Ewch i’r prif gynnwys

Myfyrwyr yn 'Cwrdd â'u Mentor' gyda Sotic

14 Mehefin 2023

grŵp o fyfyrwyr a staff yn edrych ar y camera wrth iddynt sefyll ar risiau coch yn adeilad sbarc|spark ym Mhrifysgol Caerdydd
Myfyrwyr a mentoriaid Sotig ar y grisiau yn sbarc|spark

Cafodd myfyrwyr Prifysgol Caerdydd flas ar fyd gwaith yn ystod sesiwn ‘Cwrdd â’ch Mentor’ gyda’r asiantaeth ddigidol chwaraeon Sotic.

Roedd yr ôl-raddedigion, a oedd yn astudio ar gyfer MSc mewn Cyfrifiadura, yn medru manteisio ar arbenigedd y cwmni wrth ddylunio a datblygu datrysiadau digidol pwrpasol ar gyfer chwaraeon elitaidd.

Wedi’u dwyn ynghyd gan Raglen Mentora Gyrfa Dyfodol Myfyrwyr Prifysgol Caerdydd, parwyd y myfyrwyr â gweithiwr proffesiynol o Sotic a chawsant fudd o sesiynau mentora ar-lein wedi’u teilwra i’w cefnogi i gyflawni eu nodau gyrfa.

Cafodd y grŵp gyfle i gwrdd â'u mentoriaid yn bersonol a chymryd rhan mewn ffug gyfweliadau yn swyddfa Sotic yn sbarc| spark i nodi diwedd eu profiad mentora.

Dywedodd Tsang An Lee, un o’r myfyrwyr: “Roedd y broses mentora wedi rhagori ar fy nisgwyliadau. Roeddwn yn disgwyl i’m mentor gynnig rhywfaint o wybodaeth gyffredinol i mi, neu bethau y gallwn i fod wedi chwilio amdanynt fy hun ar-lein, ond yn lle hynny cefais beth wybodaeth ddefnyddiol iawn a’m helpodd i ddeall y diwydiant.

Rwy’n meddwl bod mentora yn bwysig iawn oherwydd ni ellir rhannu profiad mentor ar-lein, mae’n rhaid i chi siarad â phobl i ddeall sut y maent wedi cronni gwybodaeth a phrofiad yn y diwydiant.”

Diolch i Arloesedd Caerdydd, mae sbarc|spark bellach yn ymfalchïo mewn amrywiaeth o gwmnïau partner. Roedd staff Sotic yn hapus i roi amser ac adnoddau i helpu myfyrwyr i ddatblygu eu cyflogadwyedd, gan gynnig gwybodaeth, cyngor a mewnwelediadau gwerthfawr i feithrin hyder mewn dewisiadau gyrfa.

Dywedodd Alice Burke, Swyddog Cymorth Busnes: “Mae wedi bod yn wych gweld sut mae Sotic wedi ymgysylltu â’r Brifysgol ers dod yn denant i Arloesedd Caerdydd. Mae cymryd rhan yn y rhaglen Mentora Gyrfa wedi bod yn brofiad anhygoel i bawb ac roedd yn wych medru cynnal eu sesiwn ‘cwrdd â’ch mentor’ yma yn sbarc|spark.”

A hwythau’n arweinwyr y diwydiant, mae Sotic wedi partneru rhai o frandiau mwyaf y byd, gan gefnogi mwy na 100 o ffederasiynau Olympaidd, cyrff llywodraethu cenedlaethol a chlybiau 22 o wahanol chwaraeon.

Dywedodd Sam Chamberlen, Pennaeth Pobl Sotic: ''Roeddem am gyfrannu at amgylchedd sbarc|spark ac roeddwn yn teimlo y gallai fod yn werth chweil i'n staff ein hunain adlewyrchu ar sefyllfa eu gyrfaoedd eu hunain a rhoi rhywfaint o hyder iddynt. Roeddwn i’n teimlo ei fod o fudd cyffredinol i bawb, ac rydw i’n hoff o’r posibilrwydd y byddai Sotic yn ymrwymo’n fwy â’r brifysgol.”

Mae sesiynau Mentora Gyrfa Prifysgol Caerdydd yn cael eu cynnal rhwng Ionawr ac Ebrill bob blwyddyn academaidd gyda chefnogaeth ac arweiniad llawn ar gael gan dîm Profiad Gwaith Dyfodol Myfyrwyr trwy gydol y rhaglen.

Dywedodd Linda Smith, Swyddog Prosiect Profiad Gwaith: “Mae gweithio ar y cyd â Sotic a thîm Arloesedd Caerdydd i hwyluso’r cyfarfod mentoriaid personol ar ddiwedd y Rhaglen Mentora Gyrfa wedi bod yn brofiad gwych.

“Rwy’n ddiolchgar i aelodau tîm Sotic a wirfoddolodd eu hamser, eu gwybodaeth a’u harbenigedd i fentora tri myfyriwr eleni. Mae clywed myfyrwyr yn siarad am effaith y rhaglen a’r cyfleoedd dilynol y mae wedi’u darparu iddynt wedi pwysleisio natur rymusol mentora.”

Mae mentora yn manteisio sefydliadau hefyd. Mae Dilwyn Reynolds, CTO yn Sotic a oedd yn fentor i un o'r myfyrwyr, yn ysgogi sefydliadau eraill i gymryd rhan.

“Rwy’n meddwl fy mod i wedi dal barn negyddol am raddedigion a myfyrwyr o ystyried y gwaith rydyn ni’n ei wneud, ond mae’r rhaglen wedi newid y farn honno’n llwyr. Rwy'n teimlo nawr y gallai'r mentoreion rydyn ni wedi'u cefnogi gadw i fyny â'r gwaith rydyn ni'n ei wneud a bod yn ddefnyddiol ac yn gynhyrchiol i ni o fewn y tîm. Mae wedi newid y ffordd rwy’n gweld graddedigion yn llwyr ac mae’n agor cronfa dalent arall i ni.”

I ddarganfod mwy am Fentora Gyrfa a sut i gymryd rhan yn rhaglen 2023/24, ebostiwch workexperience@caerdydd.ac.uk

Rhannu’r stori hon

Yma, cewch wybod sut mae ein rhagoriaeth ym meysydd ymchwil, trosglwyddo technoleg, datblygu busnesau a mentrau myfyrwyr, yn arwain ein gweledigaeth.