Nyrs gofal critigol i gyflwyno traethawd hir mewn cynhadledd
17 Gorffennaf 2023
Bydd nyrs gofal critigol sydd wedi rhagori yn ei hastudiaethau yn cyflwyno ymchwil ei thraethawd hir i Gynhadledd Ewropeaidd sylweddol.
Gwerthusodd Harriet Goudie, myfyriwr MSc mewn Gofal Critigol yn yr Ysgol Meddygaeth, gydymffurfiad â bwndel gofal a oedd â’r nod o atal nifer yr achosion o ddeliriwm mewn gofal critigol, a’u lleihau.
Nawr, mae Harriet wedi cyflwyno crynodeb i gyflwyno ei gwaith i gynhadledd LIVES 2023 Cymdeithas Ewropeaidd Meddyginiaeth Gofal Dwys ym Milan ym mis Hydref 2023.
Dywedodd Harriet, sy’n graddio’r wythnos hon: “Cefais brofiad anhygoel ym Mhrifysgol Caerdydd yn cwblhau fy MSc. Cefais gymorth gwych gan fy nhiwtor a byddwn yn argymell y cwrs i unrhyw un.
“Rwy’n edrych ymlaen yn fawr at ei roi ar waith a datblygu rhagor o ymchwil yn fy swydd bresennol.”
Dywedodd Sharon Norman, Cyfarwyddwr Rhaglen yr MSc mewn Gofal Critigol yn yr Ysgol Meddygaeth: “Rwyf wedi cael y pleser o fod yn diwtor personol a goruchwyliwr traethawd hir Harriet, ac rwyf am ei llongyfarch ar ei graddio.
“Mae ei chyflawniadau hyd yn oed yn fwy ysbrydoledig pan ystyriwch iddi ddechrau ei gradd yn anterth pandemig COVID-19, a bod ganddi ddyslecsia hefyd.
“Rwy’n llawn parch tuag at ei hymrwymiad a'i hangerdd i'w hastudiaethau ac i wella gofal cleifion difrifol wael.”