Cydnabod yr ymrwymiad i gynaliadwyedd a stiwardiaeth fyd-eang
12 Mehefin 2023
Rhestrwyd Prifysgol Caerdydd yn un o'r sefydliadau gorau yn y byd am ei hymrwymiad, ar draws ei gweithgareddau, i Nodau Datblygu Cynaliadwy (NDC) y Cenhedloedd Unedig.
Glasbrint cyffredin yw’r 17 o Nodau hyn, a fabwysiadwyd gan aelod-wladwriaethau yn 2015, i fynd i’r afael â heriau byd-eang allweddol gan gynnwys diraddio amgylcheddol a newid yn yr hinsawdd, anghydraddoldeb rhyw ac economaidd a thlodi ac afiechyd.
Mae Rhestr Effaith 2023 y THEyn gosod Caerdydd yn y 52ain safle o blith 1591 o sefydliadau ledled y byd – cynnydd sylweddol ar ei safle yn 2022 pan oedd Caerdydd yn y 101-200fed safle o blith 1410 o sefydliadau.
Eleni, mae gan Gaerdydd bedwar NDC yn y 50 uchaf:
NDC14: Bywyd o dan y Dŵr – yn 6ed, sef y tro cyntaf i’r Brifysgol fod yn y deg uchaf
NDC15: Bywyd ar y tir – yn 11eg
NDC12: Defnyddio a chynhyrchu’n gyfrifol - yn 24ain
NDC3: Iechyd a Lles Da - yn 31ain.
Dyma a ddywedodd yr Athro Damian Walford Davies, Dirprwy Is-Ganghellor, sy’n arwain ar waith cynaliadwyedd y Brifysgol: “Mae ein hymchwil, ein haddysgu a’n gweithgareddau o ddydd i ddydd yn gwella bywydau a’r amgylchedd ar garreg ein drws a ledled y byd.
“Mae cael ein cydnabod am ein camau i sicrhau cymdeithas iach, gydnerth a mwy cyfartal sy’n warcheidwad cyfrifol ein planed yn talu ar ei ganfed.
“Mae’n golygu y gall myfyrwyr, partneriaid a phobl eraill yn ein cymuned ac yn rhyngwladol fod yn sicr o’n hymrwymiad i gynaliadwyedd byd-eang.”
Gallwch ddod o hyd i Restr Effaith 2023 lawn y THE yma.