Arloeswr catalysis yn ennill Gwobr yr Amgylchedd
16 Mehefin 2023
Mae athro blaenllaw o Brifysgol Caerdydd a gafodd ei sbarduno gan nam ar y golwg i adeiladu gyrfa ymchwil o fri, wedi’i anrhydeddu am ei waith arloesol yn creu catalyddion sy’n helpu’r amgylchedd.
Mae'r Athro Stuart Taylor, Cyfarwyddwr Ymchwil yr Ysgol Cemeg, wedi ennill Gwobr Amgylcheddol y Gymdeithas Gemeg Frenhinol.
Mae dyfyniad gan Lywydd y Gymdeithas, yr Athro Gill Reid, yn nodi bod yr Athro Taylor wedi ‘darganfod catalyddion sydd wedi'u masnacheiddio ar gyfer diogelu'r amgylchedd, gan gynnwys catalyddion ocsideiddio carbon monocsid ar gyfer cymwysiadau cynnal bywyd hanfodol.’
“Rwy'n falch iawn o dderbyn y wobr hon,” meddai’r Athro Taylor. "Mae'n adlewyrchu cyflawniadau dros nifer o flynyddoedd ac rwy'n ddiolchgar iawn i'm holl fyfyrwyr, cydweithwyr a chydweithredwyr sydd wedi fy nghefnogi trwy gydol fy ngyrfa a gwneud yr ymchwil mor bleserus."
Mae catalydd yn sylwedd sy'n cynyddu cyfradd adwaith cemegol ond nad yw'n cael ei newid yn yr adwaith. Amcangyfrifir bod angen catalydd ar o leiaf 80% o nwyddau i’w gweithgynhyrchu.
Gyda mwy na 30 mlynedd o brofiad mewn ymchwil catalysis heterogenaidd, 350 o bapurau a thros 14,000 o ddyfyniadau, mae’r Athro Taylor yn cael ei nodi’n gyson ymhlith y 2% uchaf o ymchwilwyr gan Safle Gwyddonwyr y Byd Prifysgol Stanford.
Yn Gymrawd i Gymdeithas Ddysgedig Cymru, dyfarnwyd Medal Catalysis Syr John Meurig Thomas 2022 gan Hyb Catalysis y DU i’r Athro Taylor.
Yn ystod camau cynnar ei yrfa academaidd, daeth yr Athro Taylor yn ddall cofrestredig - cyfnod pontio sy'n cyflwyno heriau parhaus.
“Fwy na 22 mlynedd yn ddiweddarach, nid wyf yn gweld fy nam ar y golwg yn rhwystr. Mewn gwirionedd, mae wedi dod yn ysgogiad i mi ganolbwyntio ar yr hyn y gallaf ei gyflawni, yn hytrach na meddwl am fy nghyfyngiadau. Ym maes ymchwil gwyddor gemegol, rwy’n cael fy atgoffa bod safbwyntiau amrywiol yn hanfodol i hyrwyddo cynnydd gwyddonol trwy ddisgwrs, ac mae hyn ond yn pwysleisio i mi ein bod ni i gyd yn gweld pethau’n wahanol.”
Dywedodd yr Athro Damien Murphy, Pennaeth yr Ysgol Cemeg: “Rwyf wrth fy modd gyda’r gydnabyddiaeth amserol a haeddiannol hon o ymchwil Stuart fel derbynnydd Gwobr Amgylchedd, Cynaliadwyedd ac Ynni RSC 2023 – yr Amgylchedd. Mae ei ddealltwriaeth sylfaenol o ddatblygiad catalyddion ar gyfer cyflawni effaith byd go iawn mewn ocsidiad CO wedi bod yn drawsnewidiol, gan alluogi aer halogedig i gael ei buro mewn amgylcheddau heriol. Mae hon yn un o sawl enghraifft lle mae catalysis yn Sefydliad Catalysis Caerdydd yn gwneud cyfraniad cadarnhaol at arloesi a masnacheiddio, a lle mae gan ymchwil ragorol Stuart fanteision parhaol.”
Ychwanegodd yr Athro Taylor: “Fel cymdeithas, rydym yn wynebu sawl her: mae angen i ni sicrhau cyflenwadau dŵr glân, amddiffyn yr amgylchedd, a dod o hyd i ffyrdd newydd o weithgynhyrchu pethau mewn ffyrdd glanach, mwy effeithlon a chynaliadwy.
“Bydd cemeg, ac yn arbennig catalysis, yn cynnig yr atebion i gyflawni’r nodau hyn, yn ogystal â darparu technolegau ymarferol newydd i fynd i’r afael â rhai o’r problemau mwyaf dybryd sy’n ein hwynebu fel ailgylchu plastigau a brwydro yn erbyn cynhesu byd-eang.”
Mae gan yr Athro Taylor arbenigedd eang mewn astudiaethau arbrofol o gatalysis, gan fanteisio ar dechnegau paratoi ar gyfer dealltwriaeth a dylunio catalydd sylfaenol. Mae ei waith yn effeithio ar gemegau, tanwydd, cynaliadwyedd, ynni, a'r amgylchedd.
Yn dilyn ei ddyfarniad gan Bwyllgor Gwobr Amgylchedd, Cynaliadwyedd ac Ynni’r Gymdeithas, bydd yr Athro Taylor yn cael ei wahodd i draddodi cyfres o ddarlithoedd gwobrau mewn prifysgolion ledled y DU ac Iwerddon yn 2024.