Mae gan Millennials a Gen-Z gyfraddau uwch o bryder am yr hinsawdd
5 Gorffennaf 2023
Mae ymchwil newydd yn awgrymu bod Millennials a Gen-Z yn profi lefelau uwch o ofn, euogrwydd a dicter ynghylch effeithiau newid yn yr hinsawdd o gymharu â grwpiau hŷn, Gen-X, baby boomers a’r rheiny a anwyd ar ôl yr Ail Ryfel Byd.
Casglodd yr ymchwil gan y Ganolfan Newid Hinsawdd a Thrawsffurfio Cymdeithasol (CAST), ym Mhrifysgol Caerdydd a Phrifysgol Caerfaddon, ddata ynghyd ledled y DU i archwilio gwahaniaethau rhwng cenedlaethau o ran agweddau tuag at newid yn yr hinsawdd.
Canfu'r astudiaeth gyntaf o'i math fod grwpiau oedran iau yn poeni mwy am newid yn yr hinsawdd, gan ddangos ymgysylltiad emosiynol cryfach â'r pwnc na grwpiau oedran hŷn. Canfu'r ymchwilwyr hefyd, er gwaethaf y gwahaniaethau sylweddol mewn emosiynau sy'n gysylltiedig â'r hinsawdd rhwng cenedlaethau, bod dealltwriaeth ac effeithiau canfyddedig newid yn yr hinsawdd yn fwy tebyg.
Dywedodd y prif awdur, yr Athro Wouter Poortinga o Brifysgol Caerdydd: “Y gred gyffredinol yw bod cenedlaethau iau yn ymwneud mwy â newid yn yr hinsawdd na chenedlaethau hŷn, ond nid yw hynny erioed wedi cael ei astudio'n systematig.
“Yn ein hastudiaeth, gwelsom batrwm cyffredinol o lefelau uwch o gredoau cysylltiedig â'r hinsawdd, canfyddiadau peryglon ac emosiynau ymhlith grwpiau cenhedlaeth iau.
“Serch hynny, mae'r bwlch rhwng cenedlaethau mewn perthynas â newid yn yr hinsawdd yn bennaf yn eu hymatebion emosiynol i'r newid yn yr hinsawdd, yn hytrach nag mewn credoau am newid yn yr hinsawdd. Er enghraifft, nid oes unrhyw wahaniaethau rhwng cenedlaethau mewn credoau o ran achosion ac effeithiau newid yn yr hinsawdd, er bod grwpiau oedran hŷn yn fwy tebygol o feddwl ein bod eisoes yn teimlo effeithiau'r newid yn yr hinsawdd.”
Dywed y tîm ymchwil y gallai'r gwahanol ymatebion emosiynol i newid yn yr hinsawdd fod yn un o'r rhesymau pam mae cenedlaethau iau yn dangos lefelau uwch o weithredu ac ymgysylltiad â'r mater.
Defnyddiodd yr astudiaeth ddata o arolygon cynrychioliadol cenedlaethol CAST, a gynhaliwyd yn 2020, 2021 a 2022. Mae'r arolygon blynyddol hyn yn rhoi cipolwg ar ganfyddiadau'r cyhoedd o newid yn yr hinsawdd, gan holi tua 1,000 o ymatebwyr o bob cwr o'r DU.
“Er bod ymwybyddiaeth eang o newid yn yr hinsawdd ar draws pob cenhedlaeth, mae cenedlaethau iau yn teimlo llawer mwy o fygythiad ganddo ac yn cael adweithiau emosiynol cryfach. Dydy hynny ddim yn syndod llwyr, o gofio y bydd cenedlaethau iau yn teimlo baich effeithiau'r newid yn yr hinsawdd, yn fwy felly na chenedlaethau hŷn,” meddai'r Athro Poortinga.
Mae'r tîm yn awgrymu y gall emosiynau negyddol effeithio'n drwm ar les y cenedlaethau iau, er y gallan nhw hefyd fod yn sbardun pwysig o ran gweithredu ar y newid yn yr hinsawdd.
“Serch hynny, mae'n rhaid i ni fod yn ofalus rhag rhoi'r cyfrifoldeb ar genedlaethau iau i ddatrys y newid yn yr hinsawdd. Mae gan genedlaethau hŷn gyfrifoldeb i weithredu nawr i liniaru'r newid yn yr hinsawdd ar gyfer cenedlaethau'r dyfodol,” ychwanegodd yr Athro Poortinga.