Arbenigwyr am helpu busnesau bach a chanolig i "dorri drwy’r dwlu" o ddeallusrwydd artiffisial a gwyddorau data i wireddu buddion i fusnesau
14 Mehefin 2023
Bydd busnesau bach a chanolig sy’n gweithredu ym mhrifddinas Cymru a’r ardaloedd cyfagos yn cael cymorth drwy ddefnyddio deallusrwydd artiffisial (AI) a thechnolegau gwyddorau data, a hynny yn rhan o fenter newydd gan Brifysgol Caerdydd.
Bydd canolfan benodol hygyrch a lleol yn paru arbenigedd academaidd â busnesau ym Mhrifddinas-Ranbarth Caerdydd ac yn ardal Porth y Gorllewin sydd am ddeall yn well sut y gall arloesedd digidol drawsnewid cynhyrchiant busnesau bach a chanolig, cryfhau eu cydnerthedd a gwella eu twf.
Wedi'i hariannu gan Hartree Centre y Cyngor Cyfleusterau Gwyddoniaeth a Thechnoleg (STFC), bydd y ganolfan ymgysylltu yn cynnig cyfres o opsiynau cymorth i helpu busnesau bach a chanolig i archwilio a mabwysiadu technolegau newydd a rhai sy'n dod i'r amlwg mewn ffordd sy'n gweddu i'w hanghenion busnes.
Bydd y gwasanaethau'n cyd-fynd â meysydd cryfder dau o sefydliadau ymchwil strategol newydd Prifysgol Caerdydd, y Sefydliad Arloesedd Trawsnewid Digidol a'r Sefydliad Arloesedd Diogelwch, Troseddu a Chudd-wybodaeth (SCIII) sydd wedi'u lleoli ym Mharc Ymchwil y Gwyddorau Cymdeithasol (SPARK), sef y cyntaf o’i fath yn y byd.
Dywedodd yr Athro Alun Preece, Cyfarwyddwr Canolfan Busnesau Bach a Chanolig Hartree Centre a Chyd-gyfarwyddwr SCIII ym Mhrifysgol Caerdydd: "Rydym yn edrych ymlaen at weithio gyda busnesau bach a chanolig i’w helpu i roi’r grym yn eu dwylo i fabwysiadu technolegau deallusrwydd artiffisial blaengar. Rhan o hynny fydd eu helpu i ddefnyddio deallusrwydd artiffisial yn y ffordd orau bosibl, hyd yn oed pan does dim llawer iawn o ddata ganddynt.
Bydd y ganolfan yn helpu busnesau gyda deallusrwydd artiffisial sy’n canolbwyntio ar bobl, gan gynnwys datblygiadau diweddar mewn prosesu iaith naturiol fel ChatGPT, a chymhwyso deallusrwydd artiffisial i feysydd megis seiberddiogelwch, atal gwybodaeth anghywir, optimeiddio a delweddu.
Gan fanteisio ar fuddsoddiad diweddar yng Nghampws Arloesedd Prifysgol Caerdydd, bydd y ganolfan yn defnyddio mannau cydweithio a chyfleusterau yn adeilad sbarc|spark.
Yn ôl yr Athro Roger Whitaker, Rhag Is-Ganghellor Ymchwil ar gyfer Arloesedd a Menter Prifysgol Caerdydd: "Rydym yn falch iawn o fod yn gweithio’n rhan o bartneriaeth â Hartree Centre, gan sefydlu’r ganolfan ymgysylltu newydd i fusnesau bach a chanolig wrth wraidd mentrau arloesedd y Brifysgol.
Gan adeiladu ar rwydweithiau busnesau bach a chanolig presennol trwy Cardiff Innovations, Ysgol Busnes Caerdydd a'r Cyflymydd Arloesedd Data a gwblhawyd yn ddiweddar, nod y ganolfan yw darparu 22 o brosiectau dros 3 blynedd gyda busnesau bach a chanolig yn y rhanbarth.
