Dŵr hallt iawn o Gefnfor India wedi helpu i roi diwedd ar oesoedd yr iâ, yn ôl astudiaeth
11 Gorffennaf 2023
Mae tîm rhyngwladol o wyddonwyr yn honni eu bod wedi darganfod ffynhonnell dŵr cynnes hallt iawn a ruthrodd i Gefnfor yr Iwerydd 15,000 o flynyddoedd yn ôl, gan sbarduno dechrau diwedd oes yr iâ ddiwethaf.
Mae eu hastudiaeth yn olrhain hanes tymheredd cefnforoedd a halltedd yn ystod pob cylch oes yr iâ o'r 1.5 miliwn o flynyddoedd diwethaf.
Mesurodd y tîm o wyddonwyr o Brifysgol Caerdydd, Prifysgol St Andrews a phrifysgolion dramor, olion bysedd cemegol wedi'u cloi mewn cregyn ffosil microsgopig a dynnwyd o graidd 40 metr o fwd môr dwfn er mwyn ail-greu tymheredd a halltedd y dŵr môr lle tyfodd y cregyn ynddo.
Mae eu canfyddiadau, a gyhoeddwyd yn Nature, yn datgelu bod dyfroedd yng Nghefnfor India yn ystod brig pob oes yr iâ wedi cynnwys llawer iawn o halen. Roedd hyn oherwydd cyfyngiadau ar gerrynt dŵr croyw a fyddai fel arfer yn llifo i mewn i Gefnfor India o'r Môr Tawel.
Dywedodd y prif awdur Dr Sophie Nuber o Brifysgol Genedlaethol Taiwan, a gwblhaodd ei PhD ym Mhrifysgol Caerdydd: "O dan heulwen poeth yr is-drofannau, mae dŵr y môr yn anweddu ac yn mynd yn fwy hallt.
"Fel arfer, yng Nghefnfor India mae'r halen hwn yn cael ei wanhau gan ddyfroedd ffres sy'n llifo i mewn o'r Môr Tawel, ond gan fod lefel y môr wedi gostwng yn ystod oesoedd yr iâ, daeth cyflenwad y cerrynt hwn i ben, gan adael i’r halen gronni heb ei wanhau."
Canfu'r ymchwilwyr y gall lefelau'r môr - a ostyngodd yn fyd-eang gymaint â 120 metr yn ystod oesoedd yr iâ gan fod anwedd dŵr o'r cefnfor wedi’i gloi mewn llenni iâ enfawr - newid y cysylltiad cefnforol rhwng y Môr Tawel a Chefnfor India yn sylweddol.
Yn ôl yr astudiaeth, byddai'r broses hon wedi torri cyflenwad y ceryntau dŵr croyw sy'n llifo i Gefnfor India dro ar ôl tro trwy ynysfor Indonesia, wrth i wely'r môr yn y rhanbarth hwn ddod yn dir pan ostyngodd lefelau’r dŵr.
O ganlyniad i hyn, roedd y dyfroedd hallt wedi parhau i fod yn gaeth yng Nghefnfor India tan ddiwedd oes yr iâ ddiwethaf, pan wnaeth gwyntoedd a’r cerrynt yn symud ganiatáu iddyn nhw ffrydio i mewn i Fôr yr Iwerydd. Roedd hyn wedi helpu i ailsefydlu'r system bresennol sy'n cynhesu'r DU a Gogledd-orllewin Ewrop.
Dywedodd yr Athro Steve Barker o Ysgol Gwyddorau'r Ddaear a'r Amgylchedd Prifysgol Caerdydd, ac un o gyd-awduron yr astudiaeth: "Fwy na deng mlynedd yn ôl, fe wnaethon ni ddarganfod bod diwedd oes yr iâ wedi creu ymchwydd enfawr yng ngherrynt Môr yr Iwerydd, a helpodd i gyflwyno amodau cynhesach rhwng rhewlifoedd.
"Mae ein hastudiaeth newydd yn dangos bod peth o'r halen a helpodd i wneud y cerrynt hyn mor gryf a phwerus wedi dod o fwy na 10,000 cilomedr i ffwrdd yng Nghefnfor India."
Mae'r ymchwilwyr yn rhybuddio bod y cerrynt hallt cynnes hyn, sy'n parhau i lifo drwy Fôr yr Iwerydd heddiw, yn gwanhau gan fod dŵr croyw o haenau iâ sy’n toddi yn eu cyrraedd, a allai sbarduno cyfres olynol o effeithiau ar yr hinsawdd.
Dywedodd Dr James Rae o Brifysgol St Andrews: "Mae ein gwaith yn dangos sut mae gwahanol rannau o'r system hinsawdd yn cysylltu â’i gilydd yn rhyfeddol.
"Gall newidiadau mewn cylchrediad a halwynedd mewn un rhan o'r cefnfor gael effaith enfawr ar ochr arall y blaned, felly mae angen i ni atal cynhesu byd-eang i atal tarfu pellach ar y systemau cylchrediad critigol hyn."
Roedd eu canfyddiadau newydd yn bosibl o ganlyniad i’r cydweithio byd-eang wrth ddrilio cefnforoedd sydd wedi bod yn mynd rhagddo ers degawdau. Ei henw yw’r International Ocean Discovery Program (IODP), a gyhoeddodd yn ddiweddar y byddai ei llong ymchwil flaenllaw, y JOIDES Resolution yn cael ei hymddeol yn gynnar.
Cafodd y craidd a ddefnyddiwyd yn yr astudiaeth hon ei gasglu o Gefnfor India yn 2016 yn ystod taith IODP ar y JOIDES Resolution. Cafodd hon ei harwain ar y cyd gan un arall o'r cyd-awduron, yr Athro Ian Hall o Ysgol Gwyddorau'r Ddaear a'r Amgylchedd Prifysgol Caerdydd.
Dyma a ddywedodd: "Mae’r JOIDES Resolution wedi bod yn hanfodol wrth gasglu cyfoeth o wybodaeth newydd ym maes gwyddor y môr a'r hinsawdd. Bydd ei hymddeoliad yn golled sylweddol i gymuned drilio'r cefnforoedd."