Yr Ysgol Cerddoriaeth yn cael canlyniadau arbennig yn yr Arolwg Ôl-raddedig a Addysgir
20 Gorffennaf 2023
Mae Ysgol Cerddoriaeth Prifysgol Caerdydd wedi sgorio 93% ar gyfer boddhad cyffredinol myfyrwyr yn Arolwg o Brofiadau Ôl-raddedigion a Addysgir (PTES) 2023.
Mae'r canlyniadau yn ymwneud â rhaglen Cerddoriaeth (MA) yr ysgol.
Mae’r Arolwg o Brofiadau Ôl-raddedigion a Addysgir yn arolwg ar-lein cenedlaethol sy'n gwerthuso saith maes thematig: ansawdd yr addysgu a'r dysgu, ymgysylltu, asesu ac adborth, traethawd hir, trefnu a rheoli, adnoddau dysgu, a datblygu sgiliau.
Teimlai 93% o'r ymatebwyr eu bod wedi'u paratoi'n well ar gyfer cyfleoedd gyrfa yn y dyfodol o ganlyniad i'r rhaglen; bod y rhaglen wedi galluogi myfyrwyr i ddatblygu sgiliau ymchwil; bod meini prawf marcio wedi'u gwneud yn glir ymlaen llaw; a bod unrhyw newidiadau yn y rhaglen wedi'u cyfleu'n effeithiol.
Mae cysondeb ac ansawdd yr ysgol yn glir o'u cymharu â chanlyniadau'r Brifysgol gyfan. Eleni mae canlyniadau'r ysgol ymhlith goreuon y Brifysgol.