Caerdydd ac Illinois yn arwyddo Partneriaeth Strategol
26 Mehefin 2023
Mae Prifysgol Caerdydd wedi arwyddo partneriaeth strategol â Phrifysgol Illinois System (UI).
Bydd y cytundeb pum mlynedd yn sail i raglen waith fydd yn datblygu’r broses o gyfnewid myfyrwyr rhwng prifysgol fwyaf ymchwil-ddwys Cymru ac UI, sef un o'r prif sefydliadau yn yr Unol Daleithiau.
Bydd UI yn ymddangos yn gyson yn nhablau cynghrair prifysgolion gorau'r byd. Roedd campws Urbana Champaign wedi cyrraedd y 85ain safle yn QS 2023, a’r 48ain safle yn Times Higher Education 2023.
Mae'r sefydliadau wedi meithrin cysylltiadau agos â Discovery Partners Institute (DPI), sef sefydliad ymchwil ryngddisgyblaethol preifat-gyhoeddus UI sydd wrth galon Rhwydwaith Arloesi Illinois (Illinois Innovation Network) yng nghanol Dinas Chicago. Yn 2018, Prifysgol Caerdydd oedd Partner Rhyngwladol cyntaf y DPI a hi yw unig aelod academaidd y DU sy’n aelod o’r Sefydliad.
Wrth arwyddo'r bartneriaeth, dywedodd Llywydd UI, yr Athro Tim Killeen, sy'n hanu o Gaerdydd yn wreiddiol: “Rwy'n falch iawn o allu arwyddo'r cytundeb hwn yn fy ninas enedigol. Pan gefais i fy magu yn y Rhath, roedd addysg yn hollbwysig wrth greu cyfleoedd a newidiodd llu o fywydau. Nod y bartneriaeth â Phrifysgol Caerdydd yw creu cyfleoedd tebyg sy'n diffinio gyrfaoedd ac yn gallu trawsnewid bywydau. Bydd yn caniatáu i fyfyrwyr, ymchwilwyr a staff yn y ddau sefydliad gydweithio'n agos ar draws meysydd arbenigedd ar y cyd: boed yn beirianneg a'r gwyddorau ffisegol neu’n ofal iechyd, newyddiaduraeth a gwyddorau’r amgylchedd.”
Nod y bartneriaeth strategol yw cryfhau ymchwil ar y cyd mewn meysydd allweddol: systemau ynni ac allyriadau Sero Net, seiberddiogelwch, gwyddorau data a deallusrwydd artiffisial, ymchwil ar ganser, geowyddorau, entrepreneuriaeth ac arloesi, ymchwil dŵr ac ymchwil ar y paith yn ogystal â newyddiaduraeth.
Dyma a ddywedodd yr Athro Colin Riordan, Llywydd ac Is-ganghellor Prifysgol Caerdydd: “Mae'r bartneriaeth wrth wraidd ein uchelgais i arwain y byd yn y meysydd hyn, gan fynd i'r afael â materion o bwys byd-eang sydd wedi'u nodi yn Nodau Datblygu Cynaliadwy'r Cenhedloedd Unedig. Mae'r cydweithio’n rhoi cyfleoedd gwych i wneud cais am gyllid rhyngwladol ar y cyd drwy bartneriaeth Ymchwil ac Arloesi’r DU â'r Sefydliad Gwyddoniaeth Cenedlaethol (NSF) a gwaith Labordy Gwyddoniaeth a Thechnoleg Amddiffyn y DU ag Adran Amddiffyn yr Unol Daleithiau.”
Dyma a ychwanegodd yr Athro Rudolf Allemann, Rhag Is-Ganghellor, Recriwtio Myfyrwyr Rhyngwladol a Myfyrwyr y DU a Phennaeth Coleg y Gwyddorau Ffisegol a Pheirianneg: “Mae creu partneriaeth â Phrifysgol Illinois yn creu cyfleoedd gwych i bob myfyriwr ac ymchwilydd gymryd rhan mewn profiadau rhyngwladol sy’n cael effaith. Mae'n cefnogi ein hymrwymiad i 'gyfleoedd byd-eang' i'n myfyrwyr, gan eu galluogi i astudio mewn lleoliad rhyngwladol neu gael profiad rhyngwladol yn ystod eu hastudiaethau. Bydd cydweithio â Phrifysgol Illinois yn ein galluogi i ehangu cyrhaeddiad ein hymchwil, yn enwedig drwy gyfrwng ein Campws Arloesi.”
Ym Mhrifysgol Illinois mae 94,000 o fyfyrwyr ar dri champws: Chicago, Springfield ac Urbana Champaign. Prifysgol Illinois yw darparwr mwyaf system addysg uwch y dalaith, ac mae gan Brifysgol Illinois ei hysbyty, ei chlinigau, ei maes awyr, ei chyfleusterau ymchwil a’i swyddfeydd estyn ei hun.
Mae gwaith Caerdydd gyda’r DPI eisoes wedi arwain at dri chais i Sefydliad Gwyddoniaeth Cenedlaethol (NSI) UDA a grant sbarduno llwyddiannus gan DPI am y “Llwybr at Sero Net” yn achos cerbydau trydan yn ardal Chicago.
Y mis diwethaf, agorodd y gwyddonydd ar yr hinsawdd a chyd-dderbynnydd Gwobr Heddwch Nobel 2007, yr Athro Donald J Wuebbles, Urbana Champaign, Ganolfan Ymchwil Drosi Prifysgol Caerdydd, a hi sydd wrth wraidd ein huchelgais ar gyfer prosiectau cydweithio ar Sero Net yng Nghymru.