Ewch i’r prif gynnwys

Mae graddedigion Caerdydd ymhlith rhai mwyaf cyflogadwy y DU

12 Mehefin 2023

5 graduates in graduation gowns walking towards the camera

Mae graddedigion Prifysgol Caerdydd yn parhau i fod ymhlith y rhai mwyaf cyflogadwy a’r graddedigion y mae cyflogwyr y DU yn gofyn amdanynt fwyaf, yn ôl data newydd.

Canfu canlyniadau *arolwg Hynt Graddedigion 2020/21, fod 87% (i fyny o 84% yn 2019/20) o holl raddedigion Caerdydd a oedd yn gweithio yn y DU wedi sicrhau cyflogaeth hyfedr cyn pen 15 mis ar ôl gorffen eu hastudiaethau.

Ar ben hynny, canfu'rarolwg, a gyhoeddwyd gan yr Asiantaeth Ystadegau Addysg Uwch (HESA), fod 95% o holl raddedigion Prifysgol Caerdydd mewn cyflogaeth a/neu astudiaethau pellach, ar fin dechrau swydd neu gwrs newydd, neu'n gwneud gweithgareddau eraill megis teithio.

Mae'n golygu bod Prifysgol Caerdydd yn parhau i fod yn brif gyrchfan Cymru i raddedigion ennill y sgiliau, yr wybodaeth a'r profiad sydd eu hangen arnyn nhw i sicrhau cyflogaeth hyfedr.

Dyma a ddywedodd Claire Morgan, Rhag Is-Ganghellor, Addysg a Phrofiad Myfyrwyr Prifysgol Caerdydd: “Rydyn ni’n gwybod bod yr ychydig flynyddoedd diwethaf, yn ystod ac ar ôl y pandemig, wedi gosod heriau enfawr na welwyd eu tebyg erioed i’r grŵp hwn o raddedigion.

“Dyna pam ei bod hi’n arbennig o braf a chalonogol gwybod bod cymaint o alw am raddau Prifysgol Caerdydd o hyd gan gyflogwyr – a’n bod wedi sicrhau’r ganran fwyaf erioed o fyfyrwyr sy’n sicrhau gwaith medrus iawn.

"Fodd bynnag, dydyn ni ddim yn llaesu dwylo. Rydyn ni’n benderfynol o sicrhau bod graddedigion y dyfodol yn parhau i gael y sgiliau sydd eu hangen arnyn nhw i ffynnu ym myd gwaith.

“Mae hyn yn golygu addasu ein cwricwlwm, cynnig mwy o leoliadau, meithrin cysylltiadau rhagorol â chyflogwyr yn ogystal â rhoi cymorth o ran menter ac entrepreneuriaeth i sicrhau bod ein myfyrwyr yn cael y sgiliau sydd eu hangen arnyn nhw ar gyfer pa lwybr bynnag y maen nhw’n ei ddewis ar ôl iddyn nhw raddio.”

Arolwg Hynt Graddedigion yw’r arolwg cymdeithasol blynyddol mwyaf yn y DU.

Mae'r cwestiynau'n ymwneud â chyflogaeth, astudiaethau pellach a rhagolygon a lles y graddedigion. Gofynnir i’r graddedigion beth roedden nhw’n ei wneud mewn wythnos benodol, a elwir yn wythnos y cyfrifiad, 15 mis ar ôl iddyn nhw orffen eu cwrs.

*Arolwg Hynt Graddedigion 2020/21 - canlyniadau a gyhoeddwyd gan yr Asiantaeth Ystadegau Addysg Uwch (HESA). Cyhoeddir data agored HESA o dan drwydded (CC BY 4.0).

Rhannu’r stori hon

Eisiau gwybod mwy am fywyd ym Mhrifysgol Caerdydd? Mae'n myfyrwyr yn barod i rannu eu profiadau ac ateb eich cwestiynau ar flog Barn ein myfyrwyr.