Llyfr newydd yn archwilio cerddoriaeth y teulu Strauss
19 Mehefin 2023
Bydd llyfr newydd gan yr Athro Emeritws David Wyn Jones yn cael ei gyhoeddi gan Wasg Prifysgol Caergrawnt ym mis Mehefin 2023: The Strauss Dynasty and Habsburg Vienna.
Mae cerddoriaeth teulu Strauss - Johann a'i dri mab, Johann, Josef ac Eduard - yn boblogaidd tu hwnt. Ac eto, mae bywgraffiadau presennol wedi methu â gwneud cyfiawnder â'u presenoldeb mewn hanes cerddorol. O ganol y 1820au i'r Rhyfel Byd Cyntaf roedd cerddoriaeth y teulu yn bresenoldeb cyson yng nghymdeithas Fiennaidd, wrth iddi symud rhwng neuadd ddawns, neuadd gyngerdd a theatr.
Yn cael ei hedmygu'n eang gan gyfansoddwyr o Berlioz i Wagner, Brahms i Schoenberg, roedd y gerddoriaeth yn croniclo agweddau a phryderon cymdeithas ehangach, diwylliannol, cerddorol a gwleidyddol. Mae'r bywgraffiad cyfunol hwn yn ceisio adennill y presenoldeb ehangach hwn.
Ysgrifenna David Wyn Jones: "Rwyf bob amser wedi hoffi cerddoriaeth teulu Strauss ac yn teimlo bod ei bresenoldeb hanesyddol yn cael ei danbrisio, yn rhannol oherwydd y rhaniad anffodus, a chamarweiniol sylfaenol, rhwng cerddoriaeth ddifrifol a cherddoriaeth ysgafn.
"Mae'r Emperor Waltz yn parhau i fod yn un o'r gweithiau mwyaf poblogaidd gan Johann Strauss ifanc. Yn ystod fy ymchwil roeddwn yn arbennig o falch o ddarganfod paentiad dyfrlliw yn dyddio o ddiwedd y bedwaredd ganrif ar bymtheg o'r enw 'Kaiser-Walzer'. Mae'n dangos yr Ymerawdwr Franz Joseph, yn eistedd mewn dawns gymdeithas ac yn dyst i'r dawnsio i gerddoriaeth Johann Strauss. Mae wedi'i atgynhyrchu ar glawr y llyfr."