Gwyddonwyr yn honni bod dull newydd o ailgylchu plastigau lliw yn cynnig ateb posibl i "her amgylcheddol enfawr"
25 Gorffennaf 2023
Mae gwyddonwyr ym Mhrifysgol Caerdydd wedi datblygu dull newydd ar gyfer ailgylchu plastigau lliw.
Gallai'r broses sy'n dadelfennu polymerau lliw, sef prif gydran plastigau, i'w cydrannau gwreiddiol, arwain at economi ailgylchu plastig gylchol, gan leihau llygredd ar y tir ac yn ein cefnforoedd, yn ôl yr ymchwilwyr.
Caiff plastigau lliw eu defnyddio'n helaeth mewn poteli diodydd, pecynnu bwyd, dillad ac offer electroneg. Mae modd eu toddi a'u hail-fowldio i gynhyrchion newydd, ond does dim modd tynnu ychwanegion na lliwwyr yn rhan o brosesau ailgylchu ar hyn o bryd.
Er mwyn osgoi'r dull hwn o ailgylchu, lle mae plastig wedi'i ailgylchu o ansawdd is na'r deunydd gwreiddiol, defnyddiodd tîm Prifysgol Caerdydd broses gemegol o'r enw dadbolymereiddio.
Dywedodd Dr Ben Ward, Uwch-ddarlithydd Cemeg Anorganig ym Mhrifysgol Caerdydd: "Mae ein heconomi ailgylchu bresennol ond yn caniatáu i blastig a pholymerau gael eu hailgylchu nifer cyfyngedig o weithiau, ac ar ôl hynny maen nhw’n mynd i safleoedd tirlenwi neu'n cael eu llosgi. Mae hon yn her amgylcheddol enfawr.
"Mae hefyd yn broblem i’r diwydiant sydd eisiau ailddefnyddio ac ailgylchu polymerau lliw, ond sydd wedi'u cyfyngu gan ychwanegion sy'n effeithio ar ansawdd a lliw cynhyrchion wedi'u hailgylchu.
Gan ddefnyddio adweithydd yn y labordai yn Ysgol Cemeg Prifysgol Caerdydd, dewisodd y tîm foleciwlau penodol a elwir yn fonomerau i wneud plastigau sy'n gryf ac yn sefydlog, gan ychwanegu’r gallu i’w hailgylchu yn rhan o'r broses dylunio moleciwlaidd.
Ychwanegwyd monomerau pellach at yr adweithydd i roi lliw i'r plastigau tra'n cynnal yr un priodweddau â'r deunyddiau sylfaen.
Watch the film '
Trwy broses gemegol o'r enw dadbolymereiddio, llwyddodd y tîm i ddadwneud eu cynhyrchion gan eu dychwelyd i'r monomerau gwreiddiol.
Dysgon nhw fod modd tynnu'r lliwiau yn ystod y broses ddadbolymereiddio, gan wneud y plastigau'n ailgylchadwy ac yn fwy cynaliadwy.
Ychwanegodd Dr Ward: "Dyma fecanwaith y gallwn ni ei defnyddio i ailgylchu plastigau yn ddiddiwedd, ac rydyn ni’n dangos nad yw technoleg yn bodoli ar gyfer plastigau traddodiadol yn unig.
"Er nad oes gan y diwydiant y seilwaith ar hyn o bryd i ddefnyddio ein dull o ailgylchu plastigau, rydyn ni’n profi bod hyfywedd cemegol yn bodoli, gan osod y llinell sylfaen ar gyfer gwneud hyn yn y dyfodol."
Ar hyn o bryd, mae'r tîm yn mireinio'r broses ymhellach a'i gwneud yn fwy cost-effeithiol, yn ogystal â sicrhau bod modd prosesu'r polymerau newydd hyn i'w defnyddio mewn cynhyrchion yn y byd go iawn.
Caiff yr astudiaeth, 'Chemically recyclable fluorescent polyesters via the ring-opening copolymerization of epoxides and anhydrides', ei chyhoeddi yn Polymer Chemistry.