Canfod cyflyrau'r croen
3 Mai 2016
Mae gwyddonwyr ym Mhrifysgol Caerdydd wedi creu adnodd ar-lein i helpu rhieni i ganfod a deall cyflwr firaol cyffredin ar y croen sy'n effeithio ar blant yn benodol.
Clefyd firaol ar y croen yw molluscum contagiosum sy'n aml yn effeithio ar blant hyd at 14 oed. Gall effeithio ar bobl o bob oed, ond mae systemau imiwnedd y rhan fwyaf o oedolion yn ddigon cryf i'w wrthsefyll fel arfer.
Gall y cyflwr, sy'n effeithio ar tua 1% o blant yn y DU, yn aml fynd heb ei ganfod neu ymddangos fel brech yr ieir, a dim ond yn ddiweddar y mae unrhyw driniaeth wedi bod ar gael.
Mae pant bach yng nghanol smotiau'r clefyd hwn. Gallant lidio achosion o ecsema sy'n bodoli eisoes gan achosi'r plentyn i grafu a gwneud i'r smotiau waedu a chael eu heintio. Maent yn ymddangos yn sydyn mewn cnwd lleol a bach ar y breichiau, o dan geseiliau, y cefn, y bol neu'r coesau, a gallant aros yno am fisoedd a blynyddoedd.
Aeth y tîm ymchwil, sy'n gweithio yn Ysgol Meddygaeth y Brifysgol gyda dermatolegwyr yn Ysbyty Athrofaol Cymru, ati i ganfod ffyrdd o helpu rhieni i wneud diagnosis cywir a gwybod pa mor hir y bydd y smotiau'n para fel arfer a sut bydd yn effeithio ar ansawdd bywydau'r plant.
Drwy wneud hyn, aethant ati wedyn i ddatblygu Teclyn Diagnostig Molluscum Contagiosum i Rieni (MCDTP) sy'n defnyddio'r delweddau a'r testun gorau i helpu rhieni wrth wneud diagnosis.
Mae'r teclyn, ynghyd â gwybodaeth i rieni sy'n seiliedig ar ymchwil y tîm, wedi'u defnyddio i greu gwefan rhad ac am ddim ar gyfer rhieni, meddygon teulu, clinigwyr eraill ac ymchwilwyr.
“Mae molluscum contagiosum yn broblem gyffredin, ac nid ydym yn argymell unrhyw driniaeth benodol i'r rhan fwyaf o blant ar ei chyfer,” meddai Dr Nick Francis, meddyg teulu oedd yn rhan o dîm Caerdydd.
“Fodd bynnag, mae rhieni yn dod â'u plant i'n gweld am nad ydynt yn siŵr p'un a oes ganddynt molluscum contagiosum neu gyflwr arall ar y croen. Mae ganddynt hefyd gwestiynau am ba mor hir y bydd y smotiau'n para ac a ydyn nhw'n debygol o beri niwsans i'w plentyn.
“Mae'r wefan newydd yma'n llenwi bwlch pwysig. Mae'n galluogi rhieni i wneud diagnosis cywir ac maen nhw hefyd yn cael gwybodaeth hanfodol am y cyflwr ar sail tystiolaeth. Wrth i ragor o rieni gael gwybod am y wefan, bydd angen llai o apwyntiadau gyda meddygon teulu yn ôl pob tebyg.”
Ychwanegodd yr ymchwilydd, Dr Jonathan Olsen: “Gall meddygon ddefnyddio'r teclyn yn rhad ac am ddim. Os caiff ei osod ar wefan meddygfa ochr yn ochr â dolen i'r wefan, gallai leihau nifer yr apwyntiadau ynghylch molluscum contagiosum oherwydd bydd rhieni'n gallu rheoli'r cyflwr gartref yn llwyddiannus.”
Mae'r wefan ar gael yn www.molluscum-info.com