Disgyblion ysgol gynradd i gael cymorth darllen a llythrennedd gan fyfyrwyr sy’n mentora
15 Mehefin 2023
Bydd plant ysgolion cynradd ledled Cymru yn cael cymorth darllen a llythrennedd yn rhan o gynllun mentora peilot dan arweiniad Prifysgol Caerdydd.
Bydd y tîm y tu ôl i’r prosiect mentora Ieithoedd Tramor Modern (ITM), lle mae myfyrwyr sy’n mentora dan hyfforddiant yn gweithio gyda phobl ifanc mewn ysgolion uwchradd i ysbrydoli cariad at ddysgu iaith, yn defnyddio’r fformiwla hon sydd wedi’i phrofi yn sail i’w gwaith gyda disgyblion iau.
I ddechrau, bydd 10 ysgol yn cael eu partneru â myfyrwyr prifysgol sy'n mentora o Brifysgolion Caerdydd a Bangor. Bydd grwpiau bach o hyd at wyth o ddysgwyr yn cael chwe sesiwn awr o hyd, wyneb yn wyneb gyda'u mentoriaid i ddatblygu eu darllen yn Saesneg.
Bydd y peilot yn canolbwyntio ar ddisgyblion ym mlynyddoedd pump a chwech i'w cefnogi ymhellach i baratoi ar gyfer yr ysgol uwchradd. Bydd darllen yn Gymraeg yn cael ei ymgorffori mewn unrhyw gamau ac uwchraddio yn y dyfodol.
Mae'r gwaith o recriwtio mentoriaid, sy'n astudio ar gyfer gradd israddedig neu ôl-raddedig, bellach wedi'i gwblhau. Bydd pob mentor yn derbyn hyfforddiant ym mis Medi a bydd y prosiect yn cael ei lansio mewn ysgolion ym mis Hydref.
Dechreuodd mentora ITM yn 2015 i gefnogi strategaeth Dyfodol Byd-eang Llywodraeth Cymru i gynyddu nifer y dysgwyr iau sy’n astudio ieithoedd ar lefel TGAU yng Nghymru. Ers hynny, mae'r prosiect wedi'i gyflwyno i dros 150 o ysgolion uwchradd ledled Cymru.
Dywedodd Lucy Jenkins, Arweinydd y Prosiect, sy’n gweithio yn Ysgol Ieithoedd Modern y Brifysgol: “Gall mentora fod yn adnodd pwerus wrth gefnogi dysgwyr a dangos iddynt yr hwyl y gellir ei gael o astudio. Mae ein myfyrwyr sy'n mentora ITM, sydd ymhellach ymlaen yn eu teithiau addysgol, wedi ysbrydoli llawer o bobl ifanc i astudio iaith ar lefel TGAU a thu hwnt.
“Heb os, bydd y dulliau hyn o fudd mawr i blant oed cynradd wrth iddynt baratoi ar gyfer yr ysgol uwchradd. Rydym yn gobeithio y bydd y cynllun yn meithrin cariad at ddarllen sydd nid yn unig yn sylfaenol i addysg lwyddiannus, ond hefyd i ddatblygu pobl ifanc hapus, hyderus a all lwyddo, pa bynnag lwybr y maent yn ei ddewis.
“Rydym yn edrych ymlaen at weithio gyda’n myfyrwyr sy'n mentora wrth iddynt ennill profiad a sgiliau amhrisiadwy.”
Dywedodd Jeremy Miles, y Gweinidog dros Addysg a’r Gymraeg, Llywodraeth Cymru: “Mae darllen yn sgil hanfodol y bydd disgyblion yn ei defnyddio trwy gydol eu hoes. Mae'n hanfodol ein bod yn tanio angerdd am ddarllen o oedran ifanc.
“Mae gwella sgiliau darllen yn flaenoriaeth genedlaethol, a dyna pam rydyn ni wedi buddsoddi £5 miliwn ychwanegol i gefnogi disgyblion, gan gynnwys sicrhau bod pob plentyn yn cael llyfr yn rhad ac am ddim.
“Bydd y rhaglen fentora darllen beilot yn cynnig manteision i wella sgiliau llythrennedd a hefyd yn meithrin cyfathrebu a hyder y mentoriaid a’r rhai sy’n cael eu mentora.”