Trafod ceisio cyfiawnder i gymunedau cefn gwlad mewn casgliad newydd
10 Gorffennaf 2023
Mae profiadau cymunedau cefn gwlad yn aml yn cael eu hanwybyddu ym maes ysgolheictod cyfreithiol, ond mae casgliad newydd o safbwyntiau byd-eang ar geisio cyfiawnder mewn ardaloedd gwledig yn canolbwyntio’n benodol ar y pwnc.
Mae Access to Justice in Rural Communities: Global Perspectives yn brosiect angerddol i Dr Daniel Newman, Darllenydd y Gyfraith yn Ysgol y Gyfraith a Gwleidyddiaeth, sydd wedi ymuno â Dr Faith Gordon o Brifysgol Genedlaethol Awstralia. Magwyd y ddau academydd mewn ardaloedd gwledig ac yn fyfyrwyr ac yn addysgwyr maent wedi bod o’r farn bod diffyg cynrychiolaeth o gyd-destunau a materion gwledig mewn ysgolion y gyfraith ers amser maith.
Mae eu llyfr, a gyhoeddwyd ym mis Mai 2023, yn tynnu sylw at ystod o bwyntiau cymdeithasol, daearyddol a diwylliannol sy'n effeithio ar y ffordd y mae cymunedau gwledig yn profi'r system gyfiawnder ledled y byd. Yn cynnwys penodau ar Awstralia, Canada, Lloegr, Iwerddon, Kenya, Gogledd Iwerddon, De Affrica, Syria, Twrci, UDA a Chymru, mae'r casgliad yn trafod sut mae pobl yn profi sefydliadau cyfiawnder mewn ardaloedd gwledig a sut y gall y profiad gwledig hwn fod yn wahanol i’r profiad trefol.
Wrth siarad am y llyfr, dywedodd Dr Newman, “Mae bwlch o ran cyfiawnder gwledig. Mae gwirioneddau’r natur wledig yn cwmpasu amrywiaeth sy'n aml yn cael ei hanwybyddu mewn delweddau ystrydebol o fywyd y tu allan i drefi a dinasoedd. Mae delfrydau'r ‘gwledig’ yn cuddio'r problemau y gellir eu datgelu wrth archwilio'n agosach. Mae’n hawdd colli realiti byw’r brwydro a’r dioddef mewn fersiynau rhamantaidd dychmygol o fywyd gwledig, oherwydd does dim un profiad gwledig sefydlog. Byddai - a dylai - unrhyw ddealltwriaeth ystyrlon o geisio cyfiawnder gwledig gydnabod amrywiaeth y natur wledig.”
“Mae lleisiau'r rheiny sy'n profi anghyfiawnder mewn ardaloedd gwledig ar goll o astudiaethau prif ffrwd y gyfraith. Mae ein llyfr yn cwmpasu'r niwed y gellir dod o hyd iddo, megis y ffyrdd y mae systemau cyfiawnder yn ymylu’n benodol grwpiau cynhenid neu grwpiau ar sail hil mewn ardaloedd gwledig, prinder cyfreithwyr gwledig yn raddedigion gan eu bod yn teimlo bod rhaid iddyn nhw adael eu cartrefi ac yn aml yn cael eu galw i weithio mewn ardaloedd trefol, a'r diffyg seilwaith i geisio cymorth, neu ei dderbyn, mewn perthynas ag ystod o broblemau y tu allan i drefi a dinasoedd.
Mae Dr Newman yn arwain modiwlau cyfredol Trosedd, y Gyfraith a Chymdeithas a Phroblemau Byd-eang a Theori Gyfreithiol i israddedigion, ac ef yw arweinydd Themâu mewn Astudiaethau Cymdeithasol-Gyfreithiol ar gyfer ôl-raddedigion.
Dysgwch ragor am Access to Justice in Rural Communities ar wefan Bloomsbury Publishing.