Dyma Fy Ngwir: Lansiad llyfr yn y Senedd ar gyfer casgliad Bevan gan Nye
7 Mehefin 2023
Bydd Podlediad Hiraeth a Chanolfan Llywodraethiant Cymru Prifysgol Caerdydd ar y cyd yn cynnal lansiad swyddogol ar gyfer llyfr hanfodol o erthyglau Aneurin Bevan yn Senedd Cymru ym mis Gorffennaf.
Mewn darllediad byw o’r Senedd, bydd Nye Davies yn amlinellu ‘Bevan yn ei eiriau ei hun’, gan ddisgrifio taith wleidyddol sy’n aml yn cael ei dadansoddi’n rhy arwynebol.
Wedi’i gyhoeddi’n gynharach eleni gan Wasg Prifysgol Cymru, 'Dyma Fy Ngwirionedd' yw casgliad golygedig Nye Davies o erthyglau pwysicaf Aneurin Bevan ar gyfer cylchgrawn Tribune, o’i sefydlu ym 1937 hyd at farwolaeth Bevan ym 1960. Gan ddechrau gyda chyflwyniad sy’n disgrifio gyrfa ysgrifennu Bevan ac yn pwysleisio ei etifeddiaeth, mae’r casgliad yn arddangos ei ddadansoddiad o wrthdaro dosbarth, cyfalafiaeth, democratiaeth, y byd a sosialaeth ddemocrataidd.
Mae Mark Drakeford, AS Gorllewin Caerdydd a Phrif Weinidog Cymru, yn noddi’r digwyddiad lansio yn yr Oriel (caffi) yn Senedd Cymru ar nos Iau 6 Gorffennaf, 2023 – diwrnod ar ôl pen-blwydd y GIG.
Mae croeso i unrhyw un sydd â diddordeb yn nylanwad gwleidyddol Aneurin Bevan ar Gymru a’r DG gofrestru ar gyfer y digwyddiad yma.