Canolfan Wolfson yn croesawu aelodau'r bwrdd i drafod prosiectau sydd â’r nod o wella polisïau a phrofiad pobl ifanc yn yr ysgol
26 Gorffennaf 2023
Recently, members of our Implementation and Engagement Board (IEB), including youth representatives, NHS clinicians, third sector partners and advisors from the Welsh Government, met to discuss ongoing research projects at the Wolfson Centre for Young People’s Mental Health and a review of school and community-based counselling services.
Dr Chris Eaton opened the meeting by sharing information on engaging with policy makers, including best practices and the importance for researchers to develop these links.
Yna cyflwynodd y gwahanol ffrydiau gwaith ddiweddariadau ac uchafbwyntiau i’r bwrdd ynghylch yr ymchwil sy’n mynd rhagddi yn y ganolfan:
- Cyflwynodd Dr Olga Eyre ei hymchwil sy’n canolbwyntio ar ddatblygu adnoddau hyfforddi iechyd meddwl ar gyfer staff ysgolion. Trafodwyd pwysigrwydd creu adnoddau hawdd eu cyrraedd sy’n seiliedig ar ymchwil i ennyn diddordeb athrawon wrth gefnogi iechyd meddwl pobl ifanc. Cyfrannodd yr Athro Ann John at y drafodaeth drwy archwilio ffyrdd o wahaniaethu'r adnoddau hyn oddi wrth y rhai presennol.
- Cyflwynodd Dr Foteini Tseliou ar ymchwilio i lwybrau problemau emosiynol ar draws datblygiad ac amser. Trafododd y bwrdd rai o ganfyddiadau'r ymchwil gan gynnwys y gwahanol ffactorau sy'n effeithio ar iechyd meddwl pobl ifanc.
- Roedd cyflwyniad Dr Charlotte Dennison's yn ymchwilio i eneteg gorbryder ac iselder ymhlith pobl ifanc. Archwiliwyd astudiaethau parhaus yn ffrwd waith 4, ynghyd â'r gydberthynas rhwng y cyflyrau hyn a materion iechyd corfforol fel meigrynnau a diabetes. Bu i’r drafodaeth hefyd gyffwrdd ar gymhlethdodau o ran meithrin genetig.
- Cyflwynodd Dr Marcos del Pozo Banos ei waith dadansoddi data ar symptomau clwstwr a hunan-niweidio ymhlith plant a phobl ifanc ag iselder a gorbryder. Trafododd y bwrdd y cymhlethdodau sydd ynghlwm â dysgu peiriannol a phwysigrwydd gwneud y wybodaeth hon yn hygyrch i'r cyhoedd. Ymatebodd Dr del Pozo Banos y bydd yn cydweithio â'n grŵp cynghori ieuenctid cyn bo hir i drafod ei waith.
Cynhaliwyd y cyflwyniad olaf gan Emma Meilak, Arweinydd Cynnwys y Cyhoedd, a Catrin Edwards, un o sylfaenwyr y Grŵp Cynghori Ieuenctid (YAG). Rhannodd Emma a Catrin wybodaeth ynghylch cyfraniad yr YAG i waith y Ganolfan a natur esblygol hyn. Canolbwynt y trafodaethau oedd sut yr ydym yn parhau i gynnwys aelodau YAG unwaith y maent wedi graddio i sicrhau eu bod yn teimlo eu bod yn cael eu cefnogi.
Daeth cyfarfod y bwrdd i ben ar nodyn cadarnhaol, gyda diolchiadau wedi’u rhoi am y cyfraniadau, y farn a'r syniadau gwerthfawr a rannwyd gan bawb a oedd yn bresennol. Bydd i’r mewnbynnau hyn ran hanfodol wrth lunio'r gwaith sy’n mynd rhagddo yng Nghanolfan Wolfson. Fe wnaeth y cyfarfod wyneb yn wyneb ehangu’r cydweithredu ymhellach ac roedd yn blatfform ar gyfer deialog ystyrlon.