Dywedodd Peter Sueref, Cyd-sylfaenydd a Phrif Swyddog Technoleg Empirisys - partner arall o Arloesedd Caerdydd: "Gall gwyddoniaeth ddigidol a data fod yn fantais gystadleuol i Gymru gan ei bod eisiau cael hunaniaeth mewn byd digidol sy’n gynyddol gysylltiedig yn fyd-eang. Mae gennym glystyrau technoleg sy’n arwain y byd ym meysydd seiber, technoleg ariannol, data a thechnoleg ac mae gennym sefydliadau gwych megis y Swyddfa Ystadegau Gwladol yn ogystal â phrifysgolion mawr wedi’u lleoli yma.
Bydd digwyddiad lansio ddydd Llun 12 Mehefin 2023 yn arddangos gwaith sydd eisoes ar y gweill, gydag astudiaethau achos ac arddangosiadau technolegol ynghylch:
- rôl arloesedd digidol mewn cynhyrchiant a chynaliadwyedd busnesau bach a chanolig
- archwilio a mabwysiadu technolegau megis dadansoddeg data a deallusrwydd artiffisial
- Busnesau bach a chanolig sydd eisoes yn arwain y ffordd ym maes mabwysiadu mentrau digidol
Dywedodd Dr John Barker, Cyfarwyddwr Cyswllt Arloesedd yn SimplyDo - partner Arloesedd Caerdydd: "Mae deallusrwydd artiffisial ac awtomeiddio yn ein helpu i ddarparu profiad corfforaethol mawr, heb yr adnoddau a’r gost i’r cwsmer o sefydliadau mwy.
"Mae’r math hwn o drawsnewid digidol yn allweddol i dwf economi Cymru. Bydd sicrhau bod busnesau bach a chanolig yn cynyddu cynhyrchiant trwy awtomeiddio yn rhoi mantais gystadleuol iddynt mewn marchnad gynyddol heriol.
Gan weithio’n agos gyda rhanddeiliaid rhanbarthol a chenedlaethol – gan gynnwys Prifddinas-Ranbarth Caerdydd a’r Bartneriaeth SETsquared – nod y ganolfan yw cynyddu capasiti a gallu ym maes trawsnewid digidol, gwella ffyniant a diogelwch, ac arloesi mewn ffordd gynhwysol a chyfrifol.
Dywedodd Colan Mehaffey, Pennaeth Arloesedd Digidol a Data ym Mhrifddinas-Ranbarth Caerdydd: "Rydym yn falch iawn o gefnogi Prifysgol Caerdydd i ddarparu’r hwb a ariennir gan Ganolfan Hartree.
"Rydym yn gweithio ar draws nifer o glystyrau diwydiannol â blaenoriaeth sy’n hanfodol i economi’r Rhanbarth ac sy’n agos at rwydwaith o fusnesau bach a chanolig sy’n gallu gwireddu buddion busnes drwy fabwysiadu AI.
Ychwanegodd Karen Brooks, Pennaeth Uwchraddio SETsquared: "Mae’n wych gweld y ganolfan BBaCh newydd hon yn cael ei sefydlu ym Mhrifysgol Caerdydd, un o’n partneriaid prifysgol SETsquared a rhanbarth lle rydym wedi ymrwymo i sbarduno twf economaidd.
Mae’r ganolfan ym Mhrifysgol Caerdydd yn un o dri ledled y DU i dderbyn cyfran o £4.5 miliwn yn rhan o raglen Canolfan Genedlaethol Arloesedd Digidol Hartree.
Bydd y safleoedd, sydd hefyd ym Mhrifysgol Newcastle a Phrifysgol Ulster, yn cael eu hariannu am dair blynedd i sefydlu rhwydwaith i helpu gyda mabwysiadu digidol a fydd ar gael yn hawdd ac yn lleol i fusnesau bach a chanolig ledled y DU.