Mae ansawdd swyddi athrawon sy'n disgwyl arolygiad Ofsted, yn waeth yn ôl adroddiad
13 Gorffennaf 2023
Mae ansawdd swyddi athrawon yn Lloegr, sy'n disgwyl arolygiad Ofsted yn y 12 mis nesaf, yn waeth a dwyster y gwaith yn uwch, yn ôl adroddiad.
Dangosodd yr astudiaeth gan academyddion ym Mhrifysgol Caerdydd a Choleg Prifysgol Llundain (UCL) hefyd mai prin y mae’r amodau ar gyfer gweithwyr addysgu proffesiynol wedi newid ers y pandemig a’u bod wedi gwaethygu o ran rhai agweddau. Mae hyn yn wahanol i lawer o weithwyr proffesiynol eraill sydd wedi profi cynnydd sylweddol yn hyblygrwydd eu horiau gwaith.
Mae athrawon mewn ysgolion sydd wedi’i lleoli mewn ardaloedd o amddifadedd cymdeithasol uchel hefyd wedi profi amodau gwaith gwaeth, yn ôl y canfyddiadau.
Mae’r adroddiad yn seiliedig ar ddata gan 6,841 o athrawon a chynorthwywyr addysgu a gymerodd ran mewn cwis ansawdd swyddi ar-lein (howgoodismyjob.com) a gafodd ei gynnal cyn y pandemig ac yna wedi’r pandemig, ac arolwg a gomisiynwyd yn arbennig o aelodau’r Undeb Addysg Cenedlaethol (NEU), a gafodd ei gynnal yn gynharach eleni ac a gafodd 15,584 ymateb.
Dywedodd yr awdur arweiniol yr Athro Alan Felstead, sy’n gweithio yn Sefydliad Ymchwil Cymdeithasol ac Economaidd a Data Cymru (WISERD), ym Mhrifysgol Caerdydd: “Mae addysgu yn swydd sy’n rhoi boddhad ac sydd hefyd yn heriol, ond mae canfyddiadau’r adroddiad hwn yn awgrymu ei fod yn dod yn fwy heriol byth. Heb newid, bydd yn anodd mynd i’r afael â’r argyfwng recriwtio a chadw acíwt y mae’r sector yn ei wynebu.
“Mae angen diwygio’r drefn arolygu ysgolion er mwyn lleihau pwysau ar staff addysgu a lleihau eu llwyth gwaith. Ar hyn o bryd, mae'n ymddangos bod ofn arolygiadau ysgol yn gwaethygu nifer o nodweddion ansawdd swyddi wrth i ysgolion baratoi ar gyfer ymweliad y tîm arolygu. Mae hyn yn gysylltiedig â dirywiad yn lles staff ysgol.”
Ychwanegodd y cyd-awdur Katy Huxley, sydd hefyd yn gweithio yn WISERD: “Mae angen rhoi rhagor o sylw i leihau dwyster pob awr waith ar gyfer athrawon, yn ogystal â chyfanswm yr amser a dreulir yn gweithio. Mae angen mynd i’r afael â phrinder aelodau staff drwy wella amodau gwaith y rhai sy’n gweithio mewn ysgolion. Mae hyn yn cynnwys, ond hefyd yn mynd y tu hwnt, i dâl. Dylid hefyd ystyried nodweddion gwaith megis disgresiwn, cynnwys aelodau’r staff, datblygu gyrfa, dyrchafiadau a gweithio hyblyg.”
Wrth wneud sylwadau ar y canfyddiadau, dywedodd Dr Mary Bousted, Cyd-Ysgrifennydd Cyffredinol yr Undeb Addysg Cenedlaethol: “Ni fydd yr astudiaeth hon yn syndod i athrawon. Mae addysgu eisoes yn waith blinedig ac mae'r cyfnod cyn Ofsted yn gwneud gwaith yn llawer anoddach ac yn achosi blinder pellach i athrawon.
“Ni all y Llywodraeth barhau â system sydd wedi torri. Dyna pam mae’r NEU yn galw am ddisodli Ofsted a chael system newydd sy’n gefnogol, yn effeithiol ac yn deg yn ei le.
“Mae’r astudiaeth hon hefyd yn helpu i egluro pam mae addysgu wedi dod yn llawer llai deniadol i raddedigion newydd oherwydd bod proffesiynau eraill wedi bod â hyblygrwydd i weithio gartref am ran o’u hwythnos, ac nid yw hyn yn opsiwn i athrawon.”
Mae Working in Schools: Job quality of educational professionals before and after the pandemic, ar gael i'w weld yma.