Ewch i’r prif gynnwys

Mae algorithm newydd wedi gosod paramedrau ar gyfer tonnau o Covid-19

5 Mehefin 2023

Graff yn dangos gwahanol donnau o'r coronafeirws
Offeryn yw'r algorithm sy’n caniatáu i lunwyr polisïau ac arbenigwyr iechyd cyhoeddus ddeall ac ymateb yn well i ddeinameg epidemigau a phandemigau yn y dyfodol

Mae tîm o wyddonwyr wedi dyfeisio dull o ddiffinio tonnau gwahanol o Covid-19 i ddeall sut y datblygodd y feirws yn well yn ystod y pandemig.

Datblygodd yr ymchwilwyr o Brifysgol Caerdydd a Phrifysgol Rhydychen algorithm sy'n adnabod cyfnodau sylweddol a pharhaus o gynnydd, a ddisgrifir yn "donnau a arsylwwyd", pan gaiff y rhain eu cymhwyso i nifer yr achosion a’r marwolaethau dyddiol oherwydd Covid-19.

Mae eu hastudiaeth, a gyhoeddwyd yn Heliyon, yn mynd i'r afael â'r diffyg meini prawf penodol i ddiffinio pob ton o’r coronafeirws er gwaethaf y craffu helaeth ar ddata’r pandemig a’r sylw a geid yn aml ar donnau yn y cyfryngau a bywyd cyhoeddus.

Dyma a ddywedodd Dr Adam Mahdi, sylfaenydd prosiect OxCovid19 Prifysgol Rhydychen: "Mae ein dull algorithmig yn cynnig ffordd go iawn o adnabod a deall tonnau o glefydau a arsylwyd.

"O ddatgelu y mathau o Covid-19, yn ogystal â’r hyn sy’n dylanwadu ac yn eu cyfaddasu, mae ein hymchwil yn cyfrannu at y dadansoddiad ehangach o’r ffordd y datblygodd yr epidemig."

Ychwanegodd y cyd-awdur, yr Athro Ricardo Aguas o Adran Meddygaeth Nuffield ym Mhrifysgol Rhydychen: "Gall cymhwyso algorithm i sbectrwm o ddata cyfresi amser helpu i fynd i'r afael â chwestiynau epidemiolegol perthnasol: Sut gallwn ni ddiffinio orau ton epidemiolegol? Yn reddfol, byddai unrhyw un yn meddwl y byddai cyfres o achosion sy'n codi ac yn cwympo yn gyfystyr â thon. Fodd bynnag, faint y dylai godi a gollwng er mwyn iddo fod yn epidemiolegol ystyrlon?"

Adnabuwyd cyfnodau o fwy o haint yn donnau ystyrlon o'r clefyd yn hytrach nag yn amrywiadau mwy dros dro pe bai’r rhain yn ddigon hir ac yn ddigon difrifol. Anwybyddwyd gostyngiadau rhwng y tonnau oni bai bod cyfradd yr achosion yn disgyn o dan drothwy penodol y gwerth brig.

Offeryn yw'r algorithm sy’n caniatáu i lunwyr polisïau ac arbenigwyr iechyd cyhoeddus ddeall ac ymateb yn well i ddeinameg epidemigau a phandemigau yn y dyfodol. Gan eu bod yn gallu disgrifio a dadansoddi tonnau a arsylwir yn unffurf, gall penderfynwyr fireinio eu strategaethau a'u hymyraethau, gan anelu at ddull mwy effeithiol ac wedi’i dargedu o reoli clefydau.

Mae'r cyd-awdur Dr John Harvey, Cymrawd Arweinwyr y Dyfodol Ymchwil ac Arloesi’r DU (UKRI) ym Mhrifysgol Caerdydd, yn nodi bod cynnig diffiniadau unffurf ar gyfer cysyniadau na ellir eu diffinio'n hawdd yn dechneg wyddonol a ddefnyddir yn gyffredin, a bod hyn yn debyg i fesur pwysau'r corff.

Dyma a ddywedodd: "Fyddai neb yn honni bod rhywun yn troi’n berson nad yw’n pwyso digon drwy ryw rith a lledrith, a hynny yr eiliad y mae ei BMI yn mynd o dan 18.5 - does dim byd arbennig am y rhif penodol hwn ac mae pawb yn wahanol. Ond drwy dynnu’r llinell yn rhywle - yn unrhyw le - yn ei gwneud hi'n bosibl astudio effeithiau bod o dan bwysau.

"Gallwn ni wneud yr un ymarfer gyda thon. Unwaith y bydd gan rywbeth ddiffiniad, cewch ddechrau ymchwilio iddo a'i ddeall."

Defnyddiodd yr ymchwilwyr eu halgorithm i gyfuno data Covid-19 ar draws gwledydd gwahanol, gan fabwysiadu dadansoddiad tonnau-ganolog.

Wrth ddadansoddi gwledydd unigol, canfuwyd bod cryn nifer o amrywiadau yn y tonnau a arsylwyd yn olynol, yn enwedig yn achos cymhareb achosion y bobl fu farw.

Datgelodd archwiliad manylach ystodau daearyddol amrywiol ar gyfer tonnau a arsylwyd yn olynol, yn enwedig mewn gwledydd mwy eu maint.

Ar ben hynny, cadarnhaodd yr astudiaeth, a ariannwyd gan UKRI drwy 'gronfa ddata Covid-19 aml-ddull at ddibenion ymchwil', effaith ymyraethau'r llywodraeth ar gyfaddasu'r tonnau hyn, a chanfuwyd bod rhoi ymyraethau anfferyllol ar waith yn gynnar yn cyfateb i nifer lai o donnau a arsylwyd a llai o faich marwolaethau yn ystod y tonnau hynny.

Rhannu’r stori hon

Mae'r Ysgol yn ymrwymedig i addysgu, ysgolheictod ac ymchwil rhagorol, ac i gefnogi ei myfyrwyr i wireddu eu potensial academaidd.