Gwaith ymchwil yn datguddio'r rôl hanfodol sydd gan sefydliadau wrth fynd i'r afael â thlodi bwyd
18 Gorffennaf 2023
Mae mewnwelediadau gwerthfawr i ddarpariaeth bwyd a mentrau cymunedol yn ne Cymru wedi cael eu datgelu drwy brosiect ymchwil dan arweiniad Ysgol Busnes Caerdydd.
Gan gydnabod yr angen dybryd am well dealltwriaeth o ddosbarthiad cymorth bwyd yn y DU, arweiniodd yr Athro Yingli Wang a'r myfyriwr PhD, Alex Jones, y prosiect ymchwil a ffurfio partneriaeth gydweithredol gyda FareShare Cymru, a mentrau bwyd lleol eraill, i gynnal astudiaeth fanwl.
Roedd y prosiect yn cynnwys arolwg a dadansoddiad helaeth o nifer o ddarparwyr bwyd cymunedol, gan gynnwys banciau bwyd, ceginau cymunedol a sefydliadau elusennol.
Gweithiodd ymchwilwyr gyda FareShare Cymru, elusen ailddosbarthu bwyd enwog, i gasglu data a mewnwelediadau amhrisiadwy i ddarpariaeth bwyd cymunedol drwy rwydwaith ac arbenigedd helaeth FareShare Cymru wrth fynd i'r afael â thlodi bwyd.
Amlygodd yr Athro Wang arwyddocâd eu gwaith ymchwil: “oherwydd yr amrywiaeth fawr o ddarpariaeth bwyd cymunedol, nid oes cofnod cynhwysfawr o nifer y sefydliadau sy'n darparu cymorth bwyd yn y DU - fel y nodwyd gan Adroddiad Diogelwch Bwyd y DU (2021) a gyhoeddwyd yn ddiweddar. Mae data'r Llywodraeth hefyd yn gyfyngedig o ran nifer yr unigolion neu'r aelwydydd sy'n derbyn cymorth bwyd, faint y gallent fod wedi'i dderbyn, a thros ba gyfnod.”
Mae canfyddiadau'r prosiect ymchwil yn tynnu sylw at y we gymhleth o ddarparwyr bwyd cymunedol sy'n gweithredu yn ne Cymru. Mae'r gwaith ymchwil hefyd wedi taflu goleuni ar ailddosbarthu bwyd dros ben, lleihau gwastraff, a gwneud y gorau o effaith mentrau bwyd cymunedol. Bydd canfyddiadau'r astudiaeth yn gwella'r cydgysylltiad rhwng darparwyr bwyd cymunedol, gan arwain at ymatebion mwy effeithlon ac effeithiol i ansicrwydd bwyd.
Dywedodd Sarah Germain, Prif Swyddog Gweithredol FareShare Cymru: “mae prosiectau ymchwil cydweithredol fel hyn yn chwarae rhan hanfodol yn ein dealltwriaeth o ddarpariaeth bwyd cymunedol. Heb os, bydd y canfyddiadau yn cyfrannu at ein hymdrechion parhaus i gefnogi’r gwaith o gryfhau cymunedau a lleihau gwastraff bwyd ledled Cymru.”
Buont hefyd yn cydweithio â Bwyd Caerdydd, partneriaeth amlasiantaethol sy'n gweithio i hyrwyddo bwyd iach, amgylcheddol gynaliadwy a moesegol ar draws y ddinas, a ddarparodd wybodaeth ac arbenigedd lleol i wella'r astudiaeth.
Dywedodd Pearl Costello, gwneuthurwr newid cynaliadwyedd yn Synnwyr Bwyd Cymru a chydlynydd Bwyd Caerdydd: “mae'r gwaith ymchwil yn rhoi cipolwg gwerthfawr ar dirwedd bwyd cymunedol Caerdydd a de Cymru. Fel partneriaeth bwyd, rydym yn cydlynu gweithgarwch sy'n gysylltiedig â bwyd ar lawr gwlad ac yn ceisio mynd i'r afael ag achosion sylfaenol tlodi bwyd. Mae mapio'r prosiectau presennol yn hanfodol wrth arwain ein hymdrechion ar y cyd i osgoi dyblygu, datblygu cadwyni cyflenwi byr, a datblygu atebion cynaliadwy sydd o fudd i'n cymunedau.”
Wrth i'r prosiect ymchwil ddod i ben, mae'r Athro Wang ac Alex Jones, ynghyd â'r cydweithwyr eraill, yn archwilio opsiynau i sicrhau bod y gronfa ddata mapio ar-lein hon ar gael i sefydliadau rhwydweithiau bwyd lleol yng Nghymru. Maent yn rhagweld y bydd y gwaith ymchwil, a ategir gan y cydweithrediadau sylweddol hyn, yn meithrin trafodaethau treiddgar pellach ac yn ysbrydoli camau gweithredu ar y cyd i leddfu tlodi bwyd a hyrwyddo atebion cynaliadwy.
Ariennir y prosiect ymchwil cydweithredol gan gronfeydd IAA ESRC.