Popeth Tsieiniaidd ar gyfer menywod Rhiwderin
9 Mehefin 2023
Ddiwedd mis Mawrth, rhoddodd Ling He o Sefydliad Confucius Caerdydd ddarlith ynghylch ‘Popeth Tsieiniaidd’ i Sefydliad y Merched yng nghyffiniau Casnewydd.
Y thema ganolog oedd gwyliau Tsieineaidd, gyda ffocws penodol ar yr Ŵyl Wanwyn ddiweddar y mae’r Flwyddyn Newydd Tsieineaidd yn rhan fawr ohoni. Dechreuodd Ling drwy gyflwyno'r dathliadau, rhannu arferion traddodiadol poblogaidd gan gynnwys cyfeiriadau hanesyddol, yna aeth ymlaen i drafod diwylliant bwyd Tsieineaidd. Poblogaidd bob tro!
Roedd 'Popeth Tsieineaidd' yn gyfle gwych arall i bobl Cymru ddysgu am ddiwylliant Tsieineaidd, ac yn gyfle hefyd i fod yn rhan fechan o feithrin perthnasoedd trawswladol, ymwybyddiaeth a dealltwriaeth draws-ddiwylliannol. Daeth Rheolwr Cyffredinol Sefydliad Confucius Caerdydd, Tom Spare i'r digwyddiad gyda Ling, a dywedodd, "Rydym yn gweithio gydag ystod eang o sefydliadau, ysgolion a chwmnïau i ddyfnhau dealltwriaeth o ddiwylliant ac iaith Tsieina. Fel mab ac ŵyr i aelodau sydd wedi bod yn gwasanaethu Sefydliad y Merched am gyfnod hir, rwy'n falch iawn ein bod wedi cael dod i siarad ag aelodau Sefydliad y Merched, Rhiwderin."
Mae Sefydliad y Merched, sy’n dwyn yr enw y WI yn aml, wedi bodoli ers dros 100 mlynedd. Mae'r WI yn "seiliedig ar y syniad o ddod â menywod ynghyd, a thrwy hynny roi cyfleoedd addysgol iddynt a'r cyfle i wneud gwahaniaeth yn eu cymunedau."