Gweminar: Seicosis ôl-enedigol: o ymchwil i adferiad
5 Mai 2023
Yn rhan o Wythnos Ymwybyddiaeth Iechyd Meddwl Mamau, cynhaliodd y Ganolfan Genedlaethol ar gyfer Iechyd Meddwl (NCMH) weminar ar seicosis ôl-enedigol, sef salwch meddwl yn dilyn rhoi genedigaeth gyda symptomau sy’n amrywio o rithwelediadau a rhithdybiau i mania, iselder neu ddryswch.
Cynhaliwyd y gweminar ddydd Iau 4 Mai mewn partneriaeth ag Action on Postpartum Psychosis (APP) a chlywodd y sawl oedd yn bresennol gan ymchwilwyr a lleisiau arbenigol â phrofiad byw o’r anhwylder gan gynnwys yr awdur a llysgennad APP, Laura Dockrill.
Disgrifiodd Dockrill ei phrofiad o PP fel un ‘mwyaf trawmatig’ ei bywyd: “Deffrais ar fy Sul y Mamau cyntaf mewn ward seiciatrig… wedi fy ngwahanu oddi wrth fy maban newydd-anedig heb unrhyw syniad sut na pham y cyrhaeddais yno,” meddai.
Pwysigrwydd ymchwil ar seicosis ôl-enedigol
Esboniodd yr Athro Ian Jones, Cyfarwyddwr y Ganolfan Genedlaethol ar gyfer Iechyd Meddwl, fod genedigaeth yn sbardun pwerus ar gyfer salwch meddwl:
Mae llawer o ffactorau a allai gyfrannu at risg uwch o seicosis ôl-enedigol gan gynnwys ffactorau genetig, diagnosis o anhwylder deubegynol neu aflonyddwch o ran cwsg sy’n digwydd wrth ofalu am fabi newydd-anedig.
Y gobaith yw y bydd rhagor o ymchwil i’r salwch meddwl ‘pwysig ond sydd heb ei astudio’n ddigonol’ hwn yn gwneud gwahaniaeth gwirioneddol i fywydau menywod a’u teuluoedd.
Gweithio i wella bywydau menywod a’u teuluoedd
Esboniodd Dr Sally Wilson sut mae NCMH ac APP yn ceisio pontio bylchau o ran ymchwil. Mae hyn wedi cynnwys canolbwyntio’n benodol ar ffactorau risg gan gynnwys cwsg a geneteg, yn ogystal ag arolygon i gasglu profiad o lygad y ffynnon o ofal ac adferiad o ran PP.
Mae arolygon a gynhaliwyd gan APP yn dangos bod boddhad cyffredinol o ran gofal ar gyfer seicosis ôl-enedigol wedi cynyddu. Fodd bynnag, nododd fod rhagor o waith i’w wneud: “Rydym yn dal i weld adferiad arafach a chyfradd boddhad is ymhlith y rhai sy’n cael eu derbyn i unedau seiciatrig cyffredinol [yn hytrach nag unedau arbenigol] a’r rhai sydd wedi’u gwahanu oddi wrth eu babanod.”
Myfyriodd Dr Jo Hodgekins ar y gwasanaethau cyfredol sydd ar gael i fenywod â PP, “Mae llwybrau gofal presennol o fewn gwasanaethau iechyd meddwl y GIG a allai gynnig cymorth i fenywod a theuluoedd, ond mae angen i ni ddeall y materion sy’n gysylltiedig â’r broses adfer yn well, felly hefyd o ran sut y gallwn deilwra ymyriadau a phwy sydd yn y sefyllfa orau i’w cyflawni.”
Cymryd rhan mewn ymchwil ar seicosis ôl-enedigol
Mae NCMH eisiau deall rhagor am achosion a sbardunau salwch meddwl difrifol yn ystod beichiogrwydd ac yn dilyn rhoi genedigaeth.
Rhagor o wybodaeth am yr ymchwil hon, gan gynnwys gwybodaeth am sut i gymryd rhan.