Adnabod risg Parkinson trwy watshys clyfar
3 Gorffennaf 2023
Mae ymchwil newydd gan Brifysgol Caerdydd wedi canfod y gallai watshys clyfar helpu i ragfynegi pwy sy'n debygol o ddatblygu clefyd Parkinson, hyd at saith mlynedd cyn diagnosis clinigol.
Wedi'i gyhoeddi yng nghyfnodolyn Nature Medicine, canfu'r tîm o Sefydliad Arloesedd Niwrowyddorau ac Iechyd Meddwl y Brifysgol (NMHII) a Sefydliad Ymchwil Dementia, y gallai technoleg wisgadwy sy'n olrhain cyflymu symudiadau, fod yn hanfodol wrth adnabod unigolion yn y boblogaeth gyffredinol sydd fwyaf tebygol o ddatblygu clefyd Parkinson.
Er bod clefyd Parkinson yn cael ei gydnabod i raddau helaeth am ei symptomau echddygol, fel cryndod ac arafwch symudiadau, gall newidiadau nad ydynt yn echddygol yng nghyfnod cynharach y clefyd o'r enw cam rhagarwyddol, ragddyddio dyfodiad y symptomau hyn o flynyddoedd lawer.
Dywedodd Dr Kathryn Peall, Uwch-ddarlithydd Clinigol yn NMHII: “Mae clefyd Parkinson yn anhwylder symud cynyddol sy'n cael ei achosi gan golli celloedd yr ymennydd sy'n defnyddio dopamin. Serch hynny, erbyn cael diagnosis clinigol bydd tua 50-70% o'r celloedd ymennydd hyn wedi'u colli. Mae hyn yn gwneud diagnosis cynnar o'r clefyd yn anodd.
Gan ddefnyddio data gan dros 500,000 o unigolion 40-69 oed drwy fanc bio'r DU a oedd yn dyddio'n ôl i 2006, cymharodd yr ymchwilwyr ddata mesureg gyflymu â modelau seiliedig ar eneteg, ffordd o fyw, biocemeg gwaed a data symptomau rhagarwyddol.
Canfuwyd bod rhaglenni cyfrifiadurol a hyfforddwyd gan ddefnyddio'r data mesureg gyflymu yn gallu gwahaniaethu rhwng cleifion â chlefyd Parkinson a ddiagnoswyd yn glinigol a chlefyd Parkinson rhagarwyddol o'r boblogaeth gyffredinol. Dim yr un math arall o ddata yn eu hymchwil a berfformiodd yn well na mesureg gyflymu.
Dywedodd Dr Cynthia Sandor, Sefydliad Ymchwil Dementia Prifysgol Caerdydd: “Hyd y gwyddom, dyma'r arddangosiad cyntaf o werth clinigol biofarcwyr sy'n seiliedig ar fesureg gyflymu ar gyfer clefyd Parkinson rhagarwyddol yn y boblogaeth gyffredinol. Dangosodd ein canlyniadau fod gostyngiad cyn-diagnosis mewn cyflymu yn unigryw i glefyd Parkinson ac ni welwyd hyn mewn unrhyw anhwylder arall a archwilion ni.
“Mae'n awgrymu y gellid defnyddio mesureg gyflymu i nodi'r rhai sydd mewn perygl uwch o glefyd Parkinson ar raddfa na welwyd mo’i thebyg o'r blaen.
“Mewn lleoliad clinigol, ni ellir monitro unigolion yn barhaus neu'n lled-barhaus oherwydd amser, cost, hygyrchedd a sensitifrwydd.
“Ond mae miliynau o bobl yn gwisgo dyfeisiau clyfar sy'n gallu casglu data cyflymu bob dydd.
“Er y bydd angen gwneud llawer mwy o waith cyn rhoi hyn ar waith clinigol, mae ein darganfyddiad yn nodi cam sylweddol ymlaen o ran rhoi diagnosis cynnar o glefyd Parkinson, ac yn awgrymu y gallai dyfeisiau fel olrheinwyr gweithgarwch a watshys clyfar chwarae rhan allweddol mewn monitro clinigol.”
Mae'r papur 'Wearable movement-tracking data identify Parkinson’s disease years before clinical diagnosis' fe'i cyhoeddwyd yn Nature Medicine.
Cefnogwyd yr astudiaeth hon gan Sefydliad Ymchwil Dementia y DU, a ariannwyd gan y Cyngor Ymchwil Feddygol, Cymdeithas Alzheimer ac Ymchwil Alzheimer y DU a gan raglen Ser Cymru II sy'n cael ei hariannu'n rhannol gan Brifysgol Caerdydd a Chronfa Datblygu Rhanbarthol Ewrop drwy Lywodraeth Cymru. Cafwyd cyllid hefyd gan Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru.