Trosglwyddiad cyfartal a chyfiawn i Sero Net yng Nghymru
7 Mehefin 2023
Mae adroddiad gan academyddion Prifysgol Caerdydd yn dangos bod angen gweithredu ar frys i leihau anghydraddoldebau ac i sicrhau trosglwyddiad cyfiawn i Sero Net yng Nghymru.
Mae gan Lywodraeth Cymru darged i gyflawni Sero Net yng Nghymru erbyn 2050. Mae'r term 'Sero Net' yn cyfeirio at sefyllfa lle mae cymaint o garbon yn cael ei dynnu allan o'r atmosffer ag sy'n cael ei greu. Mae'n adlewyrchu nod cynaliadwy tymor hwy i leihau cyfanswm y carbon yn yr atmosffer drwy leihau ei gynhyrchiant. Mae academyddion wedi ymchwilio i sut y gellid trosglwyddo i Sero Net mewn ffordd deg a chynhwysol, gan 'beidio â gadael neb ar ôl.'
Er mwyn ysgrifennu’r adroddiad, gweithiodd academyddion ar y cyd â Llywodraeth Cymru, busnesau, undebau llafur, a chyrff anllywodraethol Cymru. Mae’r tîm ymchwil wedi ystyried sut y bydd yr anghydraddoldebau presennol o ran sgiliau, cyflogaeth, a gwahanu galwedigaethol yn gwneud y newid i Sero Net yn fwy heriol yng Nghymru.
Cyflwynwyd nifer o argymhellion ganddynt, gan gynnwys:
- buddsoddiad uniongyrchol mewn ynni adnewyddadwy ac i ddatblygu'r sgiliau angenrheidiol a modelu gwaith teg.
- rhaglen drawsnewid ar gyfer cydraddoldeb yn y gweithle
- rhaglen llythrennedd carbon torfol – mynd â dysgu o gymunedau i mewn i waith a dysgu o waith yn ôl i gymunedau.
Mae ymchwilwyr yn dweud y dylai'r camau hyn gyfrannu at gynhyrchu'r gweithwyr ac entrepreneuriaid amrywiol, cymwys neu wedi'u huwchsgilio, sydd eu hangen i gyflawni uchelgeisiau Sero Net Cymru.
Dyma awduron yr adroddiad: Dr Alison Parken (Ysgol Busnes Caerdydd), Dr Sara MacBride-Stewart (Ysgol y Gwyddorau Cymdeithasol), Yr Athro Rachel Ashworth (Ysgol Busnes Caerdydd), a Dr Rachel Minto (Ysgol y Gyfraith a Gwleidyddiaeth).
Gellir darllen yr adroddiad ‘Trosglwyddiad cyfartal a chyfiawn i Sero Net’ yma.