System Cymhwysedd ‘Lean’ yn dathlu degawd o fusnes
28 Mehefin 2023
Mae busnes a sefydlwyd ar sail ymchwil Prifysgol Caerdydd sy'n cynnig cymwysterau 'Lean' ar gyfer sefydliadau byd-eang, unigolion ac ymgynghorwyr yn dathlu degawd o fusnes.
Mae 'Lean' yn dechneg rheoli sefydliadol sy'n ceisio gwella cyflawniad busnes trwy welliant parhaus, gan gynyddu gwerth cwsmeriaid trwy leihau gwastraff.
Wedi'i datblygu yn Ysgol Busnes Caerdydd, mae'r System Cymhwysedd ‘Lean’ - neu’r LCS - yn cynnig achrediad i raglenni hyfforddi ‘Lean’, gan eu galluogi i roi cymwysterau ‘Lean’ i'r rhai y maen nhw’n eu hyfforddi. Mae rhai o frandiau mwyaf y byd wedi'u hachredu gan yr LCS, gan ardystio miloedd o aelodau o staff ledled y byd.
Sefydlodd Simon Elias y cwmni gweithredu - Lean Competency Services Ltd - ddegawd yn ôl ar ôl datblygu'r cysyniad pan roedd yn gyfarwyddwr Canolfan Ymchwil Menter ‘Lean’ Ysgol Busnes Caerdydd.
"Mae'r LCS yn cynrychioli menter Prifysgol Caerdydd hynod lwyddiannus," dywedodd Mr Elias. "Rydyn ni wedi bod yn allweddol wrth hyrwyddo brand Prifysgol Caerdydd ledled y byd wrth dyfu'r busnes bob blwyddyn, gan ehangu ein sefydliadau sydd wedi'u hachredu'n uniongyrchol o ddim ond dyrnaid yn 2014 i fwy na 150 heddiw, a chyhoeddi cannoedd o filoedd o dystysgrifau ledled y byd."
I gydnabod ei llwyddiant a'i photensial ar gyfer twf parhaus, mae Prifysgol Caerdydd wedi ymestyn cytundeb trwydded yr LCS am ddeng mlynedd arall.
Dywedodd Paul Devlin, Pennaeth Masnacheiddio ac Effaith Ymchwil: "Mae'r LCS wedi bod yn hynod lwyddiannus o ran gwerthu Caerdydd i’r byd. Mae ei fodel o achredu, hyfforddiant ac ardystio parhaus wedi helpu i greu mwy na £1 miliwn mewn trosiant ers ei sefydlu, gan greu tri gweithiwr uniongyrchol a staff cymorth, ac rydyn ni’n falch iawn o ailddatgan ein hymrwymiad i 10 mlynedd arall o fusnes gyda'r cwmni."
Ychwanegodd Mr Elias: "Erbyn hyn mae gennyn ni filoedd o aelodau sy’n ymarferwyr a mwy na 500 o sefydliadau yn defnyddio'r LCS yn fyd-eang, o unig fasnachwyr i sefydliadau mawr. Mae model yr LCS yn parhau i ddiwallu angen busnes go iawn wrth helpu sefydliadau i ymgysylltu â'u staff i wella a datblygu'r galluoedd personol sydd eu hangen i greu diwylliant cynaliadwy o welliant, a’i wreiddio. "
Yn ogystal ag achrediad, mae'r LCS yn hwyluso cymuned o ymarferwyr, trwy ei gynnig Aelodaeth i Ymarferwyr, ac yn hyrwyddo twf gallu personol trwy blatfform Datblygu Proffesiynol Parhaus unigryw.
Mae Ysgol Busnes Caerdydd yn parhau i arwain y ffordd i sefydliadau geisio ymchwil ac addysgu ‘Lean’ a rhagorol wrth weithredu, p’un ai wrth ddilyn Partneriaethau Trosglwyddo Gwybodaeth Rheoli neu drwy ein hystod o gynigion Addysg Weithredol yn y maes hwn.
Dywedodd yr Athro Sarah Lethbridge, Deon Ymgysylltu Allanol, Ysgol Busnes Caerdydd: "Mae gwaddol ‘Lean Thinking’ yn Ysgol Busnes Caerdydd yn enfawr. Rydyn ni mor falch bod yr LCS yn parhau i fynd o nerth i nerth, gan ymestyn ei chyrhaeddiad a'i heffaith ledled y byd."
Mae'r LCS wedi cael ei mabwysiadu gan sefydliadau rhyngwladol mawr mewn sawl sector, gan gynnwys Barclays, BBC, KPMG, HSBC, Lloyds Bank, The Phoenix Group, Guidewell, National Australia Bank, Boeing a PWC.