“Mae cefnogaeth cyfoedion mor bwysig: os yw’n gwneud i rywun deimlo’n llai unig, rydw i wedi gwneud fy ngwaith”
20 Gorffennaf 2023
Mae Elliott Williams yn mynd â'u talent i fentora i'r lefel nesaf trwy hyfforddi i fod yn athro.
Mae Hyrwyddwr Lles LHDTC+ ar gyfer Prifysgol Caerdydd sy'n graddio’r wythnos hon gyda gradd mewn Ffrangeg a Sbaeneg, hefyd wedi ymwneud yn helaeth â'r rhaglen fentora Ieithoedd Tramor Modern (ITM).
Mae Elliott, o Fryste, yn dechrau cwrs TAR ym Mhrifysgol UWE ym mis Medi.
Dywedodd y dyn 21 oed: “Rwyf wedi ceisio manteisio i'r eithaf ar unrhyw gyfleoedd yn y brifysgol i ddatblygu fy sgiliau ymhellach.
“Mae llawer o fy mywyd cymdeithasol wedi'i ganoli o amgylch y gymuned cwîr. Weithiau, rwy'n eistedd yn ôl ac yn meddwl, pe na bai'r gymuned LHDTC+ o'm cwmpas byddai fy mywyd gymaint yn anoddach, ac yn llai cariadus a gofalgar. Dyna pam y cymerais y rôl fel hyrwyddwr lles; nid oes gan rai pobl y rhwydwaith hwnnw wedi'i sefydlu. Nid yw erioed wedi bod yn fwy hanfodol i bobl sy'n LHDTC+ wybod bod ganddynt bobl i droi atynt am gefnogaeth a dyna oedd y rheswm pam roeddwn i eisiau ymgymryd â'r rôl hon.
“Mae cefnogaeth cyfoedion mor bwysig. Rydw i wir wedi mwynhau cwrdd â phobl newydd, a llawer ohonyn nhw’n newydd i'r Brifysgol. Bydd y pethau bach yn gwneud cymaint o wahaniaeth, megis bod yn wyneb cyfeillgar ac yn glust i wrando. Rwy'n gobeithio bod y digwyddiadau rwyf wedi bod yn rhan ohonynt wedi gwneud gwahaniaeth cadarnhaol i ddiwrnod rhywun. Pan rydw i wedi ysgrifennu erthyglau ar gyfer newyddion myfyrwyr, rydw i bob amser yn meddwl, os yw'n gwneud i rywun deimlo'n llai ar eu pen eu hun ac mewn gwell sefyllfa i gael gafael ar yr help sydd ar gael, yna rydw i wedi gwneud fy ngwaith.”
Roedd gradd Elliott yn golygu eu bod yn treulio amser ym Mharis fel athro iaith Saesneg a Valencia fel myfyriwr.
“Roedd y ddau brofiad yn anhygoel — ac rydw i wedi magu cymaint o hyder wrth ddysgu a siarad ieithoedd eraill,” medden nhw.
Fel mentor gyda'r rhaglen fentora Ieithoedd Tramor Modern, defnyddiodd Elliott y profiadau hyn i ysbrydoli ac ysgogi pobl ifanc yn eu harddegau sy'n ystyried astudio iaith fodern ar lefel TGAU.
“Mae dysgu ieithoedd yn rhoi hyder i chi ac yn agor eich byd i weld gwahanol safbwyntiau a ffyrdd o fyw. Mae wedi bod yn anhygoel gallu cwrdd â phobl ifanc a rhannu'r buddion hynny gyda nhw - mae'n rhywbeth y byddwn i wedi'i werthfawrogi pan oeddwn i yn yr ysgol, siarad â rhywun sydd ddim yn athro neu'n rhiant, ond rhywun sy'n defnyddio ieithoedd mewn ffordd ymarferol ychydig ymhellach i lawr y ffordd oddi wrthych chi.”
Mae Elliott nawr yn edrych ymlaen at ddechrau cwrs TAR a lledaenu'r neges hon ymhellach trwy ddysgu Ffrangeg a Sbaeneg mewn ysgol uwchradd.
“Rwy'n edrych ymlaen at y dyfodol, i ysbrydoli chwilfrydedd ar gyfer dysgu ieithoedd ymhlith pobl ifanc a bod y model rôl yr hoffwn i fod wedi’i gael wrth dyfu i fyny”, medden nhw.