Ôl troed carbon pysgodyn fel anifail anwes
11 Gorffennaf 2023
Yn ôl astudiaeth newydd, gallai cadw pysgod trofannol fel anifeiliaid anwes gyfrannu at hyd at 12.4% o allyriadau CO2 cartrefi cyfartalog blynyddol y DU a hyd at 30% o ddefnydd dŵr cyfartalog blynyddol cartrefi’r DU.
Mae ôl troed carbon ac effeithiau amgylcheddol cadw pysgod fel anifeiliaid anwes wedi cael eu cyfrifo am y tro cyntaf gan Sefydliad Ymchwil Dŵr Prifysgol Caerdydd.
Dywedodd Dr William Perry, Cydymaith Ymchwil yn y Sefydliad: “Yn y DU, mae 4 miliwn o gartrefi yn cadw pysgodyn fel anifail anwes ac amcangyfrifir bod gan 70% o'r rhai sy'n cadw pysgod acwariwm dŵr croyw trofannol.
“Mae ôl troed carbon perchenogi ar anifeiliaid anwes fel cŵn a chathod wedi'i gyfrifo o'r blaen, ond rydym wedi rhoi'r amcangyfrifon cyntaf o allyriadau carbon deuocsid a gynhyrchir wrth gynnal acwariwm trofannol, yn ogystal ag amcangyfrif o’r defnydd o ddŵr.”
Datblygodd Dr William Perry amcangyfrifon o effeithiau amgylcheddol cadw pysgod ar draws sawl gwlad yng Ngogledd Ewrop (Ffrainc, Gwlad Pwyl a'r DU). Trafodir yr amcangyfrifon yng nghyd-destun dŵr croyw ac acwaria morol, a gyfrifir gan ddefnyddio meintiau acwariwm enghreifftiol o 50, 200 a 400 litr.
Gan ddefnyddio amcangyfrifon o'r DU, gan ddibynnu ar faint ac amodau rhedeg, mae acwariwm trofannol yn cynhyrchu amcangyfrif o 85.3 - 635.2 kg o CO2 y flwyddyn, sy'n cyfateb i 1.6% — 12.4% o allyriadau CO2 cyfartalog blynyddol y DU.
Amcangyfrifodd yr ymchwil hefyd fod acwaria trofannol yn defnyddio 156 - 31,200 litr o ddŵr y flwyddyn, sy'n cyfateb i 0.2% — 30.1% o ddefnydd dŵr cyfartalog blynyddol y DU, yn dibynnu ar faint a chyfundrefnau cynnal a chadw.
Ymhlith y ffactorau amgylcheddol mwyaf oedd cynhesu'r dŵr, yn enwedig mewn acwaria mwy, yn ogystal â'r wlad wreiddiol - o ganlyniad i wahanol lefelau o ddatgarboneiddio mewn gridiau trydan mewn gwahanol wledydd.
Ychwanegodd Dr Perry: “O ran effaith amgylcheddol, gall cadw pysgod addurnol fod yn ddewis mwy cydwybodol o anifeiliaid anwes na pherchenogi ar gi neu gath o faint cyffredin sy'n debygol o gynhyrchu llawer mwy o allyriadau gan eu bod nhw’n bwyta cig.
“Fodd bynnag, gall effeithiau amgylcheddol cadw pysgod hefyd fod yn sylweddol yn dibynnu ar faint yr acwariwm, sut mae'n cael ei redeg a hyd yn oed ym mha wlad y mae. Mae gwelliannau y gellir eu gwneud o hyd i sicrhau cynaliadwyedd amgylcheddol yr hobi.
“Bydd yr effaith amgylcheddol o anghenion ynni cadw pysgod yn gwella wrth i gridiau ynni cenedlaethol ddechrau datgarboneiddio, ond ni fydd yn hawdd i leihau effaith amgylcheddol defnydd uchel o ddŵr a bydd angen dyfeisgarwch ar yr unigolyn.
“Mae'r rhain yn ystyriaethau pwysig wrth i ni wynebu argyfwng hinsawdd sy'n gysylltiedig â'n gofynion am ynni, yn ogystal ag ansicrwydd dŵr sy'n gysylltiedig â'n gofynion am ddŵr.”
Cyhoeddir yr ymchwil, Effaith amgylcheddol cadw acwariwm trofannol yng Ngogledd Ewrop, yng nghyfnodolyn Fish Biology.