Mam a merch yn graddio
18 Gorffennaf 2023
Bydd mam a merch yn graddio’r wythnos hon wrth i’r Brifysgol ddathlu llwyddiannau Graddedigion 2023.
Bydd Angela Amey-Jones yn casglu ei Thystysgrif Ôl-raddedig mewn Nyrsio Iechyd Cyhoeddus Cymunedol Arbenigol o’r Ysgol Gwyddorau Gofal Iechyd, tra bydd ei merch Georgina yn graddio o’r Ysgol Fusnes gyda BSc mewn Rheolaeth Busnes.
Dywedodd Angela: “Stori dysgu gydol oes yw hanes fy ngraddio i. Ar ôl derbyn BA (Anrh) mewn Dylunio gan Brifysgol Cymru yn 1996, penderfynais newid gyrfa yn 2008, gan ddechrau astudio ar gyfer gradd mewn Bydwreigiaeth ym Mhrifysgol Caerdydd. Roeddwn yn astudio’n amser llawn gyda thri o blant bach.
“Dyfarnwyd Baglor Bydwreigiaeth Dosbarth Cyntaf (Anrh) i mi o Brifysgol Caerdydd yn 2011 yn fyfyriwr hŷn, ac rwyf wedi gweithio i Fwrdd Iechyd Caerdydd a’r Fro ers hynny. Ym mis Medi 2021, dychwelais i Brifysgol Caerdydd, ar secondiad o fy rôl yn fydwraig, i astudio’n fyfyriwr amser llawn a chwblhau cymhwyster Ôl-raddedig.”
Ymgymerodd Angela a Georgina â'u hastudiaethau yn ystod y pandemig.
Dywedodd Angela: “Dechreuodd Georgia ei hastudiaethau yn ystod anterth y pandemig, ond roedden ni’n hyderus mai Prifysgol Caerdydd oedd y dewis cywir iddi, a hynny o ganlyniad i fy mhrofiad blaenorol yn fyfyriwr yn y brifysgol.”
Ychwanegodd Georgina: “Roedd Prifysgol Caerdydd yn lle gwych i astudio rheoli busnes. Roedd y Rhaglen Lleoliad Integredig hefyd wedi fy ngalluogi i gael profiad yn y diwydiant. Mae hyn wedi fy helpu i gael swydd yn fuan ar ôl graddio.”
Fydd cysylltiadau’r teulu â’r Brifysgol ddim yn dod i ben yr wythnos hon, wrth i fab Angela ddechrau BSc mewn Sŵoleg yn y Brifysgol ym mis Medi.
“Rydyn ni’n cadw traddodiad Prifysgol Caerdydd yn y teulu!” ychwanegodd Angela.