Dadelfennu gwastraff plastig yn gyflym, yn lân ac yn rhad
13 Gorffennaf 2023
Mae ymchwilwyr Prifysgol Caerdydd yn datblygu ffordd wyrddach, gyflymach a mwy effeithiol o ailgylchu plastigau.
Bydd prosiect ONESTEP yn defnyddio proses sero-allyriadau sy'n seiliedig ar ficrodon i ddadelfennu plastig yn gydrannau cemegol i'w hailddefnyddio er mwyn gweithgynhyrchu plastigau newydd o safon.
Un o bum prosiect newydd ac uchelgeisiol sy'n anelu at greu system blastigau fwy cynaliadwy fydd yn helpu'r DU i symud tuag at economi plastig gylchol yw ONESTEP. Ariennir y prosiect gan Gyngor Ymchwil Peirianneg a Gwyddorau Ffisegol (EPSRC) a Chyngor Ymchwil Biotechnoleg a Gwyddorau Biolegol (BBSRC) Ymchwil ac Arloesi’r DU (UKRI).
Bydd £6 miliwn o gyllid yn rhan o'r gwaith i leihau'r difrod amgylcheddol enfawr y mae plastigau yn ei achosi, yn ogystal â chynyddu hirhoedledd y defnydd a rhoi hwb i'w gwerth.
Dyma a ddywedodd Dr Daniel Slocombe, Darllenydd yn Ysgol Peirianneg Prifysgol Caerdydd ac arweinydd prosiect ONESTEP: "Mae ailgylchu plastigau yn gostus ac yn ddwys o ran ynni, ac mae hefyd yn cynhyrchu allyriadau carbon. Ni ellir ailgylchu llawer o fathau o gwbl, felly mae angen chwyldro sy'n ei gwneud hi'n llawer haws dadelfennu gwastraff plastigau yn gydrannau ar lefel foleciwlaidd ac yna eu defnyddio i gynhyrchu plastigau newydd y gellir eu hailddefnyddio.
"Nod ONESTEP yw cyflawni hyn gan harneisio ein datblygiadau diweddar ym maes catalysis gan ddefnyddio meysydd electromagnetig microdonau i brosesu plastigau’n fwy effeithlon ac mewn llai o gamau fel y bydd safon mwy o gynnyrch yn well, gan arwain at economi blastigau sy’n gwbl gylchol."
Mae cynllun yr EPSRC-BBSRC yn adlewyrchu'r angen i feddwl o'r newydd i wneud plastigau a'r defnydd ohonyn nhw’n fwy cynaliadwy.
Dyma a ddywedodd Cadeirydd Gweithredol Dros Dro’r EPSRC, yr Athro Miles Padgett: "Gan harneisio cryfder ac amrywiaeth eithriadol sylfaen ymchwil y DU, mae pob un o’r pum prosiect hyn yn mynd i'r afael â heriau sylweddol mewn ffyrdd hynod arloesol. Mae'r manteision posibl yn enfawr: bydd sicrhau economi gylchol i blastigau yn datgloi llu o fanteision amgylcheddol ac economaidd hanfodol.
"Bydd yr ymchwil newydd hon, fydd yn rhan o thema strategol UKRI o ran 'creu dyfodol gwyrddach', yn golygu y bydd modd symud i ffwrdd yn sylweddol o ddefnyddio plastigau ychydig o weithiau ac yna eu gwaredu, gan eu helpu felly i barhau i chwarae rhan hanfodol mewn cymdeithasau datblygedig."