Ailddychmygu stocrestri
24 Gorffennaf 2023
Yn ystod y degawd diwethaf, mae arbenigwyr o Brifysgol Caerdydd wedi bod yn defnyddio eu gwybodaeth i helpu cwmnïau logisteg i leihau costau, lleihau gwastraff a chyflwyno manteision i gwsmeriaid.
Gan ddyfynnu darnau o erthygl a gyhoeddwyd gyntaf yn IMPACT — cylchgrawn Cymdeithas yr Ymchwil Weithredol genedlaethol — mae’r Athro Aris Syntetos yn esbonio sut mae ei dîm wedi croesawu technoleg a meddwl yn graff er mwyn datblygu byd logisteg…
“Yn draddodiadol, mae cwmnïau Logisteg Trydydd Parti (3PL) yn gofalu am stoc cleientiaid. Byddan nhw’n mewnforio nwyddau, yn eu cadw mewn warws ac yn eu dosbarthu. Ac yn draddodiadol, mae darparwyr 3PL yn gwneud yr hyn y mae eu cleient yn gofyn amdano.
Ond beth fyddai’n digwydd pe bai’r cleient eisiau llai? Mae’n ymddangos yn wrth-reddfol bod cwmni 3PL yn gwneud pethau’n rhatach ac yn lleihau refeniw cleient. Ond o wneud hyn, roedden ni’n gwybod y bydden ni’n gallu gwella’r gwasanaeth a helpu i wneud cwmni 3PL yn fwy deniadol i ddarpar gwsmeriaid.
Ddeg mlynedd yn ôl, dechreuon ni weithio gyda Panalpina, a aeth yn nes ymlaen yn rhan o grŵp DSV (sef, y trydydd cwmni 3PL mwyaf yn y byd, gan gyflogi mwy na 60,000 o gyflogeion). Aethon ni ati i greu Sefydliad Gweithgynhyrchu, Logisteg a Stocrestri PARC yn bartneriaeth ar y cyd rhwng y Brifysgol a byd diwydiant i fynd i’r afael â’r gwaith o ragweld stocrestri.
Mae pawb yn gwerthfawrogi bod cost ynghlwm wrth ddal eitemau mewn stoc. Mewn gwirionedd, mae cyfanswm gwerth stocrestri yn UDA yn cyfateb i oddeutu 15 y cant o’i chynnyrch mewnwladol crynswth. Ac felly, ystyrion ni’r hyn na ellir ei feddwl: a allai cwmni 3PL storio ychydig iawn neu’r un darn o stocrestr?!
Roedden ni’n gwybod bod technoleg newydd, sef argraffu 3D, yn addo dyfodol lle bydden ni’n gallu gwneud cydrannau fesul archeb, gan ddarparu’r hyn a elwir yn weithgynhyrchu dosbarthedig.
Ac roedden ni’n gwybod mai prif darged posibl o ran lleihau’r stoc oedd stocrestr y cydrannau sbâr. Yn aml, stociau sy’n symud yn araf ac a gedwir am flynyddoedd neu ddegawdau hyd yn oed yw cydrannau sbâr. Os na fydd cynnyrch yn cael ei wneud bellach, fel rheol mae’n rhaid i’r gweithgynhyrchwr ddarparu darnau sbâr am flynyddoedd i gwmpasu’r warant a chefnogi oes y cynnyrch.
Mae’n broblem hynod o anodd. Naill ai bydd gennych chi ormod o stoc diangen neu bydd yn dod i ben a byddwch chi’n methu bodloni eich rhwymedigaethau cytundebol.
Gofynnon ni i’r Ysgol Peirianneg ystyried materion sy’n ymwneud â safon a oedd yn gyffredin o ran technolegau argraffu 3D, a modelodd fy nghydweithwyr yn yr Ysgol Musnes y mathau newydd hyn o reoli stocrestri a’u heffaith bosibl ar gostau cadw stoc.
Yn benodol, gwnaethon ni baru gweithwyr Panalpina (DSV yn nes ymlaen) ag academyddion yn PARC i gyflwyno syniadau a chreu arbenigedd ymarferol ar y cyd.
Dyfeision ni declyn rhagweld stocrestri ar ffurf taenlen, gan ei gwneud yn haws ac yn fwy effeithiol. Ar y cyd â hyn oll, gwnaethon ni ddatblygu algorithmau gan gymryd data am y galw hanesyddol ynghyd â symudiadau cysylltiedig stocrestri a’i ddefnyddio i efelychu effaith dulliau gwahanol. A dangoson ni fod ffordd well o weithio, sef bod busnesau argraffu 3D sydd â chapasiti ychwanegol yn datblygu cytundebau allanoli cydfuddiannol â chwmnïau 3DP eraill i roi mwy o hyblygrwydd i’r ddau barti.
Yn ei dro, roedd dull mwy dosbarthedig yn bosibl. Yn hanesyddol, pan fydd cwmnïau 3PL yn anfon cydrannau o’r naill wlad i’r llall, hwyrach y byddai argraffwyr 3D lleol yn gallu lleihau’r costau a’r effaith ar yr amgylchedd.
Mae PARC wedi gallu cefnogi ystod o fusnesau diolch i’w waith gyda DSV. Roedd cyngor algorithmig a rhagweld stocrestri arbenigol wedi helpu Accolade Wines, busnes gwinoedd byd-eang sydd â’r warws gwinoedd a’r ganolfan ddosbarthu fwyaf yn Ewrop, i wella’r ffordd y mae’r cwmni’n cyfrifo faint o stoc sydd ei angen i osgoi mynd yn brin o gynnyrch.
A gwnaeth ein gwaith gyda Yeo Valley, cynhyrchydd llaeth organig mwyaf y DU, helpu i ddarparu cyfleoedd cadw stoc a masnachol a arweiniodd at tua £3m o arian parod a buddion masnachu.
Yn anad dim, arweiniodd y prosiect ni tuag at yr ‘economi gylchol’ pan sylweddolon ni y gallai argraffwyr 3D atgyweirio cynnyrch sydd wedi torri ac a daflwyd i ffwrdd. Bellach, diolch i RemakerSpace yn adeilad sbarc|spark Prifysgol Caerdydd, caiff aelodau’r cyhoedd ddod ag eitem sydd wedi’i difrodi a byddwn ni’n dylunio ac yn argraffu cydran i drwsio’r cynnyrch.
Yn fyr, mae ein gwaith yng Nghanolfan PARC wedi dangos y gall dull yr Ymchwil Weithredol alluogi cwmnïau i ystyried eu cynnyrch a’u gwasanaethau mewn ffordd gwbl wahanol, gan dorri amseroedd arwain o fisoedd i ddyddiau yn unig, gan gynhyrchu nwyddau’n lleol, lleihau cludiant a thorri gwastraff.
Mae rhai pobl yn ystyried logisteg yn rhan angenrheidiol ond diflas o weithrediadau busnes – ond inni, dyma her gyson sy’n gwneud pethau’n well.”
Yr Athro Aris Syntetos
Athro Ymchwil Nodedig, Cadeirydd DSV
Cyhoeddwyd y dyfyniadau uchod mewn erthygl – Changing the Role of Logistics (tandfonline.com) – ar gyfer Cymdeithas yr Ymchwil Weithredol.