Nofelydd tro cyntaf yn cael ei dewis ar gyfer Llyfr y Flwyddyn
12 Mehefin 2023
Cyn-fyfyrwraig ysgrifennu creadigol ar restr fer Gwobr Llyfr y Flwyddyn
Mae Dr Sophie Buchaillard (Ysgrifennu Creadigol, MA 2020, PhD ar hyn o bryd) yn un o dri awdur wedi’u cydnabod ar restr fer Gwobr Ffuglen Ymddiriedolaeth Rhys Davies Llyfr y Flwyddyn, a gyhoeddwyd fis diwethaf.
Mae This Is Not Who We Are ar y rhestr fer ynghyd âFannie gan Rebecca F. John a Drift gan Caryl Lewis.
1994, mae Iris a Victoria yn ffrindiau drwy’r post. Mae Iris yn ysgrifennu am ei bywyd gyda'i theulu ym Mharis. Mae Victoria mewn gwersyll ffoaduriaid yn Goma ar ôl ffoi o'r hil-laddiad yn Rwanda. Un diwrnod mae llythyrau Victoria yn dod i ben, a chaiff Iris wybod ei bod wedi cael ei symud. Wrth i bwysau cyfrinachau teuluol hirdymor gynyddu, a fydd y ddwy fenyw hyn byth yn dod o hyd i'w gilydd?
Mae'r awdur Franco-Gymreig Sophie Buchaillard newydd gyflwyno ei PhD Ysgrifennu Creadigol – Between Cultures: Travel Writing, Identity and the Global Novel, ac mae'n aros am ei viva yn yr Ysgol Saesneg, Cyfathrebu ac Athroniaeth. Yn gynharach eleni, daeth Sophie yn un o 10 o Awduron y Gelli ar Waith, ochr yn ochr â dau gyn-fyfyriwr yr Ysgol, Taz Rahman a Louise Mumford.
A hithau’n 30 mlynedd ers hil-laddiad Rwanda yn 2024, mae'n rhoi'r cipolwg hwn ar ei nofel sydd â’i golygon ar y wobr fawr yn ôl y sôn:
“Mae gan ffuglen y pŵer i ddyneiddio'r rhai sydd fel arall yn bell ohonom, trwy ennyn empathi yn y darllenydd. Rwy'n gobeithio y bydd This Is Not Who We Are yn sbarduno’r darllenydd i ystyried y tebygrwydd rhwng hanes diweddar a'n triniaeth gyfoes o ymfudwyr, a gofyn cwestiynau i'w hunain am y math o fyd y gallwn roi i'n plant ar gyfer y dyfodol.“
Mae Gwobr Ffuglen Ymddiriedolaeth Rhys Davies yn un o wyth gwobr Llyfr y Flwyddyn Cymru, gan gynnwys y People’s Award (am waith yn Saesneg) a Gwobr Barn y Bobl (gwobr y cyhoedd am waith yn Gymraeg).
Mae Sophie Buchaillard yn ymuno â nifer cynyddol o awduron creadigol o'r Ysgol i gael eu cydnabod gan gystadleuaeth Llyfr y Flwyddyn.
Enillodd Megan Angharad Hunter (Athroniaeth a Chymraeg, BA 2022) gyda'i nofel gyntaf tu ôl i'r awyr yn 2022. Yn 2019 enillodd Ailbhe Darcy y wobr gyda'r casgliad barddoniaeth Insistence, gyda'i chyd-ddarlithydd yng Nghanolfan Ysgrifennu Creadigol a Beirniadol arobryn y Brifysgol, Tristan Hughes, yn cipio Gwobr Dewis y Bobl Llyfr y Flwyddyn gyda Hummingbird yn 2018.
Mae Gwobrau Llyfr y Flwyddyn, a gyflwynir gan Llenyddiaeth Cymru, yn cael eu cyflwyno bob blwyddyn i’r gweithiau gorau ym meysydd ysgrifennu creadigol a beirniadaeth lenyddol mewn tri chategori: Barddoniaeth, Ffuglen, Ffeithiol Greadigol a Phlant a Phobl Ifanc.
Dywedodd Cyfarwyddwr Gweithredol Llenyddiaeth Cymru, Claire Furlong: “Braint enfawr yw cyhoeddi rhestr fer Llyfr y Flwyddyn. Mae'r Wobr yn un o uchafbwyntiau'r calendr llenyddol yng Nghymru, ac yn sicr mae'n un o uchafbwyntiau ein sefydliad. Pleser yw cyd-ddathlu llenyddiaeth Gymraeg gydag awduron, cyhoeddwyr, darllenwyr, a'r holl sector llenyddol.”
Cyhoeddir Gwobrau Llyfr y Flwyddyn 2023 mewn seremoni wobrwyo arbennig ar 13 Gorffennaf yn y Tramshed yng Nghaerdydd. Gallwch bleidleisio ar gyfer Gwobr Dewis y Bobl tan 23 Mehefin.