Cyfarwyddwr cwrs Prifysgol Caerdydd ymhlith golygyddion y llawlyfr cyntaf sy'n ymroddedig i waith cymdeithasol yng Nghymru
27 Mehefin 2023
Mae cyfarwyddwr rhaglen Gwaith Cymdeithasol (MA) Abyd Quinn Aziz ymhlith y grŵp golygyddol a helpodd i gyflwyno llawlyfr gwaith cymdeithasol cyntaf erioed Cymru.
Mae'r tîm golygu, sy'n cynnwys ffigurau gwaith cymdeithasol blaenllaw ym Mhrifysgol Caerdydd, Prifysgol Abertawe, a Glyndŵr Wrecsam, wedi cynhyrchu llyfr sy'n hanfodol ar gyfer gweithwyr cymdeithasol a myfyrwyr yng Nghymru.
Gwaith Cymdeithasol yng Nghymru yw'r llyfr cyntaf i gynnig astudiaeth fanwl o wahanol agweddau ar ymarfer gwaith cymdeithasol cyfredol yng Nghymru.
Mae’n dod ag ystod o leisiau ynghyd gan gynnwys academyddion, gofalwyr, myfyrwyr a phobl sy’n defnyddio gwasanaethau i ddarganfod beth sy’n gwneud cyd-destun gwaith cymdeithasol Cymru yn unigryw.
Am gyhoeddiad y llyfr, dywedodd Abyd:Roedd ysgrifennu’r llyfr yn ein galluogi i alluogi lleisiau amrywiol i siarad am eu profiad ac i ddathlu lle rydym wedi cyrraedd ar y daith gwaith cymdeithasol yng Nghymru, tra’n cydnabod beth arall sydd i’w wneud.
Gyda rhagair gan Brif Weinidog Cymru, Mark Drakeford, mae’r cyfranwyr yn archwilio cyd-destun, enghreifftiau o arferion a’r heriau presennol sy’n wynebu’r sector.
Gan gwmpasu'r wybodaeth bynciol sy'n ofynnol gan reoleiddiwr Cymru, Gofal Cymdeithasol Cymru, mae pob pennod yn archwilio agweddau unigryw ar 'y ffordd Gymreig' sy'n darparu'r sylfaen i ymagwedd y genedl at waith cymdeithasol.
Mae'r llyfr yn ystyried y goblygiadau ar gyfer ymarfer, gan gyfeirio at adnoddau allweddol ar gyfer archwiliad annibynnol pellach o'r pynciau dan sylw.
Mae’r cyfranwyr yn cynnwys y grŵp cydgynhyrchu a’r tîm addysgu Gwaith Cymdeithasol (MA) .
Mae’r uwch ddarlithydd Dan Burrows wedi ysgrifennu am ofalwyr di-dâl a’r Darllenydd David Wilkins ar waith cymdeithasol plant a theuluoedd yng Nghymru. Mae Sarah Jane Waters, cadeirydd y Grŵp Cydgynhyrchu Gwaith Cymdeithasol (PM) yn amlinellu cyfranogiad defnyddwyr gwasanaethau, gan ganolbwyntio ar raglen Prifysgol Caerdydd.
Mae’r llyfr, a gyhoeddodd Policy Press, ar gael i’w brynu o 27 Mehefin 2023.
The book considers the implications for practice, signposting to key resources for further independent exploration of the topics covered.
Contributors include the coproduction group and the Social Work (MA) teaching team.
Senior lecturer Dan Burrows has written about unpaid carers and Reader David Wilkins on child and family social work in Wales. Sarah Jane Waters, chair of the Social Work (MA) Co-production Group outlines service user involvement, with a focus on the Cardiff University programme.
The book, published by Policy Press, is available for purchase from 27 June 2023.