GIRO-ZERO yn sicrhau cyllid newydd i lywio pontio i Sero Net
29 Mehefin 2023
![](https://cardiff.imgix.net/__data/assets/image/0008/2729078/GIRO-ZERO-news.png?w=570&h=321&fit=crop&q=60&auto=format)
Bydd cyllid newydd yn caniatáu i'r prosiect GIRO-ZERO ehangu ei gyrhaeddiad a'i effaith, gan ddod â diwydiant cludo nwyddau ffyrdd Colombia gam yn nes at ddyfodol mwy cynaliadwy.
Mae GIRO-ZERO yn cynnwys arbenigwyr o Brifysgol Caerdydd ac Universidad de Los Andes yn hwyluso mabwysiadu technolegau cerbydau carbon isel a di-garbon gyda'r nod o leihau ôl troed carbon sector cludo nwyddau ffyrdd Colombia.
Gan ddefnyddio arbenigedd mewn logisteg, trafnidiaeth, gwyddorau rheoli, dadansoddi data, ac economeg, bydd y tîm yn asesu hyfywedd technolegau amgen a glanach gan gynnwys cerbydau trydan yn bennaf, a hydrogen. Bydd ymchwilwyr hefyd yn canolbwyntio ar wella gwaith cynllunio a gweithredu teithiau a gynhelir gan gwmnïau tryciau yng Ngholombia trwy ddefnyddio offer cynllunio deinamig.
Bydd y cyllid ymchwil dilynol yn caniatáu i'r prosiect gyflawni ei gynlluniau uchelgeisiol sy'n cynnwys:
- sefydlu canolfan ragoriaeth a fydd yn anelu at arwain ymchwil ar gludo nwyddau ar y ffyrdd yn gynaliadwy ar draws America Ladin
- cynnal gweithdai a hyfforddiant cenedlaethol a rhyngwladol
- cynnal astudiaethau peilot
- cyhoeddi adroddiadau polisi, technegol a diwydiant
Meddai'r Athro Emrah Demir, Prif Ymchwilydd y prosiect ym Mhrifysgol Caerdydd ac Athro Ymchwil Weithredol:
"Rwy'n falch o fod yn rhan o brosiect GIRO-ZERO, sy'n cymryd camau sylweddol tuag at ddyfodol Sero Net ar gyfer sector cludo nwyddau ffyrdd Colombia. Trwy ein hymchwil a'n cydweithrediad â rhanddeiliaid allweddol, rydym yn gweithio tuag at strategaeth dim allyriadau sydd nid yn unig o fudd i'r amgylchedd ond hefyd i'r economi a'r gymdeithas gyfan. Bydd y rownd ariannu newydd hon yn ein galluogi i barhau â'n hymdrechion a dod â ni gam yn nes at gyflawni ein nod."
Nododd yr Athro Vasco Sanchez Rodrigues, Prif Arbenigwr GIRO-ZERO:
"Mae GIRO-ZERO yn mynd o nerth i nerth. Bydd y cyllid newydd hwn yn galluogi'r prosiect i ehangu ei allgymorth a chynyddu ei effaith, sy'n cyfrannu'n uniongyrchol at strategaeth gwerth cyhoeddus Ysgol Busnes Caerdydd. Mae'r drydedd flwyddyn yn y prosiect yn hanfodol ar gyfer cynaliadwyedd hirdymor GIRO-ZERO. Ein nod uchelgeisiol yw gweithio ochr yn ochr â'n partner Universidad de los Andes i sefydlu canolfan ragoriaeth i wneud allbynnau'r prosiect yn gynaliadwy yn y tymor hir."
Dywedodd Dr Wessam Abouarghoub, Prif Arbenigwr GIRO-ZERO ac arweinydd blwch offer GIRO-ZERO:
"Rwy'n falch iawn o fod yn rhan o brosiect mor llwyddiannus sy'n dod yn safon menter werdd ar gyfer sector cludo nwyddau ffyrdd Colombia, gan ymdrechu am ragoriaeth trwy arwain y diwydiant i wneud newidiadau gwirioneddol a chadarnhaol. Wrth wraidd y llwyddiant hwn mae'r blwch offer GIRO-ZERO, sy'n cael ei gydnabod gan fuddiolwyr a rhanddeiliaid fel yr offeryn amgylcheddol mawr ei angen ar gyfer gwneud penderfyniadau gwell strategol. Er enghraifft, erbyn diwedd yr ail flwyddyn, lansiwyd y mynegai cludo nwyddau ffyrdd amgylcheddol (ERFTI), offeryn ar gyfer adrodd, meincnodi, a gwella perfformiad amgylcheddol y gall pob sefydliad, o gorfforaethau mawr i gwmnïau bach ei ddefnyddio."
Meddai'r Athro Gordon Wilmsmeier, Arweinydd Prosiect a Phrif Arbenigwr o Universidad de Los Andes:
"Mae GIRO-ZERO wedi gallu tyfu ei rwydwaith ac mae'r gefnogaeth a'r cydweithio gan y buddiolwyr a'r partneriaid rhwydwaith wedi bod yn eithriadol. Mae'r map ffordd ar y cyd â'r offer GIRO-ZERO wedi cael derbyniad da. Mae'r posibilrwydd o allu gwneud penderfyniadau gyda mwy o wybodaeth yn rhoi cyfle i lunio dyfodol y sector cludo nwyddau ffyrdd yng Ngholombia. Yng ngham nesaf y prosiect, byddwn yn gweithio tuag at ddangos effeithiolrwydd a manteision gweithio ar y cyd tuag at gyrraedd y targedau lleihau allyriadau penodol."
Mae ymchwilwyr sy'n rhan o'r prosiect GIRO-ZERO yn cynnwys: Yr Athro Emrah Demir, yr Athro Vasco Sanchez Rodrigues, a Dr. Wessam Abouarghoub o Brifysgol Caerdydd, a'r Athro Gordon Wilmsmeier, yr Athro Juan Pablo Bocarejo Suescun, a Dr. Carlos Eduardo Hernández Castillo o Universidad de Andes.