Prosiectau AaGIC newydd
16 Mehefin 2023
Comisiynwyd CUREMeDE gan Addysg a Gwella Iechyd Cymru (AaGIC) i werthuso nifer o raglenni addysg a hyfforddiant newydd neu ddiwygiedig ar gyfer fferyllwyr a thechnegwyr fferyllfa dan hyfforddiant yng Nghymru.
Rhaglen Ôl-Sylfaen i Fferyllwyr
Mae AaGIC wedi diwygio ei raglen hyfforddi fferyllwyr ôl-Sylfaen i sicrhau bod y gweithlu presennol o fferyllwyr cymwys yn cyd-fynd â chyflwyniad y Cyngor Fferyllol Cyffredinol o safonau addysg a hyfforddiant cychwynnol newydd ar gyfer fferyllwyr. Mae CUREMeDE wedi cael y dasg o werthuso effaith y rhaglen ôl-Sylfaen newydd hon a sut mae’n cefnogi fferyllwyr i ddatblygu eu cymhwysedd a’u hyder wrth ymarfer.
I gael rhagor o wybodaeth, ewch i dudalen ein prosiect.
Lleoliadau Clinigol ar gyfer Israddedigion Fferylliaeth
Mae AaGIC yn gweithio mewn partneriaeth ag Ysgolion Fferylliaeth Cymru ym Mhrifysgolion Caerdydd ac Abertawe i gynyddu nifer y lleoliadau dysgu drwy brofiad a chlinigol sy’n rhan o’r radd MPharm pedair blynedd. Bydd lleoliadau o'r fath yn rhoi profiad i fyfyrwyr mewn lleoliadau fferylliaeth gymunedol, ysbytai a meddygon teulu a'u bwriad yw helpu i baratoi myfyrwyr fferyllwyr ar gyfer eu blwyddyn Sylfaen.
Bydd CUREMeDE yn gwerthuso’r ffordd y caiff lleoliadau clinigol eu rhoi ar waith ac yn trin a thrafod y broses o brofi cysyniad rhoi Gweithgareddau Proffesiynol Ymddiriedadwy ar waith yn ystod y cyfnod cynharach hwn o addysg a hyfforddiant fferyllwyr.
I gael rhagor o wybodaeth, ewch i dudalen ein prosiect.
Amser wedi'i Neilltuo i Fferyllwyr sy’n rhoi Presgripsiynau’n Annibynnol
Mae rôl fferyllwyr yn ehangu wrth iddynt ysgwyddo cyfrifoldebau cynyddol mewn darpariaeth gofal iechyd. Fodd bynnag, mae'r gofynion ar fferyllfeydd cymunedol yn arbennig yn golygu nad oes llawer o amser gan fferyllwyr cymunedol i fynd ar drywydd cyfleoedd dysgu a datblygu. Mewn ymateb, mae AaGIC yn treialu darparu amser a neilltuir i fferyllwyr sy'n rhoi presgripsiynau’n annibynnol. Bydd y fferyllwyr hyn yn gallu cael hyd at bum niwrnod o amser wedi’i neilltuo i gefnogi a/neu ehangu eu cwmpas ymarfer. Bydd CUREMeDE yn trin a thrafod sut mae fferyllwyr yn defnyddio eu pum diwrnod o amser wedi’i neilltuo ac a yw’n effeithio ar eu cwmpas ymarfer a’u hyder wrth ddarparu gwasanaethau rhoi presgripsiynau’n annibynnol.
I gael rhagor o wybodaeth, ewch i dudalen ein prosiect.
Rhaglen Addysg a Hyfforddiant Cychwynnol Newydd ar gyfer Technegwyr Fferyllfa
Rhaid i unigolion sy'n hyfforddi i fod yn dechnegwyr fferyllfa ddilyn rhaglen hyfforddi dwy flynedd sy'n cynnwys cwrs sy'n seiliedig ar gymhwysedd a gwybodaeth ac elfen sy’n seiliedig ar waith. Yng Nghymru, diwygiwyd y gydran cymhwysedd a gwybodaeth yn ddiweddar. Bydd CUREMeDE yn ymgysylltu â hyfforddeion a goruchwylwyr i werthuso'r rhaglen ddiwygiedig, ac yn trin a thrafod sut mae'r gydran sy’n seiliedig ar waith yn cyd-fynd â'r cwrs newydd, ac i ba raddau y mae'r rhaglen yn paratoi hyfforddeion ar gyfer ymarfer.
I gael rhagor o wybodaeth, ewch i dudalen ein prosiect.