Gweithio tuag at sector ynni cwbl gynaliadwy
18 Gorffennaf 2023
Bydd academyddion o Brifysgol Caerdydd yn cynnig eu harbenigedd i dair menter ymchwil newydd i sbarduno newid yn y system ynni a helpu'r DU i gyrraedd ei tharged sero net.
Mae'r Energy Demand Research Centre (EDRC), Hydrogen Integration for Accelerated Energy (HI-ACT) a Supergen Energy Networks Impact Hub yn rhan o fuddsoddiad Ymchwil ac Arloesedd y DU (UKRI) gwerth £53 miliwn mewn chwe chanolfan ymchwil a chanolbwynt newydd a fydd yn arwain y DU i sector ynni cwbl gynaliadwy.
Bydd y canolfannau yn rhoi hwb i wybodaeth, yn creu technolegau gwyrdd arloesol ac yn lleihau'r galw am ynni i gyflawni systemau ynni domestig, diwydiannol a thrafnidiaeth wyrddach a glanach.
Bydd yr Athro Meysam Qadrdan o Ysgol Peirianneg Prifysgol Caerdydd yn cefnogi'r EDRC i adeiladu sylfaen dystiolaeth ar gyfer deall ymddygiad defnyddwyr, asesu effaith mesurau cymdeithasol-dechnegol i leihau'r galw am ynni, a mecanweithiau ymchwil i wella effeithlonrwydd ynni.
Gyda chyllid o £15 miliwn wedi'i ddyfarnu gan Gyngor Ymchwil y Gwyddorau Ffisegol a Pheirianneg (EPSRC) a'r Cyngor Ymchwil Economaidd a Chymdeithasol (ESRC), bydd y ganolfan yn ymchwilio i sut y gellir lleihau'r galw am ynni domestig, diwydiannol a thrafnidiaeth ar lefel leol a chenedlaethol ledled y DU.
Dywedodd yr Athro Qadrdan: "Mae datgarboneiddio'r sectorau galw a lleihau'r ynni a ddefnyddir yn strategaethau 'dim difaru' i fynd i'r afael â'r newid yn yr hinsawdd a gwella diogelwch ynni.
"Mae'r EDRC yn cynnig cyfle unigryw ar gyfer ymchwil ryngddisgyblaethol i'r galw am ynni, gan esgor ar ganlyniadau y mae modd eu rhoi ar waith ac effeithiau pendant. Bydd ein tîm yn y Ganolfan Cynhyrchu a Chyflenwi Ynni Adnewyddadwy Integredig yn cyfrannu'n bennaf at yr EDRC gan gynnig arbenigedd mewn hyblygrwydd ochr y galw a dadansoddi system gyfan.
"Rydym yn edrych ymlaen at ddechrau arni!"
Hefyd, gyda chefnogaeth arbenigedd Prifysgol Caerdydd, bydd HI-ACT yn darparu canolbwynt i gymuned ymchwil y DU, gan weithio’n rhan o bartneriaeth agos â busnesau, llywodraethau a gweinyddiaethau i fynd i'r afael â heriau ymchwil sy'n sail i rannau cynhyrchu, storio a dosbarthu hydrogen o'r gadwyn gwerth hydrogen.
Yn rhan o consortiwm HI-ACT, mae'r Athro Karen Henwood o Ysgol y Gwyddorau Cymdeithasol ym Mhrifysgol Caerdydd yn gyfrifol am gynhyrchu gwybodaeth am weledigaethau arbenigol ac ymatebion y cyhoedd ar gyfer datrysiadau sy'n seiliedig ar le, gan ddylunio systemau cymdeithasol-dechnegol newidiol.
Bydd y cyfraniad hwn i'r gwyddorau cymdeithasol yn hanfodol wrth fynd i'r afael ag amrywiaeth o heriau cymdeithasol ac economaidd a achosir gan newid systemig sero net.
Gyda chyllid o £10 miliwn gan yr EPSRC, bydd y ganolfan yn sicrhau bod hydrogen yn cael ei integreiddio'n briodol mewn system ynni deg yn y dyfodol, drwy ymchwil amlddisgyblaethol gyfannol sy'n mynd i'r afael â heriau integreiddio.
Dywedodd yr Athro Jianzhong Wu, Pennaeth Ysgol Peirianneg Prifysgol Caerdydd a phrif ymchwilydd Caerdydd ar y fenter HI-ACT: "Rydym yn falch o gyfrannu at hwb HI-ACT, gan ddefnyddio ein harbenigedd mewn systemau ynni aml-fector a'n cysylltiadau rhanbarthol cryf yma yng Nghymru.
"Gyda'n gilydd, byddwn yn sbarduno integreiddio hydrogen a thanwydd hylif amgen, gan chwarae rhan hanfodol yn y broses o symud y DU i sefyllfa sero a llunio dyfodol ynni cynaliadwy a theg."
Bydd yr Athro Wu hefyd yn cydweithio â Dr Muditha Abeysekera o Ysgol Peirianneg Prifysgol Caerdydd ar Hwb Effaith Rhwydweithiau Ynni Supergen ym Mhrifysgol Bryste.
Gyda chyllid gwerth £5 miliwn gan yr EPSRC, bydd yr hwb yn ymchwilio i foderneiddio systemau dosbarthu ynni rhwng cyflenwyr a defnyddwyr i fod yn sbardun tuag at broses drosglwyddo cyflym, diogel a chyfiawn i sero net.
Dywedodd yr Athro Fonesig Ottoline Leyser, Prif Weithredwr UKRI: "Mae'r llywodraeth wedi gosod targed o gyrraedd allyriadau sero net erbyn 2050, gan ei gwneud yn ofynnol i ddatgarboneiddio ein systemau ynni yn gyflym. Mae UKRI yn trosoli ei allu i weithio ar draws disgyblaethau i gefnogi'r uchelgais hwn trwy bortffolio mawr o fuddsoddiadau a fydd yn gatalyst i arloesedd a systemau ynni gwyrdd newydd.
"Bydd yr arian a gyhoeddwyd heddiw yn helpu ymchwilwyr ac arloeswyr i ddatblygu syniadau arloesol er mwyn gwella systemau ynni domestig, diwydiannol a thrafnidiaeth."