Cymru a Seland Newydd yn rhannu gwersi amgylcheddol
22 Mehefin 2023
Mae Prifysgol Caerdydd a Prifysgol Waikato yn ymchwilio i’r ffyrdd y gallai Cymru a Seland Newydd ddysgu oddi wrth ddulliau ei gilydd o reoli'r amgylchedd, amaethyddiaeth a pheryglon naturiol.
Yn rhan o Bartneriaeth Caerdydd – Waikato, mae’r Athro Gareth Enticott (Ysgol Daearyddiaeth a Chynllunio, Prifysgol Caerdydd) a’r Athro Iain White (Prifysgol Waikato) yn dadansoddi sut mae’r ddwy wlad yn rhannu heriau amgylcheddol cyffredin a sut y gallan nhw gyfnewid polisïau ac arferion.
Bydd rhan gyntaf y prosiect yn cynnwys ystyried faint o rannu gwybodaeth sy’n digwydd ar hyn o bryd rhwng Cymru a Seland Newydd ymhlith pobl sy’n gweithio ym maes polisïau ac arferion amgylcheddol – pobl sy’n gweithio mewn sefydliadau llywodraethol, cyrff anllywodraethol amgylcheddol a’r sector amaethyddol, a hynny er mwyn cysylltu pobl sy’n gweithio mewn meysydd tebyg â’i gilydd a rhannu syniadau.
Dyma’r hyn a ddywedodd yr Athro Enticott: “Yn hanesyddol, bu cysylltiadau pwysig rhwng y ddwy wlad, gan i Gymru helpu yn y broses o ddatblygu systemau amaethyddol Seland Newydd.
“Heddiw, rydyn ni’n rhannu heriau tebyg iawn mewn perthynas ag ystod o faterion amgylcheddol dybryd, gan gynnwys newidiadau yn yr hinsawdd, ac mae hyn yn golygu bod Cymru wedi bod yn edrych ar dulliau Seland Newydd o fynd i’r afael ag atebion posibl. Gobeithiwn y bydd y prosiect hwn yn helpu llunwyr polisïau i wneud rhagor o gymariaethau yn ogystal ag ystyried sut y gallwn ni wella ein ffyrdd o weithio i fynd i’r afael â’r heriau amgylcheddol cyffredin.”
Ychwanegodd yr Athro Iain White: “Dylai rhannu gwybodaeth fod yn rhwydd mewn oes pan fydd cysylltu’n rhithwir yn digwydd yn aml iawn, ond mae llunwyr polisïau yn brin o amser, yn ansicr ynghylch sut i ddysgu o brofiad pobl eraill yn eu maes, ac mae’r gwahaniaeth o ran y parthau amser, os nad y pellter, yn ein gormesu o hyd. Bydd y prosiect hwn hefyd yn ystyried sut yr hoffai llunwyr polisïau rannu gwybodaeth.”
Gofynnir i unrhyw un sy’n gysylltiedig â llunio polisïau ar yr amgylchedd, y defnydd o dir, amaethyddiaeth a rheoli adnoddau naturiol lenwi arolwg ar-lein – i bobl sy’n gweithio yng Nghymru mae ar gael yn Gymraeg ac yn Saesneg ac arolwg ar wahân i bobl sy’n gweithio yn Seland Newydd.
I weld sut mae polisïau ac arferion eisoes wedi cael eu rhannu rhwng y ddwy wlad, mae’r tîm ymchwil hefyd yn awyddus i siarad â phobl sydd wedi gweithio yn y ddwy wlad. Caiff unrhyw un sydd â phrofiadau i'w rhannu gysylltu â'r ymchwilwyr yn uniongyrchol drwy ebost: Yr Athro Enticott: enticottg@caerdydd.ac.uk a’r Athro White: iain.white@waikato.ac.nz