Caerdydd i gynnal digwyddiad seryddiaeth blaenllaw yn y DU
19 Mehefin 2023
Bydd NAM2023 yn datgelu'r canfyddiadau seryddiaeth diweddaraf yng nghanol rhaglen o ddigwyddiadau celf ac addysg.
Rhwng 3 a 7 Gorffennaf, bydd cymuned seryddiaeth y DU yn ymgynnull yng Nghaerdydd ar gyfer digwyddiad gofod y flwyddyn.
Mae digwyddiad blynyddol y Gymdeithas Seryddol Frenhinol, NAM (Cyfarfod Seryddiaeth Cenedlaethol) yn arddangos ymchwil seryddiaeth y DU yn ogystal â chyfres o weithgareddau ymgysylltu ar gyfer y cyhoedd a phlant ysgol i ddysgu am wyddoniaeth y gofod.
Cynhelir NAM2023 gan Ganolfan Ymchwil Astroffisegol a Thechnoleg Caerdydd yr Ysgol Ffiseg a Seryddiaeth a Sefydliad Archwilio Disgyrchiant, a bydd yn cynnwys nifer o sgyrsiau sesiwn allweddol a chystadleuaeth artistiaid lleol ar thema tarddiad eleni.
Bydd seryddwyr Prifysgol Caerdydd yn rhannu eu hymchwil fel rhan o'r gynhadledd, yn amrywio o adolygiad o ddadansoddi a dehongli parhaus arsylwadau Arsyllfa Gofod Herschel (2009-2013) - yr arsyllfa ofod is-goch ac isfilimetr fawr ei hagorfa gyntaf - i'r canfyddiadau diweddaraf o dechnoleg gyfredol, gan gynnwys ALMA (Atacama Large Millimeter/Submillimeter Array), y telesgop mwyaf pwerus ar gyfer arsylwi ar y Bydysawd oer.
Bydd canfyddiadau tonnau disgyrchiant diweddar gan y LIGO (Laser Interferometer Gravitational -Wave Observatory), synwyryddion Virgo a KAGRA yn cael eu datgelu yn ogystal â golwg ar ei dechnegau posibl yn y dyfodol er mwyn canfod cyfnodau pontio tonnau disgyrchiant amser real.
Mae gweithgareddau ymgysylltu â'r cyhoedd yn cynnwys Stondin Astro Dros Dro gyda helfa sborion Space Quest yng nghanolfan siopa Dewi Sant ddydd Sadwrn 24 Mehefin, cyfres o nosweithiau tafarn Seryddiaeth ar Dap, a chystadleuaeth AstroART ORIGINS, lle gwahoddir y cyhoedd i bleidleisio dros eu hoff waith celf a ysbrydolwyd gan themâu'r gofod a tharddiad.
Bydd NAM2023 yn dod i ben ar 6 Gorffennaf gyda Dathliad Gofod gyda’r hwyr yng Nghanolfan Bywyd y Myfyrwyr (CSL) y Brifysgol. Digwyddiad rhad ac am ddim, i'r teulu, mae'r Dathliad Gofod yn cynnwys amrywiaeth o weithgareddau adrodd straeon, arddangosion celf, dangosiadau sinema 3D a digwyddiad panel dan arweiniad yr Athro Chris Lintott, cyflwynydd rhaglen Sky at Night y BBC, am sut mae gofod a seryddiaeth o fudd i gymdeithas.
Yn ogystal â seryddwyr, mae NAM2023 yn cynnwys cymunedau Ffiseg Solar y DU (UKSP) ac Ïonosffer Magnetosffer a Daearol Solar (MIST).
Am fwy o wybodaeth, ewch i wefan NAM2023,dilynwch @CardiffPHYSX @NAM2023_Cardiff ac @AoT_Cardiff #NAM2023.