Awduron wrth eu gwaith
7 Mehefin 2023
Mae tri awdur talentog ym maes ysgrifennu creadigol sydd wedi astudio gyda'r Ysgol Saesneg, Cyfathrebu ac Athroniaeth ymhlith y deg awdur a ddewiswyd ar gyfer y prosiect Awduron Wrth Eu Gwaith eleni yng Ngŵyl y Gelli.
Mae cynfyfyrwyr Caerdydd Sophie Buchaillard, Taz Rahman a Louise Mumford yn ymuno â chyd-awduron ar y rhaglen datblygu creadigrwydd 2023 ar gyfer awduron talentog newydd sydd â chysylltiad â Chymru; cefnogir y rhaglen gan Llenyddiaeth Cymru a'i hariannu gan Gyngor Celfyddydau Cymru.
Mae Awduron Wrth Eu Gwaith yn rhoi cyfle i'r awduron a ddewiswyd gymryd rhan ym mhrif ddigwyddiadau'r ŵyl lenyddol enwog yn ystod yr wythnos, gan gynnwys dosbarthiadau meistr a gweithdai gyda chyhoeddwyr, asiantau ac artistiaid rhyngwladol sefydledig.
Mae’r cyfranogwyr sydd wedi bod yn rhan o’r rhaglen dros y blynyddoedd wedi ennill nifer o wobrau ac wedi cyrraedd nifer o restrau byrion, gan gynnwys Gwobr Ryngwladol Dylan Thomas, Llyfr y Flwyddyn, Gwobr y New Welsh Writing Awards, Gwobr Ysgrifennu Newydd Wasafiri, Gwobr Cyfryngau Cymru, Gwobr ‘Rising Stars’ Cymru, a Gwobr Cymru Greadigol.
Sophie Buchaillard (Ysgrifennu Creadigol, PhD cyfredol, MA 2021)
Yn Uwch Gymrawd yr Academi Addysg Uwch, mae Sophie yn angerddol am rymuso eraill i ysgrifennu ac ysgrifennu am hunaniaeth, symudiad ac ymfudo. Mae ei nofel gyntaf This Is Not Who We Are (Seren Books, 2022) wedi cyrraedd rhestr fer Gwobr Ffuglen Ymddiriedolaeth Rhys Davies a rhestr fer Llyfr y Flwyddyn 2023.
Louise Mumford (Llenyddiaeth Saesneg, BA 2001)
Mae Louise, cyd-gadeirydd Crime Cymru, sef cydweithfa o awduron â chysylltiad â Chymru sy’n ysgrifennu ffuglen drosedd, yn rhan o'r tîm sy’n gyfrifol am yr ŵyl ffuglen drosedd, ryngwladol, gyntaf erioed yng Nghymru; Gŵyl Crime Cymru Festival. Cyrhaeddodd ei nofel gyntaf Sleepless, sydd wedi’i hysgogi gan ei phrofiad ei hun o anhwylder cwsg, 50 Uchaf Siart Kindle y DU yn 2020. Cyhoeddodd The Safe House yn 2022, a bydd The Hotel yn cael ei gyhoeddi’r haf hwn.
Taz Rahman (Athroniaeth, BA 1996; Moeseg ac Athroniaeth Gymdeithasol, MA 2009)
Sefydlodd Taz sianel farddoniaeth Youtube gyntaf Cymru, Just Another Poet, i gynyddu gwelededd beirdd Cymru yn 2019. Mae'n rhan o dîm golygyddol y cylchgrawn llenyddol argyfwng hinsawdd Modron ac yn gadeirydd pwyllgor Poetry Wales. Cyhoeddir ei gasgliad cyntaf o farddoniaeth gan Seren Books eleni.
Cynhelir Gŵyl y Gelli 2023 rhwng 25 Mai a 4 Mehefin.