymiad i Gymru drwy gael eu derbyn i Orsedd Cymru. Byddant yn derbyn y gwobrau ar y Maes yr wythnos nesaf.