Cyhoeddi Bardd Plant Cymru a’r Children’s Laureate Wales nesaf
19 Mehefin 2023
Y gynfyfyrwraig Nia Morais fydd Bardd Plant Cymraeg nesaf Cymru, ochr yn ochr a’r Children’s Laureate Wales nesaf, Alex Wharton.
Cyhoeddwyd swyddi newydd y beirdd yng Ngŵyl y Gelli ac Eisteddfod yr Urdd yn gynharach y mis hwn gan Lenyddiaeth Cymru.
Nod pob rôl llysgenhadol genedlaethol yw ysbrydoli a grymuso plant a phobl ifanc ledled Cymru drwy lenyddiaeth.
Mae’r teitl yn cael ei ddyfarnu bob dwy flynedd i awdur dawnus a gweledigaethol o Gymru sy’n frwd dros sicrhau bod mwy o blant a phobl ifanc yn darganfod y llawenydd a’r manteision sydd ar gael wrth ymgysylltu â llenyddiaeth.
Mae Nia Morais (Ysgrifennu Creadigol, MA 2020) yn Gymraes gyda cysylltiad teuluol â Cabo Verde ac mae hi’n awdur a dramodydd sy’n ysgrifennu ar gyfer plant ac oedolion, ac mae ei gwaith yn aml yn canolbwyntio ar hunanddelwedd, iechyd meddwl a hud a lledrith.
Ar hyn o bryd mae hi’n awdur preswyl yn Theatr y Sherman ac mae ei drama lawn gyntaf Imrie, a gyd gynhyrchwyd gan Theatr y Frân Wen a Theatr y Sherman, yn ar daith dros Gymru yn haf 2023.
Dywedodd Nia, sy’n hanu o Gaerdydd: “Dw i mor falch o fod yn Fardd Plant Cymru a dwi methu aros i ddechrau. Rwy’n teimlo’n gyffrous iawn i ddychwelyd i fyd barddoniaeth ar ôl peth amser i ffwrdd, ac yn ddiolchgar i allu rhannu fy amser gyda phobl ifanc Cymru. Rwyf wrth fy modd yn gweithio gyda phobl ifanc - mae'n rhoi boddhad mawr i fi ac rwy'n cael llawer o ysbrydoliaeth wrth weld beth sydd o ddiddordeb iddynt. Rwyf wrth fy modd yn ysgrifennu barddoniaeth ac yn gobeithio gallu creu gwaith gwych gyda phobl ifanc Cymru.”
Mae Alex Wharton yn awdur a pherfformiwr barddoniaeth arobryn i blant ac oedolion. Cyrhaeddodd ei lyfr cyntaf o farddoniaeth i blant, Daydreams and Jellybeans, restr fer nifer o wobrau, ac mae ganddo ddau lyfr arall ar y gweill gyda Firefly Press.
Dywedodd Cyfarwyddwr Gweithredol Llenyddiaeth Cymru, Claire Furlong: “Gall cael eich cyflwyno i ysgrifennu creadigol a darllen yn gynnar mewn bywyd feithrin angerdd gydol oes am lenyddiaeth. Mae prosiectau Bardd Plant Cymru a’r Children’s Laureate Wales yn cyflwyno plant a phobl ifanc i awduron cyffrous, talentog ac ysbrydoledig sydd wedi cyrraedd y brig.
“Mae gan Alex a Nia weledigaeth glir ar gyfer eu cyfnod, ac edrychwn ymlaen at eu gweld yn rhoi eu stamp eu hunain ar y rolau hyn. Nid yn unig maen nhw’n fodelau rôl gwych, maen nhw hefyd yn rhoi’r arfau i blant fynegi eu hunain yn greadigol ac ymgolli yn y llawenydd y gall geiriau ei gynnig.”