Her Bwced Iâ wedi cynyddu rhoddion elusennol a gwirfoddoli
22 Mehefin 2023
Mae ymchwil wedi canfod bod tua miliwn o bobl wedi cyfrannu arian at achosion elusennol a bod cannoedd o filoedd wedi bod yn gwirfoddoli o ganlyniad i’r Her Bwced Iâ.
Defnyddiodd academyddion o Brifysgol Caerdydd ddata o Understanding Society, sef arolwg mawr o gartrefi sy'n cynrychioli poblogaeth y Deyrnas Unedig, i asesu'r effaith a gafodd y chwilfrydedd ar y cyfryngau cymdeithasol ar wylwyr.
Pan roedd y weithred yma’n ei hanterth yn 2014, cymharwyd unigolion a oedd yn perthyn i wefan cyfryngau cymdeithasol â'r rhai nad oedd â chysylltiad. Mae'r canlyniadau'n dangos bod cysylltiad gyda’r fideos, lle'r oedd pobl yn taflu bwced o ddŵr rhewllyd drostynt eu hunain cyn enwebu rhywun arall ar gyfer yr her, wedi cynyddu'r tebygolrwydd o gyfrannu 4.2% sy’n cyfateb i tua miliwn o bobl.
Cynyddodd tebygolrwydd o gynnig gwirfoddoli gan 13% a gwnaeth tua 900,000 o bobl rhoi o’u hamser i helpu achosion elusennol.
Canfu'r awduron bod cynydd yn y swm a roddwyd gan bobl nad oedd yn arfer rhoi llawer o arian i elusen, neu'r rhai oedd yn arfer rhoi uchafswm o £100 ar unrhyw un adeg, wrth ymateb i’r her hon.
Mae'r canfyddiadau hefyd yn datgelu bod y ffordd roedd pobl yn ymddiried yn ei gilydd wedi cynyddu 1%.
Dywedodd y cyd-awdur Dr Tommaso Reggiani o Ysgol Busnes Caerdydd: "Dyma'r tro cyntaf i ymddygiad pobl a chafodd gysylltiad gyda’r Her Bwced Iâ yn y DU gael eu hymchwilio. Mae’r ffigurau’n anhygoel ac mae’n debygol bod y cyfryngau cymdeithasol wedi rhoi hwb i bwysau gan gyfoedion, sy’n sbardun allweddol i roddion elusennol. Gallai hyn hefyd esbonio pam y penderfynodd rhoddwyr nad oedd yn arfer rhoi llawer o arian i elusen gynyddu'r swm a roddwyd. Mae astudiaethau blaenorol wedi dangos bod rhoi i elusen a gwirfoddoli yn mynd law yn llaw, felly gallai hyn esbonio pam fod y cynnydd mewn rhoddion wedi arwain at fwy o bobl yn rhoi o’u hamser i elusen.
"Gallai'r cynnydd yn y ffordd roedd pobl yn ymddiried yn ei gilydd fod wedi cael ei ysgogi gan newid yn yr hwyliau cyffredin o fewn y cyfryngau cymdeithasol. Fel arfer, mae pobl yn disgwyl dod o hyd i negeseuon sy’n mynegi casineb ac ymddygiad ymosodol ar-lein, ond yn ystod yr Her Bwced Iâ, roedd y rhan fwyaf o’r cynnwys yn ddoniol neu’n gadarnhaol.”
Roedd yr Her Bwced Iâ yn ymgyrch elusennol a chafodd gryn sylw ar rwydweithiau cyfryngau cymdeithasol yn y DU ym mis Awst 2014, gyda'r nod o gasglu arian ar gyfer ymchwil ar sglerosis ochrol amyotroffig (ALS). Dechreuodd yn yr Unol Daleithiau ym mis Gorffennaf 2014 ac yn fuan ymledodd i bob cwr o’r byd, ac roedd yn boblogaidd iawn yn y DU, Iwerddon a Canada. Ystyrir mai hon yw'r ymgyrch fwyaf llwyddiannus o'i bath.
Ychwanegodd Dr Reggiani: “Er bod ein dadansoddiad yn dangos manteision amlwg y weithred hon, ni pharhaodd yn hir iawn; Cyn gynted ag y daeth yr her i ben, aeth y tebygolrwydd o roi arian, y tebygolrwydd o ymuno â gweithgareddau gwirfoddoli, ac ymddiriedaeth yn ôl i lefelau blaenorol.
“Fodd bynnag, mae yna eithriad diddorol: roedd rhoddwyr oedd yn arfer cyfrannu symiau bach ond yna dechreuodd gyfrannu oherwydd yr Her Bwced Iâ wedi parhau i roi’n rheolaidd ar ôl hyn. Hyd yn oed os yw’r manteision am dymor byr yn unig, mae’n amlwg y gall heriau cyfryngau cymdeithasol fod yn rym er gwell.”
Mae'r papur, Social media charity campaigns and pro-social behaviour. Evidence from the Ice Bucket Challenge, wedi’i ysgrifennu ar y cyd gan Andrea Fazio (U. Rome-Tor Vergata), Francesco Scervini (U. Pavia), Tommaso Reggiani (Prifysgol Caerdydd) a’i gyhoeddi yn The Journal of Economic Psychology. Mae i’w weld yma.