Lansio'r cwrs Microbïomau'r Perfedd cyntaf, ac mae'r adolygiadau'n rhagorol
9 Awst 2023
Gyda chefnogaeth yr Uned DPP, mae'r Ysgol Meddygaeth wedi llwyddo i gynnal cwrs byr Microbïomau'r Perfedd cynta'r Brifysgol. Cafwyd adborth da iawn gan y rhai oedd yn bresennol.
Mae gan microbïom y perfedd y potensial i newid arfer clinigol yn y dyfodol o ran rhagfynegi clefydau, atal clefydau a rheoli clefydau ac mae'n chwarae rhan hanfodol mewn sawl agwedd ar iechyd. Nod y cwrs hwn oedd rhoi gwybodaeth ar sail tystiolaeth i weithwyr gofal sylfaenol am rôl y microbïom, gyda chyfres o sesiynau dan arweiniad arbenigwyr yn y maes.
Dyluniwyd y cwrs fel gweithdy ar-lein er mwyn cyrraedd cynulleidfa ehangach, a sicrhau bod siaradwyr gwadd rhyngwladol yn gallu ymuno â ni i gynnal sesiynau yn eu meysydd diddordeb arbenigol. Roedd dull rhyngddisgyblaethol fel hyn yn golygu ein bod yn manteisio ar arbenigedd ymarferwyr amrywiol, yn cwmpasu amrywiaeth eang o bynciau.
Rydym yn falch iawn bod y rhai oedd yn bresennol (gan gynnwys meddygon teulu a histopatholegwyr) wedi rhoi adborth rhagorol, gyda 100% yn sgorio'r cwrs yn dda neu'n ardderchog. Dywedon nhw y byddent yn defnyddio'r wybodaeth a rannwyd yn ystod y cwrs.
Cynhaliwyd sawl sesiwn gan academyddion ac ymarferwyr amrywiol, yn trafod pynciau megis maeth, gordewdra, canser y colon a'r rhefr, ymchwil ac IBS. Roedd y cwrs dan arweiniad Dr Emma Short, Histopatholegydd Ymgynghorol yn arbenigo yn y llwybr meinwe gastroberfeddol a meddal, a Chyfarwyddwr Rhaglen DPP y Brifysgol, Justine Bold.
Rhannwyd y diwrnod i adrannau, gyda phob gwestai'n trafod ei bwnc penodol. Ar ddiwedd y cwrs, cynhaliwyd sesiwn holi ac ateb panel grŵp.
Siaradwyr:
- Dr Emma Short - Histopatholegydd Ymgynghorol, sy'n arbenigo mewn llwybr meinwe gastroberfeddol a meddal – trosolwg o ficrobïom
- Justine Bold - Cyfarwyddwr Rhaglen DPP, Prifysgol Caerdydd a maethegydd – maeth a'r microbïom
- Dr Venita Patel – Pediatregydd Cymunedol a therapydd maethol cofrestredig – gordewdra a'r microbïom
- Dr Lee Parry – Darlithydd, Prifysgol Caerdydd - canser y colon a'r rhefr microbïom ac ymchwil
- Dr Jonathan Sutton – Gastroenterolegydd Ymgynghorol – Trawsblaniad microbïom ysgarthol
- Dr Mohammad Rostami-Nejad – pennaeth adran clefyd seliag yn RIGLD a golygydd mewnol Gastroenteroleg a Hepatoleg O'r Gwely i'r Fainc- Newidiadau microbïom mewn clefyd seliag ac IBS.
Beth nesaf?
Yn dilyn llwyddiant y digwyddiad cyntaf, rydym yn gweithio ar ddod â'r cwrs yn ôl ar gyfer 2024. Ar hyn o bryd, y nod yw cynnal y cwrs wyneb yn wyneb. Mynegwch eich diddordeb i fod ymhlith y cyntaf i wybod pryd gallwch gadw lle.
Cysylltu â ni
Os hoffech ragor o wybodaeth am sut y gallem drefnu DPP ar gyfer eich sefydliad neu sector, cysylltwch â'n tîm cyfeillgar i gael sgwrs gychwynnol: